|
Gwneud
y Trac i'r Raswyr Tweenies
Bydd angen:
- Paent poster
- Tâp masgio
- Rholsyn o bapur tua 3 metr o hyd
- Detholiad o fagnetau
Os hoffet wneud y Trac Rasio i'r Raswyr Tweenies er mwyn cael ras magnetau
fel y Tweenies, dyma sut i'w adeiladu! Gofyn i oedolyn am gymorth a rho
gynnig arni!
1. Dad-rolio'r rholsyn 3-metr o bapur a'i osod ar arwyneb gwastad sydd wedi
ei orchuddio'n dda.
2. Gludwch un pen o'r papur i'r pen bwrdd neu'r arwyneb gwastad gan ddefnyddio'r
tâp masgio, wedyn gwneud yr un peth ar y pen arall, gan ddefnyddio
tâp masgio eto i'w ddal yn ei le. Gwna'n sicr bod y trac rasio wedi
ei osod ar uchder sy'n gyfforddus i dy blentyn.
3. Rhoi dy Rasiwr Tweenie ar linell gychwyn y trac rasio.
4. Dal magnet o dan y trac rasio, gan sicrhau bod gennyt gysylltiad magnetig
gyda'r cylch metel ar y Rasiwr Tweenie. Gofyn i ffrind neu aelod o'r teulu
rasio yn dy erbyn di. Yr enillwr yw'r un i gael ei rasiwr ar draws y llinell
derfyn gan ddefnyddio'r magnet yn unig, a heb iddo syrthio oddi ar y trac
rasio!
|