91福利社

Cwestiynau cyffredin

Prentisiaethau鈥檙 91福利社

Yngl欧n 芒 chynlluniau prentisiaeth y 91福利社

Rydyn ni’n cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd prentisiaeth ar draws y 91福利社, gyda rhaglenni wedi’u cynllunio ar gyfer pobl ar wahanol gamau o’u taith gyrfa.

Os ydych chi’n gorffen yn yr ysgol neu’r coleg ac yn awyddus i roi hwb i’ch gyrfa, yn chwilio am newid gyrfa, neu’n dychwelyd i fyd gwaith ar ôl seibiant, mae ein prentisiaethau Lefel 2–5 yn ffordd wych o feithrin sgiliau ac ennill profiad. Mae cyfleoedd ar gael mewn meysydd fel gweithrediadau technegol, busnes, newyddiaduraeth a chynhyrchu.

Mae ein gradd-brentisiaethau Lefel 6 yn eich galluogi i ennill cymhwyster gradd wrth weithio yn y 91福利社. Mae’r cyfleoedd hyn ar gael mewn meysydd sy’n cynnwys peirianneg darlledu, peirianneg meddalwedd a data.

I’r rhai sy’n awyddus i adeiladu ar gymwysterau neu brofiad presennol, mae ein prentisiaethau Lefel 6 yn cynnig cyfle i ddatblygu sgiliau arbenigol ymhellach ac ennill cymwysterau proffesiynol mewn meysydd fel newyddiaduraeth.

Mae hyd ein cynlluniau prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar y brentisiaeth. Fel canllaw:

  • Mae ein prentisiaethau Lefel 2-5 fel arfer yn para rhwng 12 mis a dwy flynedd.
  • Mae ein gradd-brentisiaethau Lefel 6 fel arfer yn cymryd rhwng tair a phedair blynedd i’w cwblhau.
  • Mae ein prentisiaethau Lefel 6 fel arfer yn para rhwng 18 mis a dwy flynedd, yn dibynnu ar y cynllun.

Byddwch. Ar ôl cwblhau eich prentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn cael y cymhwyster cydnabyddedig sy’n gysylltiedig â’ch cynllun.

Bydd y cymhwyster a gewch yn dibynnu ar lefel y brentisiaeth a’r cynllun. Er enghraifft, mae rhai o’n prentisiaethau gradd Lefel 6 yn arwain at radd baglor, a gall rhaglenni eraill arwain at gymwysterau proffesiynol sy’n berthnasol i’r yrfa o’ch dewis.

Ydy. Mae ein holl brentisiaethau’n dod â phecyn tâl, a byddwch yn ennill o leiaf y Cyflog Byw Cenedlaethol drwy gydol eich prentisiaeth.

Mae cyflogau’n amrywio yn dibynnu ar y cynllun, gyda’r cyflogau cychwynnol presennol yn amrywio o £24,650 i £26,000. Os yw eich prif leoliad gwaith yn Llundain neu Ynysoedd y Sianel, byddwch hefyd yn cael lwfans byw ychwanegol.

Mae’r 91福利社 yn talu’r holl gostau hyfforddi sy’n gysylltiedig â phrentisiaethau, ac rydyn ni'n cynnig amrywiaeth o fentrau cymorth ariannol. Gall y rhai sy’n gadael gofal hefyd fod yn gymwys i wneud cais am fwrsariaeth a gyllidir gan y llywodraeth.

Mae prentisiaid y 91福利社 yn cael eu cyflogi ar gontractau cyfnod penodol drwy gydol eu prentisiaeth.

I rai prentisiaid, gall y cam nesaf hwnnw fod yn rôl yn y 91福利社, tra bydd eraill yn mynd ymlaen i ddatblygu gyrfaoedd llwyddiannus yn y diwydiant creadigol ehangach. Wrth i chi nesáu at ddiwedd eich prentisiaeth, byddwch yn cael cymorth gyda datblygu eich gyrfa, hyfforddiant cyflogadwyedd a chyfleoedd rhwydweithio i’ch helpu i gymryd y cam nesaf.

 

Fel prentis, byddwch yn cyfuno profiad ymarferol yn eich rôl ag amser penodol ar gyfer dysgu a datblygu. Mae hyn yn cynnwys dysgu yn y gwaith, a gafwyd drwy eich gwaith o ddydd i ddydd, a hyfforddiant i ffwrdd o’r gwaith, a ddarperir gan ddarparwr dysgu allanol.

Byddwch yn cael amser penodol yn ystod eich oriau gwaith i gwblhau eich hyfforddiant a’ch astudiaethau prentisiaeth.

Mae’r ffordd y darperir hyfforddiant yn amrywio yn dibynnu ar y brentisiaeth. Gall dysgu ddigwydd ar-lein, wyneb yn wyneb, neu drwy gyfuniad o’r ddau. Mae rhai prentisiaethau’n cynnwys diwrnod astudio penodol bob wythnos, tra bod eraill yn cael eu darparu mewn cyfnodau astudio bloc.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae hyfforddiant yn cael ei ddarparu ar gyfer prentisiaeth benodol, edrychwch ar y disgrifiad swydd a’r safon prentisiaeth ar gyfer y cynllun hwnnw.

Mae prentisiaethau’r 91福利社 ar gael ledled y DU. Fodd bynnag, bydd lleoliadau pob cynllun yn amrywio yn dibynnu ar y gofynion ar y pryd.

Gallwch chi weld ble yn union mae prentisiaeth yn hysbyseb y swydd. Os ydych chi’n chwilio am gyfleoedd mewn maes penodol, gallwch chi hefyd ddefnyddio’r swyddogaeth i hidlo swyddi yn ôl dinas, sir neu ranbarth.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi'n gwirio manylion y lleoliad yn ofalus cyn gwneud cais, er mwyn gwneud yn si诺r fod y swydd yn addas i chi.

