Diweddarwyd y dudalen: 19 Awst 2020
Pa fath o hysbysiadau fydda’ i’n eu cael?
Ar hyn o bryd, gallwn ni roi hysbysiadau i chi ynglÅ·n â phenodau newydd o raglenni rydych chi wedi eu hychwanegu i 91¸£ÀûÉç iPlayer, a sioeau rydych chi wedi tanysgrifio iddyn nhw yn 91¸£ÀûÉç Sounds.
Mae hysbysiadau wedi eu personoleiddio ar gyfer gwasanaethau eraill, fel adrannau tywydd, plant, newyddion a chwaraeon y 91¸£ÀûÉç, ar y gweill hefyd.
Gallwch hefyd dderbyn hysbysiadau ar apiau gwasanaethau fel 91¸£ÀûÉç News, sydd ddim wedi eu cysylltu â'ch cyfrif 91¸£ÀûÉç. Gallwch ddysgu mwy am hyn yn yr ap ei hun.
Fydda’ i’n cael hysbysiadau ar wefan y 91¸£ÀûÉç ac yn apiau’r 91¸£ÀûÉç?
Gallwch weld eich hysbysiadau personol ar wefan y 91¸£ÀûÉç drwy glicio ar y gloch ar frig unrhyw un o dudalennau'r 91¸£ÀûÉç. Bydd rhain wedi eu seilio ar bethau rydych chi wedi eu hychwanegu neu danysgrifio iddyn nhw, fel rhaglenni teledu neu bodlediadau.
Rydyn ni'n treialu hysbysiadau wedi eu personoleiddio yn yr apiau Sounds a Bitesize. Ac rydyn ni'n edrych ar apiau eraill hefyd, felly cadwch olwg am fanylion.