|
Gwneud
Darlun y LLeuad a'r Sêr
Bydd angen:
- Papur du
- papur aur ac arian
- Glud gliter
- Siswrn diogel
Mae'r Tweenies yn dwlu ar wneud darluniau. Gelli di hefyd wneud llun gyda'r-nos
yn union fel eu darlun nhw, gyda lleuad a sêr disglair. Gofyn i
oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
1. Cymryd y papur aur ac arian a'i dorri i siapau sêr a lleuad.
2. Gludo'r rhain dros y papur du i gyd.
3. Addurno'r darlun gyda streipiau a dotiau gan ddefnyddio'r glud gliter.
Nawr mae gen ti ddarlun sêr a lleuad y Tweenies!
|