Ar hyn o bryd mae holl gyfleoedd prentisiaeth y 91福利社 yn y Deyrnas Unedig.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd rhyngwladol neu rolau eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rydyn ni’n eich annog i chwilio yn ein swyddi gwag ar wefan .

Mae rhagor o wybodaeth am bob cynllun ar gael yn y Cyfeiriadur Cynlluniau ar ein tudalen Egluro Prentisiaethau ar y wefan gyrfaoedd.

Mae ein Diwrnodau Blasu ‘Get In’ yn ffordd wych o ddysgu mwy am fywyd yn y 91福利社 ac archwilio’r cyfleoedd sydd ar gael gennym. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth a chofrestru eich diddordeb drwy’r adran Profiad Blasu ‘Get In’ ar y wefan hon.

Rydyn ni hefyd wedi ymuno â Springpod i gynnig Rhaglen Cipolwg ar Waith Rhithiol y 91福利社 lle gallwch chi weld a chlywed am y gwahanol ddewisiadau gyrfa yn y 91福利社. Gallwch chi gwblhau ein rhaglen profiad gwaith rithiol ‘Y 91福利社 a Fi’ yma.

Gallwch chi hefyd ddilyn ar Instagram a ar TikTok i gael cipolwg ar ein prentisiaethau, ein cyfleoedd gyrfa cynnar, a sut beth yw gweithio yn y 91福利社.

Drwy gydol y flwyddyn, rydyn ni hefyd yn cynnal gweminarau lle gallwch chi ddysgu mwy am ein prentisiaethau, clywed gan brentisiaid presennol, a gofyn cwestiynau am y cyfleoedd sydd ar gael. Gallwch chi ddod o hyd i recordiadau o weminarau sydd wedi’u cynnal ar sianel . Sylwch fod yr wybodaeth sy’n cael ei rhannu yn y gweminarau hyn yn gywir ar adeg eu recordio, ond efallai fod yr wybodaeth wedi newid ers hynny.

Y prif wahaniaeth rhwng ein prentisiaethau newyddiaduraeth yw lefel y profiad a’r cymwysterau sydd eu hangen arnoch cyn i chi ymuno.

Mae ein Prentisiaeth Newyddiadurwr (Lefel 6) wedi ei chynllunio ar gyfer newyddiadurwyr newydd sy’n gallu dangos sgiliau newyddiadurol ac adrodd straeon mewn amrywiaeth o ffyrdd. Fe allai hyn gynnwys ysgrifennu erthyglau i wefan neu bapur newydd lleol, gweithio mewn gorsaf radio sydd yn rhannu cynnwys newyddion, blogio neu flogio, neu greu cynnwys ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol. Os oes gennych chi radd neu Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth yn barod, neu os oes gennych chi rywfaint o brofiad o weithio ym maes newyddiaduraeth a’ch bod chi am ddatblygu eich sgiliau newyddiadurol ymhellach a chael cydnabyddiaeth broffesiynol ar yr un pryd, mae’n bosibl mai dyma’r llwybr iawn i chi.

Fel arall, mae’r Brentisiaeth Newyddiadurwr Iau (Lefel 5) wedi ei hanelu at y rhai sydd ar ddechrau eu taith newyddiaduraeth ac sy’n frwd dros adrodd straeon a materion cyfoes. Mae’n bosibl eich bod chi wedi gadael yr ysgol neu ar fin gorffen yn yr ysgol ac yn chwilio am eich cam cyntaf i’r diwydiant. Byddwch yn ennill profiad ymarferol wrth weithio tuag at Ddiploma NCTJ mewn Newyddiaduraeth a chymhwyster prentisiaeth Lefel 5, gan eich helpu i feithrin y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer gyrfa mewn newyddiaduraeth. Canllawiau ar gyfer gwneud cais.

Mae’r trefniadau gweithio yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun prentisiaeth a’r tîm rydych chi’n ymuno ag ef. Nid oes gan bob prentisiaeth yr un patrwm gweithio. Gall rhai rolau gynnwys mwy o weithio yn y swyddfa, a gall eraill gynnwys cymysgedd o weithio wyneb yn wyneb ac o bell.

Os byddwch chi’n symud ymlaen i’r cam canolfan asesu, cewch gyfle i gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau gweithio penodol ar gyfer y swydd rydych chi wedi gwneud cais amdani a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych chi.

Mae’r 91福利社 yn cydnabod y gallai fod angen i chi symud i leoliad newydd er mwyn ymgymryd â phrentisiaeth gyda’r 91福利社. Gall costau symud fod yn rhwystr i rai ymgeiswyr, ac os yw’r costau hynny’n rhwystr i gymryd rhan, rydym am helpu lle bynnag y gallwn.

Er mwyn helpu i sicrhau bod ein cyfleoedd prentisiaeth yn hygyrch i bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, mae nifer cyfyngedig o ddyfarniadau cymorth ariannol ar gyfer adleoli ar gael bob blwyddyn i’r rhai sy’n bodloni ein meini prawf cymhwystra ariannol.

I fod yn gymwys, bydd angen i chi wneud y canlynol fel arfer:

  • Symud i rôl sy’n fwy nag awr o’ch cartref presennol.
  • Dangos bod angen cymorth ariannol arnoch er mwyn gallu symud.
  • Ymgeisio am swydd y tu allan i Lundain ac Ynysoedd y Sianel.

Mae pob prentis yn cael cyflog a buddion llawn-amser. Bydd cymorth adleoli yn cael ei roi yn ogystal â hyn, a bydd hynny’n cael ei asesu fesul achos. Gofynnir i chi ddarparu tystiolaeth o’ch angen ariannol cyn i chi gael unrhyw gymorth.

