|
Gwneud
Gwynebau Bisged Blasus
Bydd angen:
- Bisgedi
- Detholiad o felysion/losin
- Siwgwr eisin
- Bowlen cymysgu
- Llwy bren
- Dwr
Mae gwynebau bisged yn blasu'n grêt, ac maen nhw'n edrych yn grêt
hefyd! Beth am wneud rhai gwynebau bisged arbennig i dy ffrindiau i gyd?
Gofyn i oedolyn am gymorth a rho gynnig arni!
1. Yn gyntaf, rhaid gwneud y eisin drwy gymysgu'r siwgwr eisin gyda dwr.
2. Cymryd yr eisin a'i daenu ar draws top y bisgedyn.
3. Nawr cymryd y melysion/losin a'u trefnu'n ofalus ar y bisgedyn er mwyn
gwneud gwyneb. Gallet ti wneud pa bynnag fath o wyneb hoffet ti. Gadael
y bisgedi mewn lle claear sych er mwyn iddyn nhw sychu. Unwaith maen nhw'n
sych maen nhw'n barod i'w bwyta!
|