Cerdd Criced - Derec Llwyd Morgan
Derec Llwyd Morgan yn ceisio argyhoeddi Aled fod criced yn g锚m werth chweil.
Mae Aled Hughes yn ddyddiol
Yn trafod popeth byw,
O psyche eleffantod
Yng nghreadigaeth Duw
Hyd lwybyr y planedau
A鈥檜 mesuriadau gwiw.
Cewch sgwrs un bore glawog
Am werth pelydrau鈥檙 haul,
Cewch sgwrs yn nhywydd garddio
Am fawr rinweddau tail,
A sgyrsiau athronyddol
A fynn mai鈥檙 drefn yw鈥檙 draul.
Ond mae ambell bwnc na chyffwrdd
Y gwych gyflwynydd hwn:
Nid hwyrach y鈥檌 gwrthodai
Pe c芒i y byd yn grwn.
Ac un o鈥檙 pynciau hynny
Yw g锚mau criced, m鈥檞n.
Rwy鈥檔 synnu nad yw Aled
脗鈥檌 ddiddordebau lu
Yn hoff o鈥檙 gamp wareiddiaf
Sy鈥檔 mawr ddiddori Dyn,
A hynny ar bum cyfandir,
Ie, criced, dyna鈥檙 un.
Chwaraeir hi yn Lloeger,
Ac yn yr India bell,
De Affrig sy鈥檔 ei chwarae,
A鈥檙 Aussies, hwythau鈥檔 well:
O, Aled Hughes, fy nghyfaill,
Tyrd allan o dy gell
A gw锚l Affganist芒n
A gw欧r y Carib卯
Yn arddel y g锚m Seisnig
Na werthfawrogi di.
Mor dlodaidd dy feunyddfyw
Heb ei phrydferthwch hi.
2
Drwyddi, ar hyd fy mywyd,
Mi gefais arwyr gant,
Ugeiniau yma gartref,
Ac eraill ddaeth o bant:
Wilf Wooller, Allan Watkins,
Don Shepherd Penrhyn G诺yr,
Yw rhai o鈥檙 enwau pwysig
A鈥檓 hudodd i yn llwyr.
Mae cofion am y g锚mau
Mawreddog 鈥檞elais gynt
Yn dal i鈥檓 cyfareddu
脗 minnau鈥檔 colli 鈥檔gwynt:
Mi welais Vivian Richards
A Botham yr un dydd,
Gweld Gower yn Northampton,
Gweld Younis yng Nghaerdydd.
Pa gofion chwaraeyddol
O鈥檛h echdoe, Aled Hughes,
Sydd gennyt ti yn gyfoeth,
Yn gyfoeth at dy iws?
I mi, y mae fy mywyd
Yn siarp o hyd yn rhain:
Fel petawn eto鈥檔 fachgen
Ym mhentre Cefn-bryn-brain.