Ni allwn ohirio cynigion ar gyfer ein cynlluniau prentisiaeth tan ddyddiadau dechrau hwyrach, gan fod ein carfannau’n dechrau ar ddyddiad penodol. Os na allwch chi ddechrau ar y dyddiad dechrau sydd yn yr hysbyseb, byddem ni’n eich annog i ailymgeisio pan fydd y ceisiadau’n agor ar gyfer carfan yn y dyfodol.

 

Canllawiau ar gyfer gwneud cais

Rhaid cyflwyno pob cais am swyddi yn y 91福利社, gan gynnwys ein cynlluniau prentisiaeth, drwy wasanaeth chwilio Gyrfaoedd y 91福利社: .

I wneud cais, bydd angen i chi lenwi a chyflwyno’r ffurflen gais ar-lein ar gyfer y rôl sydd o ddiddordeb i chi. Ni allwn dderbyn ceisiadau na CVs/llythyrau eglurhaol nad ydynt yn cael eu cyflwyno drwy ein safle gyrfaoedd.

Fel arfer, rydyn ni'n agor ceisiadau ar gyfer ein cynlluniau prentisiaeth tua diwedd yr hydref ar gyfer dechrau ym mis Medi y flwyddyn ganlynol.

Mae’r holl gyfleoedd yn cael eu hysbysebu ar wefan , lle byddwch chi’n gallu dod o hyd i fanylion llawn pob prentisiaeth, gan gynnwys y rôl, y lleoliad, y gofynion mynediad a’r dyddiad dechrau.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi hefyd yn dilyn ar Instagram a ar TikTok lle byddwn ni’n rhannu’r holl wybodaeth ddiweddaraf, dyddiadau pwysig a gwybodaeth am wneud cais cyn gynted ag y byddan nhw ar gael.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n treulio amser yn edrych ar yr holl gyfleoedd prentisiaeth sydd ar gael i’ch helpu i ddod o hyd i’r rhai sy’n gweddu orau i’ch diddordebau, eich sgiliau a’ch nodau gyrfa.

Mae ein gradd-brentisiaethau Lefel 2-5 a rhywfaint o’n gradd-brentisiaethau Lefel 6 fel arfer wedi eu hanelu at y rhai nad ydynt wedi cwblhau gradd eto. Os oes gennych chi radd yn barod, profiad sylweddol mewn maes penodol, neu os ydych chi wedi cwblhau prentisiaeth yn y gorffennol, mae’n bosibl yr hoffech chi ystyried un o’n prentisiaethau lefel ôl-radd.

Sylwch fod y gofynion cymhwysedd yn amrywio rhwng prentisiaethau, felly darllenwch yr hysbyseb swydd yn ofalus cyn gwneud cais i wneud yn si诺r eich bod chi’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y cynllun o’ch dewis.

Dyma rai awgrymiadau syml i’ch helpu i gyflwyno cais cryf:

  • Darllenwch yr hysbyseb yn ofalus a gwnewch yn si诺r eich bod chi’n deall y rôl a’r hyn rydyn ni’n chwilio amdano.
  • Gwiriwch y gofynion cymhwysedd cyn gwneud cais i sicrhau bod y cynllun yn addas i chi.
  • Byddwch yn chi eich hun a defnyddiwch eich cais i arddangos eich sgiliau, eich profiadau a’ch diddordebau.
  • Darllenwch drwy eich cais cyn ei gyflwyno i wneud yn si诺r fod yr holl wybodaeth yn gywir ac yn gyflawn.
  • Cyn pob cam asesu, treuliwch amser yn darllen drwy’r canllawiau sy’n cael eu rhannu â chi i’ch helpu i baratoi a deall beth i’w ddisgwyl.
  • Defnyddiwch gyfeiriad e-bost rydych chi’n ei ddefnyddio’n rheolaidd fel nad ydych chi'n colli gwybodaeth gennym ni, oherwydd byddwn yn ei ddefnyddio i gysylltu â chi drwy gydol y broses recriwtio.

Mae rhagor o wybodaeth am broses recriwtio Gyrfaoedd Cynnar y 91福利社 ar gael yma.

Mae dyddiad cau ar bob un o’n cynlluniau prentisiaeth. Bydd i’w weld yn glir yn yr hysbyseb. Mae ceisiadau fel arfer yn cau am 23:59 ar y dyddiad a nodir.

Mae ceisiadau fel arfer yn agored am sawl wythnos, ond rydyn ni’n argymell gwneud cais cyn gynted â phosibl er mwyn osgoi problemau annisgwyl yn agos at y dyddiad cau. Bydd pob cais a dderbynnir cyn y dyddiad cau yn cael ei drin yn gyfartal.

Cyn cyflwyno eich cais, cofiwch edrych drwy eich holl atebion yn ofalus, yn enwedig y rhai sy’n ymwneud â chymhwysedd ar gyfer y brentisiaeth.

Yn anffodus, ni allwn dderbyn ceisiadau unwaith y bydd y dyddiad cau wedi bod.

Os cewch eich gwahodd i gwblhau asesiad ar-lein neu fynd i ganolfan asesu, bydd y dyddiadau cau a’r cyfarwyddiadau perthnasol yn cael eu nodi yn yr e-byst y byddwch yn eu cael.

Ni allwn ymestyn y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau, asesiadau na chanolfannau asesu. Felly, rydyn ni'n eich cynghori i ddechrau llenwi’r ffurflen cyn gynted â phosibl, er mwyn caniatáu amser i ddatrys unrhyw gwestiynau neu broblemau technegol a allai fod gennych cyn y dyddiad cau.

Bydd pob hysbyseb brentisiaeth yn rhestru’n glir y lleoliad neu’r lleoliadau sydd ar gael ar gyfer y rôl honno.

Dim ond i un lleoliad y gallwch chi wneud cais fesul prentisiaeth, felly rydyn ni’n eich annog i ystyried yn ofalus pa leoliad sy’n gweithio orau i chi. Cyn gwneud cais, gwnewch yn si诺r eich bod chi’n gallu teithio’n rhwydd i’r lleoliad swyddfa o’ch dewis.

