|
Gwneud
Mwng Llew
Bydd angen:
- Cerdyn oren a brown
- Pensil
Tâp gludiog
- Siswrn diogel
Wyt ti'n hoffi gwisgo i fyny? Mae'r Tweenies yn hoffi gwneud hynny, ac
os hoffet wisgo fel brenin y jyngl, jyst dilyn y camau isod i wneud mwng
llew! Gofyn i oedolyn dy helpu a rho gynnig arni!
1. Torri'r cerdyn i ddau stribedyn eitha' hir. Wedyn, gludo nhw wrth eu
gilydd gyda thâp gludiog i ffurfio un stribedyn hir a fydd yn ffitio
o amgylch dy ben.
2. Nawr, cymryd gweddill y cerdyn a'i dorri i stribedi llai.
3. Cymryd y stribedi a'i cyrlio nhw o amgylch pensil.
4. Cymryd y stribedi wedi eu cyrlio a gludo eu pennau nhw i'r stribedyn
mwy, gan ddefnyddio tâp gludiog.
5. Nawr, cymryd y mwng a'i lapio o amgylch dy wyneb a'i dapio ar y gwaelod.
Unwaith iti wneud hyn, gelli grwydro o gwmpas fel brenin y jyngl!
|