'Ar y clos, dan gysgod ei changhennau bu gweini medd o wyddfid p锚r a gwledd o fes ac aeron coch'
Cwthwm
Ar y clos, dan gysgod ei changhennau
bu gweini medd o wyddfid p锚r
a gwledd o fes ac aeron coch.
Chwiliem am lwybrau cudd y llyg
a chware cwato fel milwyr bach
cyn rhannu dagrau a chydio dwylo.
Ein gwawr a鈥檔 machlud; ein ffarwel a鈥檔 dychwelyd.
Gwarchodwr ffin a rhos.
Ond roedd twyll yn yr osgo.
Llechai clefyd yn ddwfn dan y rhisgl.
脗鈥檙 fr芒n yn plymio i chwiban storm
a chleddyfau鈥檔 brwydro hyrddiadau鈥檙 gwynt
bu cwymp rhwng sgrech y tegell a鈥檙 arllwys te
a bwlch ar y clos yn wacter trwm.
Heddiw, mae鈥檙 drws ar glo a鈥檙 llenni ar gau
a staen y te ar fwrdd yn aros.
鈥榤 ond y gwynt sy鈥檔 curo鈥檛h ddrws a neb i鈥檞 herio.
Rhiannon Iwerydd
Hyd:
Daw'r clip hwn o
Mwy o glipiau Y Talwrn
-
Cerdd yr Wythnos - Ifan Prys
Hyd: 00:52
-
Cerdd yr Wythnos - Iwan Thomas
Hyd: 01:37
-
Cerdd yr Wythnos - Myrddin ap Dafydd
Hyd: 00:41