Sylwch, os bydd mwy nag un cais yn cael ei gyflwyno ar gyfer yr un brentisiaeth mewn gwahanol leoliadau, bydd ceisiadau ychwanegol yn cael eu tynnu’n ôl.

Rydyn ni’n argymell canolbwyntio ar y brentisiaeth sy’n eich cyffroi fwyaf ac sy’n cyd-fynd orau â’ch sgiliau, eich diddordebau a’ch nodau gyrfa.

Mae hyn yn rhoi’r cyfle gorau i chi ddangos eich cymhelliant a’ch brwdfrydedd ar gyfer y rôl. Fodd bynnag, os oes gennych chi ddiddordeb gwirioneddol mewn mwy nag un brentisiaeth, os ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob un, ac yn teimlo y byddwch chi’n gallu egluro’n glir pam maent yn cyd-fynd â’ch uchelgeisiau gyrfa, gallwch wneud cais am fwy nag un cynllun.

Sylwch mai dim ond un cais y gallwch ei gyflwyno fesul cynllun prentisiaeth ym mhob cylch recriwtio. Os cyflwynir mwy nag un cais ar gyfer yr un cynllun, dim ond eich cais cyntaf fydd yn cael ei ystyried a bydd ceisiadau ychwanegol yn cael eu tynnu’n ôl. Er enghraifft, os ydych chi’n gwneud cais am Brentisiaeth Cynhyrchu mewn un lleoliad, ni ddylech gyflwyno rhagor o geisiadau am yr un brentisiaeth mewn lleoliadau neu dimau eraill.

Nac ydw. Mae gan bob prentisiaeth ei meini prawf cymhwysedd a’i chwestiynau ymgeisio ei hun, felly nid yw’n bosibl trosglwyddo cais o un cynllun i’r llall.

Rydyn ni’n eich annog i dreulio ychydig o amser yn adolygu’r holl wybodaeth sydd ar gael ac yn gwneud yn si诺r eich bod chi'n gwneud cais am y brentisiaeth sy’n iawn i chi cyn cyflwyno eich cais.

Os yw ceisiadau’n dal yn agored, gallwch dynnu eich cais yn ôl a chyflwyno cais newydd am brentisiaeth wahanol yn lle hynny.

Gallwch chi ddiweddaru eich cais yn uniongyrchol drwy fewngofnodi i’ch cyfrif cyn y dyddiad cau sydd yn yr hysbyseb. Felly, os ydych chi’n credu eich bod chi wedi ateb cwestiwn ar eich cais yn anghywir mewn camgymeriad, neu os ydych chi eisiau diweddaru gwybodaeth yn eich cais, gallwch chi wneud hyn yn uniongyrchol heb orfod cysylltu â’r tîm.

Sylwch na fyddwch chi'n cael e-bost i gadarnhau bod eich cais wedi cael ei ddiweddaru. Byddwn ni’n cysylltu â chi os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol arnom. Gallwch chi wirio statws eich cais unrhyw bryd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif

Gwnewch yn si诺r fod yr holl wybodaeth yn eich cais yn gywir ac yn wir, oherwydd gallai gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol arwain at dynnu eich cais yn ôl.

Yn bendant. Mae ein prentisiaethau’n gystadleuol iawn, ac rydyn ni’n cael nifer fawr o geisiadau am bob cyfle bob blwyddyn. Roedd llawer o’n prentisiaid presennol a chyn-brentisiaid yn llwyddiannus ar eu hail gais neu hyd yn oed eu trydydd cais, felly peidiwch â digalonni os nad ydych chi’n llwyddiannus y tro cyntaf.

Gall mynd drwy’r broses ymgeisio ac asesu fod yn brofiad dysgu gwerthfawr, gan roi cyfle i chi feithrin eich sgiliau a’ch hyder. Rydyn ni’n eich annog i fyfyrio ar unrhyw adborth a gewch a’i ddefnyddio i gryfhau ceisiadau yn y dyfodol. Treuliwch amser hefyd yn myfyrio ar yr hyn rydych chi ei eisiau o rôl gan y gallai hyn fod wedi newid ers eich cais mewn blynyddoedd blaenorol, ac felly mae'n bosibl y byddwch chi eisiau ystyried cyfle gwahanol.

Na, does dim angen i chi gyflwyno CV na llythyr eglurhaol wrth wneud cais am brentisiaeth gyda’r 91福利社. Ni fydd y tîm cyflogi yn adolygu hyn. Yn hytrach, byddwch yn cwblhau eich cais yn uniongyrchol drwy ein porth gyrfaoedd. Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n rhoi o’ch amser i lenwi pob adran yn ofalus ac yn gywir, gan y bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei defnyddio i asesu eich cais.

Os oes gan y brentisiaeth ofynion penodol o ran cymwysterau, gwnewch yn si诺r eich bod chi’n cynnwys manylion llawn y cyrsiau rydych chi wedi eu hastudio ac unrhyw gymhwyster rydych chi wedi ei ennill, oherwydd gellir defnyddio’r wybodaeth hon i benderfynu a ydych chi’n gymwys ar gyfer y cynllun.

Drwy gydol y broses recriwtio, rydyn ni’n awyddus i ddysgu mwy am eich sgiliau, eich potensial a’ch diddordebau, yn ogystal â’r hyn sy’n eich cymell i wneud cais am y rôl.

Mae gennym ddiddordeb yn y ffordd rydych chi’n dangos ein gwerthoedd a’n hymddygiad, yn ogystal â’ch potensial i ddysgu a thyfu. Ein nod yw canfod unigolion a fydd yn ffynnu mewn amgylchedd cydweithredol ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at y 91福利社 a’i gynulleidfaoedd. Rydyn ni’n gwerthfawrogi amrywiaeth o ran meddwl, profiad a chefndir.

