Delwedd: cyflwynwyr Blue Peter Shini Muthukrishnan, Joel Mawhinney ac Abby Cook
Yn 2023/24, daeth ein hymrwymiad amrywiaeth greadigol tair blynedd i fuddsoddi o leiaf 拢112 miliwn o gyllidebau comisiynu presennol ar gynnwys amrywiol a chynrychioliadol (gyda鈥檙 meini prawf yn cynnwys portreadau ar yr awyr, arweinwyr cynhyrchu oddi ar yr awyr a/neu arweinwyr cwmni) ar y teledu a radio, ynghyd 芒 cheisio ymrwymiad amrywiaeth oddi ar y sgrin o 20% gan ein cyflenwyr cynhyrchu teledu, i ben.
Dyma鈥檙 buddsoddiad ariannol mwyaf yn y diwydiant i sicrhau cynnwys amrywiol, gan edrych mewn modd cyfannol ar gynrychiolaeth ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Rydym yn falch ein bod wedi dyblu鈥檙 gwariant hwn dros y cyfnod o dair blynedd, gan fuddsoddi 拢243 miliwn o gyllidebau comisiynu presennol. Hefyd, mae 82% o鈥檙 holl gynyrchiadau teledu yn cyrraedd neu鈥檔 rhagori ar y targed o 20% oddi ar y sgrin.
Rydym wedi gweld effaith sylweddol dod ynghyd fel diwydiant drwy TV Access Project, wrth i ni gydweithio i sicrhau gwell cynrychiolaeth a chynhwysiant i dalent fyddar, anabl a niwrowahanol.
Rydym hefyd wedi cymryd camau ystyrlon a phwysig o ran hygyrchedd ein cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd o ddefnyddioldeb a phrofiad defnyddwyr i nodweddion fel isdeitlau, disgrifiadau sain ac Iaith Arwyddion Prydain.
Ym mis Medi 2024, gwnaethom gyhoeddi fersiwn nesaf ein hymrwymiadau o ran amrywiaeth greadigol, sy鈥檔 rhan allweddol o鈥檔 strategaeth.
Rhoi ein strategaeth ar waith: cynnwys
Ymysg rhai o鈥檔 meysydd ffocws allweddol mae:
Ysgogi cynrychiolaeth ar yr awyr ac oddi ar yr awyr drwy:
- fuddsoddi o leiaf 拢80 miliwn y flwyddyn mewn cynnwys sy鈥檔 bodloni meini prawf amrywiaeth greadigol y 91福利社 ar gyfer Teledu a Radio
- gwella ein ffocws ar sicrhau bod y straeon amrywiol a adroddir ar yr awyr yn adlewyrchu cynrychiolaeth gryfach oddi ar yr awyr mewn uwch-rolau cynhyrchu ac arweinyddiaeth mewn cwmn茂au cynhyrchu
- dwyn ein hunain i gyfrif drwy adrodd yn flynyddol o鈥檙 newydd, gyda mwy o benodoldeb yn hytrach na grwpio nodweddion amrywiol
- codi targedau cynrychiolaeth ar gyfer timau cynyrchiadau teledu ar draws ethnigrwydd, anabledd ac amrywiaeth economaidd-gymdeithasol o 20% i 25% ar draws yr holl rolau cynhyrchu
Creu diwylliant cynhwysol ar bob cynhyrchiad drwy ein Hegwyddorion Cynhyrchu Cynhwysol:
- gwallt a cholur: Bydd cynyrchiadau鈥檔 darparu gweithwyr gwallt a cholur i weithio gyda gwallt ansawdd affro ac amrywiaeth o liwiau croen
- cynyrchiadau hygyrch: Ymgorffori canllawiau o TV Access Project ar draws y diwydiant ar bob cynhyrchiad, gan gynnwys cydlynwyr mynediad, hygyrchedd lleoliadau set a chanolfannau 么l-gynhyrchu
- addysg a gwybodaeth am amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant: Mynediad i addysg, hyfforddiant ac adnoddau ar amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant ar bob cynhyrchiad er mwyn meithrin diwylliant o gynhwysiant a thryloywder
Adeiladu ar ein partneriaethau presennol yn y diwydiant drwy:
- gefnogi talent cynhyrchu a dangynrychiolir a chynyrchiadau a arweinir gan amrywiaeth, er enghraifft drwy Elevate a鈥檙 Gronfa i Gwmn茂au Annibynnol Bach
- cydweithredu ar ymyriadau ar draws y diwydiant, fel TV Access Project
Sbotolau ar gynnwys
Y tair r么l hanfodol y bydd y 91福利社 yn eu blaenoriaethu er mwyn sicrhau gwerth i bob cynulleidfa yw canfod y gwirionedd heb agenda, cefnogi鈥檙 prosesau adrodd straeon cartref gorau a dod 芒 phobl ynghyd. Mae鈥檙 tair yn dibynnu ar y 91福利社 yn pennu鈥檙 safonau uchaf posibl ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant, ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. Y flwyddyn hon, mae鈥檙 91福利社 wedi cynhyrchu rhaglenni sydd wedi ennill gwobrau sydd 芒 chynhwysiant a dilysrwydd yn rhan greiddiol ohonynt.
