|
Gwneud
cap pel-fâs
Bydd angen:
- Papur lliw
- Tâp tryloyw
- Siswrn
- Glud. Peniau lliw.
1. Torri stribed hir o bapur lliw. Gwneud yn sicr ei fod yn ddigon hir i
fynd o amgylch dy ben.
2. Torri siâp arall yn y papur lliw i wneud y 'big' (neu'r fflap ar
y tu blaen) ar dy gap.
3. Plygu'r papur yn hanner.
4. Gludo'r big, neu'r fflap, ar striben hir o bapur gyda thâp selo
neu gyda glud.
5. Torri cylchoedd allan o'r papur lliw sydd ar ôl er mwyn gwneud
y bathodynnau. Llunio patrymau arnyn nhw - unrhyw batrwm hoffet ti!
6. Gludo'r bathodynnau ar big dy gap. Nawr rwyt ti'n edrych yn cwl!!
|