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein proses enwebu mor hygyrch a chynhwysol â phosibl.

Os oes angen addasiadau arnoch chi i'ch helpu i gwblhau eich cais neu gymryd rhan mewn asesiadau neu gyfweliadau, cysylltwch â ni  a dewis 'Addasiadau Rhesymol' fel y pwnc. Rhowch wybod i ni pa gymorth y gallai fod ei angen arnoch, a byddwn ni’n hapus i drafod y dewisiadau sydd ar gael.

Gallwn ni eich cefnogi mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys addasu ein prosesau ymgeisio a dethol i sicrhau eich bod chi’n gallu perfformio ar eich gorau drwy gydol y daith recriwtio.

Addasiad rhesymol yw newid neu gymorth a roddir ar waith i sicrhau nad yw anabledd, cyflwr neu nam yn eich rhoi dan anfantais yn ystod y broses recriwtio.

Mae addasiadau wedi eu teilwra i’ch anghenion unigol a gallant gynnwys pethau fel amser ychwanegol i gwblhau asesiadau, cael cwestiynau cyfweliad ymlaen llaw, defnyddio isdeitlau yn ystod cyfweliadau ar-lein, neu gymorth gan ddehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud ein proses recriwtio mor hygyrch a chynhwysol â phosibl. Os oes angen addasiadau arnoch chi ar unrhyw adeg, rhowch wybod i ni. Byddwn yn fwy na pharod i drafod eich gofynion a gweithio gyda chi i roi’r cymorth cywir ar waith.

Mae’r 91福利社 yn falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ac mae wedi ymrwymo i greu proses recriwtio gynhwysol. Ar gyfer cyfleoedd prentisiaeth, bydd ymgeiswyr anabl sy’n dewis gwneud cais o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd ac sy’n bodloni’r meini prawf sylfaenol ar gyfer y rôl yn symud ymlaen i gam nesaf y broses recriwtio fel arfer.

Ar gyfer y rhan fwyaf o ymgyrchoedd prentisiaethau, y cam nesaf yw asesiad ar-lein sydd wedi’i gynllunio i asesu eich sgiliau, eich cymhellion a’ch addasrwydd ar gyfer y rôl. Oherwydd y nifer fawr o geisiadau a ddaw i rai cyfleoedd prentisiaeth, efallai na fydd yn ymarferol bob amser i symud pob ymgeisydd ymlaen er ei fod yn bodloni’r meini prawf sylfaenol. Yn yr amgylchiadau hyn, ac yn unol â chanllawiau Hyderus o ran Anabledd y Llywodraeth, efallai y byddwn ni'n bwrw ymlaen â’r ymgeiswyr gorau sy’n bodloni’r meini prawf a gyhoeddwyd, fel y byddem yn ei wneud ar gyfer pob ymgeisydd.

Os hoffech chi gael eich ystyried o dan y Cynllun Hyderus o ran Anabledd, dewiswch "Ydw" wrth ateb cwestiynau'r cais. Ni fydd dewis yr opsiwn hwn yn effeithio ar sut y caiff eich cais ei asesu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am .

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn dysgu mwy am fywyd yn y 91福利社, mae ein Diwrnodau Blasu Get In yn lle gwych i ddechrau. Maent yn cynnig cipolwg ar yr amrywiaeth o yrfaoedd sydd ar gael ar draws y 91福利社 a’r cyfleoedd sydd gennym i’w cynnig. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adran Profiad Blasu Get In ar y wefan hon.

Rydyn ni hefyd wedi gweithio gyda Springpod i lansio rhaglen profiad gwaith rhithiol: Y 91福利社 a Fi. Mae’n bosibl mai Rhaglen Cipolwg ar Waith Rhithiol y 91福利社 yw’r cyfle sydd ei angen arnoch i’ch helpu gyda’r camau a’r penderfyniadau nesaf hynny. Gallwch gwblhau ein rhaglen profiad gwaith rithiol

Os oes gennych chi gwestiwn ar ôl mynd drwy’r wybodaeth yn y Cwestiynau Cyffredin yma ac ar ein gwefan, gallwch chi gysylltu â’r tîm Gyrfaoedd Cynnar, .

Wrth lenwi’r ffurflen, rydyn ni'n argymell eich bod chi'n llenwi pob adran yn ofalus ac yn darparu gwybodaeth gywir. Bydd hyn yn ein helpu ni i gyfeirio eich ymholiad at y tîm cywir a sicrhau ein bod ni’n gallu eich cefnogi chi cyn gynted â phosibl.

Sylwch y gallai gwybodaeth anghywir neu anghyflawn arwain at oedi, oherwydd efallai y bydd angen i ni gysylltu â chi i gael rhagor o fanylion cyn y gallwn ni helpu gyda’ch ymholiad.

 

Pwy sy鈥檔 gymwys

Mae’r cymwysterau sydd eu hangen yn dibynnu ar y rôl rydych chi’n gwneud cais amdani. Cyn cyflwyno eich cais, darllenwch y disgrifiad swydd yn ofalus, gan ei fod yn cynnwys yr wybodaeth fwyaf cywir a chyfredol am gymhwysedd.

