Trywanu Yn Ysgol Dyffryn Aman
Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cymryd cipolwg ar rai o achosion troseddol fwyaf cymhleth a dadleuol Cymru, gan graffu ar yr hanes, y gyfraith a’r cwestiynau sy’n parhau.
Cyfres sy’n craffu ar rai o achosion troseddol fwyaf enwog, cymhleth a dadleuol Cymru. Y cyn-farnwr Nic Parry sy’n cael cwmni’r bobol oedd yn rhan o’r achosion ac sydd yn cofio’r effaith ddofn gafwyd ar gymunedau Cymru, ac yn trafod y penderfyniadau allweddol a’r digwyddiadau dramatig newidiodd fyd yr unigolion ynghlwm â’r achosion.
Wrth edrych ar elfennau cyfreithiol, datblygiadau dramatig a’r cwestiynau sy’n parhau hyd heddiw, mae’r gyfres yn gofyn: sut allai hyn ddigwydd? Pam y digwyddodd hynny? A sut y daethpwyd i’r penderfyniadau a gafodd eu gwneud?
Yn y bennod hon, mae gohebydd newyddion 91¸£ÀûÉç Cymru, Meleri Williams, yn ail-fyw un o achosion mwyaf brawychus Cymru o’r blynyddoedd diwethaf – y trywanu yn Ysgol Dyffryn Aman ym mis Ebrill 2024. Anafwyd dau athro a disgybl a gadawodd y digwyddiad effaith ddofn ar y gymuned leol gan gipio sylw'r genedl.
Cynhyrchiad Meicro Cyf. ar gyfer 91¸£ÀûÉç Radio Cymru
Dan Sylw
-
.
Podlediad
-
Lleisiau Cymru
Podlediadau Cymraeg o bob math, yn llawn lleisiau amrywiol a diddorol!