05/07/2026
Y berthynas rhwng y sîn roc a’r iaith o’r 60au i Cool Cymru a grwpiau’n troi i’r Saesneg. The relationship between Welsh pop and the language from the 60s to Cool Cymru.
Roedd ‘na gyffro pan gyhoeddwyd bod y Super Furry Animals yn chwarae yn Eisteddfod Genedlaethol 2026 - y tro cynta’ ers 30 mlynedd
Ond nôl yn 1996, ymysg y cynnwrf, roedd ‘na ddadlau.
Ar ôl recordio sawl cân Gymraeg, roedd y Furries newydd ryddhau eu halbym cynta - efo pob trac yn Saesneg.
Ar y Maes yn Llandeilo yn 1996, chwibanu’r caneuon wnaeth prif leisydd y band Gruff Rhys.
Ac mewn gig gyda’r nos fe gafodd y dorf gopi am ddim o’u sengl newydd - (Nid) Hon Yw’r Gân Sy’n Mynd i Achub yr Iaith.
Hwn oedd eu hymateb i’r feirniadaeth arnyn nhw a grwpiau newydd eraill fel Catatonia, oedd hefyd efo'u gwreiddiau yn ddwfn yn y sin Gymraeg - ond hefyd wedi troi i’r Saesneg.
Mewn meysydd eraill roedd Cymry Cymraeg yn gwneud eu marc yn y byd Saesneg - ond heb feirniadaeth debyg.
I ddeall y cefndir a’r hanes mae'r gyfres yn mynd yn ôl i ddechrau'r sîn roc Gymraeg i archwilio’r berthynas gydag adfer yr iaith. Mae'r gyfres hefyd yn gofyn pa effaith gafodd penderfyniad y bandiau ar y sîn roc Gymraeg ac ar artistiaid sy’n creu cerddoriaeth heddiw.
Ar y Radio
Darllediad
- Sul 5 Gorff 2026 16:0091¸£ÀûÉç Radio Cymru