Wrth wirio a ydych chi’n gymwys, ystyriwch y canlynol:

  • Oedran: Rhaid i chi fod yn 18 oed erbyn dyddiad dechrau’r cynllun. Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer ein cynlluniau Lefel 3-7.
  • Gofynion o ran Hawl i Weithio a Phreswyliaeth: Rhaid i chi fodloni’r gofynion hawl i weithio a phreswyliaeth a amlinellir yn y disgrifiad swydd. Ar gyfer ein prentisiaethau, mae’r rhain fel arfer yn golygu bod yn rhaid i chi fod wedi byw yn y DU yn barhaus am y tair blynedd diwethaf cyn i’r brentisiaeth ddechrau a bod â’r hawl i weithio’n llawn-amser yn y DU drwy gydol y brentisiaeth. Am fanylion llawn am y gofynion preswylio ac eithriadau i’r meini prawf cymhwysedd, cyfeiriwch at y canllawiau diweddaraf ar gyllid .
  • Cymwysterau: Mae gofynion mynediad yn amrywio yn ôl rôl, a bydd y rhain yn cael eu hamlinellu yn y disgrifiad swydd pan fydd rolau’n fyw. Pan nad yw ceisiadau ar agor, rydyn ni'n awgrymu eich bod chi’n adolygu’r wybodaeth yng nghyfeiriadur prentisiaethau’r 91福利社 ar ein tudalen Egluro Prentisiaethau ar ein gwefan gyrfaoedd.
  • Cymwysterau sydd gennych eisoes: Os oes gennych chi gymhwyster ar yr un lefel neu lefel uwch na’r brentisiaeth, efallai y bydd hyn yn effeithio ar eich cymhwysedd yn dibynnu ar safon y brentisiaeth a’r maes pwnc.
  • Addysg flaenorol: Rydyn ni'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr o amrywiaeth o gefndiroedd addysgol. Bydd y gofynion cymhwysedd yn amrywio yn ôl y cynllun. Nid yw meddu ar radd yn eich gwneud yn anghymwys ar gyfer pob cynllun yn awtomatig. Bydd cymhwysedd yn dibynnu ar eich cymwysterau a gofynion y cynllun penodol.

Os nad ydych chi’n si诺r a ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, edrychwch ar y disgrifiad swydd perthnasol pan fydd ceisiadau ar agor, neu ar gyfeiriadur prentisiaethau’r 91福利社 ar ein tudalen Egluro Prentisiaethau ar ein gwefan gyrfaoedd.

Bydd y cymwysterau sydd eu hangen yn dibynnu ar y cynllun prentisiaeth rydych chi’n gwneud cais amdano. Mae manylion llawn y gofynion mynediad i’w gweld yn y disgrifiad swydd pan fydd ceisiadau yn agored. Nid oes gan lawer o’n cyfleoedd prentisiaeth ofynion penodol o ran cymwysterau.

Mae’n bosibl y bydd rhai cynlluniau’n gofyn am o leiaf TGAU Mathemateg a Saesneg (neu gymhwyster cyfatebol), tra bydd gan eraill ofynion academaidd ychwanegol yn dibynnu ar y lefel a’r maes pwnc.

Rydyn ni’n argymell eich bod chi’n adolygu’r meini prawf cymhwysedd yn ofalus cyn gwneud cais i sicrhau eich bod chi’n bodloni’r gofynion ar gyfer y cynllun o’ch dewis.

Os ydych chi wedi cael e-bost yn dweud nad ydych chi’n bodloni’r meini prawf cymhwysedd, mae hyn yn golygu, ar sail yr atebion a ddarparwyd yn eich cais, nad ydych chi’n bodloni un neu ragor o ofynion y brentisiaeth ar hyn o bryd.

I ddeall pam, edrychwch ar adran Meini Prawf Cymhwysedd yr hysbyseb swydd a gwirio eich ymatebion o dan yr adran Cwestiynau Penodol i Swydd yn eich . Mae’n bosibl y byddwch chi’n gweld nad yw un o’ch ymatebion yn ymateb roeddech chi’n bwriadu ei roi.

Os ydych chi o’r farn eich bod chi’n bodloni’r gofynion neu wedi ateb cwestiwn yn anghywir, gallwch ddiweddaru eich cais cyn dyddiad cau’r swydd wag. Bydd eich cais wedyn yn cael ei adolygu’n awtomatig. Gwnewch yn si诺r bod yr holl wybodaeth a ddarperir yn eich cais yn gywir ac yn wir, oherwydd gallai gwybodaeth anghywir neu gamarweiniol arwain at dynnu eich cais yn ôl.

Rydyn ni’n eich annog i ystyried yn ofalus pa lefel prentisiaeth sy’n addas ar gyfer eich sgiliau, eich profiad a’ch nodau gyrfa. Ar gyfer rhai cynlluniau prentisiaeth, gall cymwysterau blaenorol, hyfforddiant neu brofiad effeithio ar eich cymhwysedd i wneud cais.

Amlinellir gofynion cymhwysedd penodol sy’n ymwneud â dysgu blaenorol ym mhob disgrifiad swydd pan fydd ceisiadau yn agored. Cyn cyflwyno eich cais, gwnewch yn si诺r eich bod chi wedi rhoi manylion cywir am eich cymwysterau a’ch profiad, ac wedi adolygu eich ymatebion i’r holl gwestiynau cymhwysedd yn ofalus.

Fel canllaw cyffredinol, os ydych chi wedi astudio pwnc y brentisiaeth ar yr un lefel neu’n uwch, mae’n bosibl na fyddwch chi’n gymwys. Os nad ydych chi’n si诺r a allai eich haddysg flaenorol effeithio ar eich cymhwysedd, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n edrych ar y disgrifiad swydd perthnasol i gael rhagor o arweiniad.

I fod yn gymwys i wneud prentisiaeth, rhaid i chi fod â’r hawl gyfreithiol i weithio yn y DU yn llawn amser drwy gydol y cynllun. Mae’n rhaid i chi hefyd ddiwallu gofyniad preswylio’r brentisiaeth ac wedi bod yn breswylydd yn y DU am o leiaf 3 blynedd cyn dyddiad dechrau’r cynllun.

