|
Gwneud
Clustiau Cwningen
Bydd angen:
- Pen ffelt pinc
- 2 stribedyn hir o gerdyn
- Tâp gludiog
- Siswrn diogelwch
Mae'r Tweenies wedi mwynhau gwneud clustiau cwningen (neu sgwarnog). Os
hoffet ti wneud rhai hefyd, dyma sut! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig
arni!
1. Gwneud band gwallt drwy fesur maint pen dy blentyn yn erbyn y darn cyntaf
o gerdyn ac wedyn torri'r cerdyn i'r hyd iawn.
2. Torri'r ddau stribedyn i siâp clustiau hir.
3. Lliwio rhan o un ochr y ddwy glust gan ddefnyddio pen ffelt pinc.
4. Plygu ochr binc y clustiau i fewn ychydig.
5. Clymu'r ddwy glust i ochr fewnol y band gwallt gan ddefnyddio tâp
gludiog, gyda'r ochr binc i fewn.
6. Rhoi'r cyfan ar dy ben. Nawr rwyt ti'n barod o fod yn sgwarnog (neu'n
gwningen)!
|