Dangosodd llu o gynyrchiadau safonau uchel o ran amrywiaeth a chynhwysiant a mwy o gynrychiolaeth wrth i deitlau fodloni ein meini prawf o ran amrywiaeth greadigol sef portreadu, cynrychiolaeth ar lefel uwch-arweinwyr cynhyrchu a/neu arweinwyr cwmni.
O ran cynnwys Wedi鈥檌 Sgriptio, cynhyrchodd 91福利社 Comedi raglenni sy鈥檔 portreadu cymeriadau a sefyllfaoedd sy鈥檔 ddoniol ac yn herio stereoteipiau, gan gynnwys Dreaming Whilst Black, Juice a Man Like Mobeen, y mae gan bob un ohonynt gynrychiolaeth gref ar y sgrin ac oddi ar y sgrin. Mae鈥檔 bleser gennym feithrin actorion a phobl greadigol o Brydain sy鈥檔 ennill eu tir, wrth i Gbsemisola Ikumelo (Black Ops) a Mawaan Rizwan (Juice) ennill gwobrau BAFTA ac RTS am eu perfformiadau. Mae鈥檙 teitlau hyn wedi cael eu hadnewyddu, gan dynnu sylw at ein hymrwymiad i gomed茂au sy鈥檔 adrodd straeon a dangynrychiolir. O ran Drama, mae鈥檙 teitlau y mae cynrychiolaeth a dilysrwydd yn rhan greiddiol ohonynt yn cynnwys Boarders, Waterloo Road a Best Interests, a ysgrifennwyd gan Jack Thorne.
O ran cynnwys Heb ei Sgriptio, rydym hefyd wedi gweld effaith cynnwys sy鈥檔 cysylltu pobl ac yn denu cynulleidfaoedd amrywiol ifanc, wrth i deitlau fel Gladiators a The Traitors gael eu canmol gan wylwyr, yn enwedig teuluoedd, am gynrychiolaeth gynhwysol o ran y cast a鈥檙 cyfranwyr.
Mae ein prosesau adrodd straeon arloesol yn parhau i鈥檔 gosod ar wah芒n, ac mae teitlau fel Once Upon a Time in Northern Ireland, a enillodd wobrau Grierson ac RTS, a Rose Ayling-Ellis: Signs for Change, yn dangos hyn.
Mae CBeebies Bedtime Stories yn parhau i ddangos cryfder cynrychiolaeth wrth gyrraedd ein cynulleidfaoedd amrywiol gyda darllenwyr fel Abtaha Maqsood, Mr Motivator, Carlos Gu a Lenny Rush. Y flwyddyn hon, dathlodd Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar gyda鈥檙 darllenydd newydd Rayane Cordell o Dog Squad a鈥檌 gi clywed.
Fel rhan o鈥檔 harlwy sain, mae Ability Radio 4 yn rhaglen gomedi sefyllfa wedi鈥檌 hysgrifennu a鈥檌 pherfformio gan actorion a digrifwyr anabl sy鈥檔 adrodd hanes Matt y mae ganddo barlys yr ymennydd. Mae 91福利社 Radio 1Xtra yn parhau i hyrwyddo diwylliant Du Prydeinig. Dathlodd The Carnival Family arwyr anhysbys Carnifal Notting Hill.
Mae Brown Girls Do It Too ar 91福利社 Sounds yn dathlu hunaniaethau drwy sgyrsiau gonest a doniol.
Mae hygyrchedd ein cynnwys wedi bod yn faes ffocws allweddol i ni. Cafodd y gyfres 20 mlwyddiant o Strictly Come Dancing ei harwyddo鈥檔 fyw am y tro cyntaf gan alluogi cynulleidfaoedd sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain i ymgysylltu鈥檔 llwyr 芒鈥檙 rhaglen a chymryd rhan yn y pleidleisio. Mae gan bob pennod o Doctor Who ar iPlayer isdeitlau, disgrifiadau sain ac arwyddo erbyn hyn. Rydym wedi sicrhau bod digwyddiadau byw fel Glastonbury ac Eurovision yn hygyrch. Mae fersiwn wedi鈥檌 harwyddo o Newsround hefyd ar gael i鈥檞 gwylio bob diwrnod yn ystod yr wythnos i blant sy鈥檔 defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.