Oes. Mae prentisiaethau’r 91福利社 yn agored i bobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd, gan gynnwys y rhai sy’n awyddus i ddechrau gyrfa newydd. Mae llawer o’n rhaglenni wedi eu cynllunio i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau newydd a chael profiad ymarferol, waeth beth fo’u diwydiant neu eu proffesiwn blaenorol. Gall newid gyrfa ddod â safbwyntiau gwerthfawr a sgiliau trosglwyddadwy, ac rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan unigolion ar wahanol gamau yn eu gyrfaoedd. Rydyn ni’n argymell adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pob prentisiaeth i ddod o hyd i’r cyfleoedd sy’n cyfateb orau i’ch profiad a’ch nodau. 

Os oes gennych chi radd yn barod, mae’n bosibl yr hoffech chi edrych ar ein prentisiaethau lefel uwch sy’n cael eu cynnig gan y 91福利社. Mae’r cynlluniau hyn wedi eu cynllunio ar gyfer pobl sy’n awyddus i barhau â’u datblygiad ar ôl bod yn y brifysgol, neu ar gyfer y rhai sydd â phrofiad blaenorol mewn maes pwnc penodol. Maent yn rhoi cyfle i chi ddatblygu eich sgiliau a gweithio tuag at gymhwyster proffesiynol mewn meysydd penodol.

Os nad oes prentisiaeth lefel uwch yn eich maes diddordeb, mae’n bosibl y byddwch chi’n dal yn gymwys i wneud cais am gyfleoedd prentisiaeth eraill, ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â’ch nodau gyrfa a’ch bod chi’n bodloni’r gofynion cymhwysedd perthnasol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â dysgu blaenorol.

Mae’n bosibl y bydd gennych chi ddiddordeb hefyd mewn archwilio cyfleoedd drwy ein llwybrau hurio, llawrydd a chynllun talent profiadol sy’n cael eu hysbysebu yma.

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu’n h欧n pan fydd y brentisiaeth yn dechrau. Does dim terfyn oedran uchaf ar gyfer ein cynlluniau Lefel 3-6.

I fod yn gymwys i wneud prentisiaeth gyda’r 91福利社, rhaid i chi fod â’r hawl gyfreithiol i weithio’n llawn amser yn y Deyrnas Unedig drwy gydol y cynllun. Rhaid i chi hefyd fodloni’r gofynion preswylio prentisiaethau, sydd fel arfer yn cynnwys byw yn y Deyrnas Unedig yn barhaus am o leiaf dair blynedd cyn dyddiad dechrau’r brentisiaeth.

Ar gyfer prentisiaethau yn Guernsey neu Jersey, mae'n rhaid i chi gael yr hawl i fyw a gweithio yno yn unol â chyfreithiau’r boblogaeth a chyflogaeth leol.

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych chi’r hawl briodol i weithio drwy gydol cyfnod eich prentisiaeth. Ni allwn fwrw ymlaen â cheisiadau gan ymgeiswyr nad ydynt yn bodloni’r gofynion cymhwysedd perthnasol o ran yr hawl i weithio a chyllid prentisiaethau. Sylwch na all y 91福利社 ddarparu nawdd fisa ar gyfer rolau gyrfaoedd cynnar, gan gynnwys prentisiaethau.

Os ydych chi yn y Deyrnas Unedig ar Fisa Myfyriwr/Fisa i Raddedigion, neu os yw eich caniatâd i aros yn y Deyrnas Unedig at ddibenion addysgol yn unig, mae’n annhebygol y byddwch chi’n gymwys ar gyfer prentisiaeth gyda’r 91福利社 oni bai eich bod chi’n bodloni un o’r eithriadau a amlinellir yn rheolau cyllido prentisiaethau’r llywodraeth.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i:

I fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth gyda’r 91福利社, fel arfer mae’n rhaid i chi fod wedi bod yn breswylydd parhaus yn y Deyrnas Unedig am o leiaf dair blynedd cyn dechrau eich prentisiaeth.

Mae rhai eithriadau i’r gofyniad hwn o dan reolau cyllid prentisiaethau’r llywodraeth. Er enghraifft, mae'n bosibl y byddwch chi’n dal yn gymwys os ydych chi fel arfer yn breswylydd yn y Deyrnas Unedig ond wedi treulio amser yn byw dramor am resymau fel addysg, gwaith neu flwyddyn i ffwrdd.

Gallech fod yn gymwys hefyd os ydych yn ddinesydd yn Ardal Economaidd Ewrop (AEE) neu’r Swistir gyda Statws Preswylydd Sefydlog neu Gyn-sefydlog o dan Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (EUSS) a’ch bod chi wedi byw yn y Deyrnas Unedig, AEE, Gibraltar neu’r Swistir am y cyfnod gofynnol.

I gael manylion llawn am ofynion preswylio ac eithriadau cymhwysedd, edrychwch ar y canllawiau diweddaraf ar gyllid prentisiaethau ar wefan GOV.UK yma: .

Os ydych chi’n byw yn y Deyrnas Unedig ar Fisa Myfyriwr, ni fyddwch fel arfer yn gymwys i gael prentisiaeth gyda’r 91福利社 o dan reolau cyllido prentisiaethau presennol y Deyrnas Unedig.

Rheoliadau’r llywodraeth sy’n pennu cymhwysedd cyllid prentisiaethau, sy’n gallu newid dros amser. Rydyn ni’n argymell adolygu’r canllawiau diweddaraf ar wefan Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gael y manylion llawn am gymhwysedd a’r wybodaeth ddiweddaraf: .

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd eraill yn y 91福利社, rydyn ni’n eich annog i edrych ar ein swyddi gwag ar wefan 91福利社 Careers.

Ar hyn o bryd mae holl gyfleoedd prentisiaeth y 91福利社 yn y Deyrnas Unedig.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cyfleoedd rhyngwladol neu rolau eraill y tu allan i’r Deyrnas Unedig, rydyn ni’n eich annog i chwilio drwy ein swyddi gwag ar wefan Gyrfaoedd y 91福利社.

Mae’r 91福利社 yn croesawu ac yn annog ceisiadau gan bobl anabl o bob cefndir ar gyfer pob un o’r cyfleoedd prentisiaethau mae’n eu hysbysebu.

Ar ben hynny, mae rhai rolau prentisiaeth yn cael eu cynnig drwy 91福利社 Extend, rhaglen gweithredu cadarnhaol y 91福利社 ym maes cyflogaeth ar gyfer pobl anabl, gan gynnwys y rhai sy’n ystyried eu hunain yn bobl fyddar a/neu niwrowahanol. Dim ond i ymgeiswyr sy’n ystyried eu hunain yn anabl o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (neu Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995 yng Ngogledd Iwerddon) y mae’r rolau hyn yn agored.

Mae 91福利社 Extend yn helpu i greu mwy o gyfleoedd i bobl anabl, sydd ar hyn o bryd wedi eu tangynrychioli yng ngweithlu’r 91福利社.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae pobl yn cael eu hystyried yn anabl os oes ganddynt nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol hirdymor a sylweddol ar eu gallu i gyflawni gweithgareddau dyddiol arferol. Nid oes rhestr ddiffiniol o gyflyrau y gellir eu hystyried yn anabledd o dan y Ddeddf.

I gael rhagor o wybodaeth am 91福利社 Extend ac a allech chi fod yn gymwys, ewch i’r adran 91福利社 Extend ar ein gwefan gyrfaoedd.

Os ydych chi’n cael cynnig y rôl hon, bydd y 91福利社 yn cynnal gwiriadau sgrinio cyflogaeth sy’n cynnwys gwirio geirdaon; gwiriadau cymhwysedd i weithio; ac, os yw’n berthnasol i’r swydd, gwiriadau diogelu a gwiriadau ar negeseuon anffafriol ar y cyfryngau/cyfryngau cymdeithasol. Mae unrhyw gynnig yn amodol ar gael gwiriadau boddhaol.

 

Camau asesu

Gall yr amserlen amrywio yn dibynnu ar y cynllun a nifer y ceisiadau a gawn. O ganlyniad, gall rhai camau o’r broses recriwtio gymryd mwy o amser nag eraill.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses ac yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch chi ddisgwyl clywed gennym ar bob cam. Byddwn hefyd yn rhannu dyddiadau allweddol ac amserlenni cyn gynted ag y cânt eu cadarnhau.

Ar gyfer y rhan fwyaf o gynlluniau prentisiaeth, mae canolfannau asesu fel arfer yn cael eu cynnal rhwng mis Ionawr a mis Ebrill.

Bydd yr amser sydd ar gael i gwblhau asesiadau neu dasgau cyn-asesu yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun. Bydd dyddiadau cau a chyfarwyddiadau’n cael eu cyfleu’n glir pan fydd yr asesiad neu’r dasg yn cael ei hanfon atoch.

Rydyn ni’n argymell cwblhau tasgau cyn gynted â phosibl yn hytrach nag aros tan y dyddiad cau, gan fod hyn yn rhoi amser i fynd i’r afael ag unrhyw fater technegol annisgwyl ac yn sicrhau bod eich cyflwyniad yn cael ei dderbyn yn brydlon.

Bydd yr amser mae’n ei gymryd i gael canlyniad yn amrywio, yn dibynnu ar y cynllun prentisiaeth a nifer y rolau sy’n cael eu recriwtio.

Byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi drwy gydol y broses recriwtio ac yn darparu gwybodaeth am amserlenni disgwyliedig ar bob cam. Os byddwch chi'n symud ymlaen i ganolfan asesu neu gyfweliad, byddwn yn rhannu manylion mwy penodol ynghylch pryd y gallwch ddisgwyl clywed canlyniad eich cais.

Mae’r broses recriwtio yn amrywio yn dibynnu ar y cynllun. Mae’n bosibl y bydd rhai yn gofyn i chi gwblhau asesiadau ar-lein fel rhan o’ch cais ac mae'n bosibl y bydd gan eraill dasg dechnegol.

Byddwn yn eich tywys drwy bob cam o’r broses ac yn rhoi gwybodaeth glir am asesiadau, tasgau ac amserlenni allweddol, er mwyn i chi wybod yn union beth i’w ddisgwyl a phryd.

Os byddwch chi’n symud ymlaen i ganolfan asesu neu gyfweliad, cewch gyfle i ofyn am adborth, p’un a yw eich cais yn llwyddiannus ai peidio.

Ar gyfer llawer o’n hasesiadau ar-lein, byddwch chi hefyd yn cael adroddiad adborth i’ch helpu i ddeall eich canlyniadau’n well. Dylai eich adroddiad adborth fod ar gael drwy’r ddolen yn yr e-bost a anfonwyd ar ôl i chi gwblhau eich asesiad. Teitl yr e-bost fydd “Eich adroddiad adborth asesu ar-lein o’ch cais i’r 91福利社”. Edrychwch yn eich ffolder sbam neu sothach, gan fod yr e-bost yn gallu mynd i’r fan honno weithiau.

Yn anffodus, oherwydd y nifer fawr o geisiadau a gawn, ni allwn ddarparu adborth unigol ar bob cam o’r broses recriwtio.

Gallwch chi wirio hynt eich cais unrhyw bryd drwy fewngofnodi i’ch cyfrif . Byddwn ni hefyd yn anfon diweddariadau drwy gydol y broses recriwtio i’r cyfeiriad e-bost sy’n gysylltiedig â’ch proffil, felly mae’n bwysig defnyddio cyfrif e-bost y gallwch chi gael mynediad ato’n rheolaidd.

Yn aml, bydd oedi byr rhwng cwblhau unrhyw asesiadau a bydd hyn yn cael ei adlewyrchu yn eich cyfrif Gyrfaoedd y 91福利社. Os nad ydych chi wedi cael diweddariad ar ôl 72 awr, cysylltwch â ni gan ddefnyddio .


Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: