91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

91福利社 91福利社page
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Hanes cath dew (1.24)

Hanes Guto Si么n, cath o Lanberis, sydd wedi tyfu'n rhy dew

GEIRFA
anifeiliaid anwes; cyw i芒r; medru symud; sbriws; prydau bwyd; llusgo

GWRANDO A DEALL
i) Beth yw enw cath Mair Ffowcs?
ii) Beth sy'n bod ar y gath?
iii) Pa enwau sydd gan y pentrefwyr arno?
iv) Pryd mae e'n bwyta cyw i芒r?
v) Beth arall mae e'n ei fwyta yn ystod y dydd?
vi) Sut mae e'n symud?
vii) Ble mae'r gath yn hoffi mynd?
viii) Sut rydyn ni'n gwybod ei fod yn fawr?

IAITH
a) Beth yw'r enw gwrywaidd / benywaidd cyfatebol?:
cath cwrcyn / gwrcath
........ ci
llewes ..............
caseg ...............
.......... mochyn
i芒r ..............
.......... clacwydd
buwch ..............

b) Dywedir am y gath ei bod 'yn bwyta fel ceffyl benthyg'. Pa rai, yn eich barn chi, sy'n cyfateb?

Yn yfed fel paun
Yn rhegi fel mochyn
Yn siarad fel lladd nadroedd
Yn rhochian fel pwll y m么r
Yn gweithio fel ych

c) Mae ystyr rhai geiriau yn amrywio yn y de a'r gogledd. Enghraifft o hyn yw pan yw Jonsi yn dweud "Brwnt, 'te?'. Ystyr 'brwnt' yma yw 'creulon / cas'. Yn y de, yr ystyr yw 'aflan'. Ceisiwch weld beth yw gwahanol ystyron y geiriau hyn:
allt; diniwed; llofft; blin.

TAFODIAITH
Mae'r ddau siaradwr o Wynedd. Faint o 么l tafodiaith sydd ar eu sgwrs o ran: GEIRFA; TERFYNIADAU GEIRIAU; YMADRODDION; TONYDDIAETH? Ystyriwch y sgwrs o dan y penawdau hyn.

TRAFOD
i) Anifeiliaid anwes - mantais neu rwystr? Trafodwch.
ii) Cymharwch gathod a ch冒n fel anifeiliaid anwes.

YMADRODDION
bwyta fel ceffyl benthyg; yn 么l y s么n.

Pan nad yw Mair Ffowcs yn gallu cofio gair, mae hi'n defnyddio 'pethma' (thingamy). Y gair yn y de yw 'bechingalw'. Maen nhw hefyd yn cyfleu 'whatsit' a 'whatyoucall'!

YSGRIFENNU
Portread o anifail anwes.
Anifeiliaid mewn chwedlau, ffilmiau neu nofelau.
Mae anifeiliaid anwes yn cael gormod o sylw. Trafodwch.

TRAWSGRIFIAD
Roedd anifeiliaid anwes yn obese ac un felly 'di cath Mair Ffowcs o Lanberis, Guto Si么n. Yn 么l bob s么n, mae'r hen Guto Si么n yn byta fatha ceffyl benthyg a mae pentrefwyr hen bentra bach Llanb锚r yn ei alw'n "Fat Cat" - brwnt hefyd 'te?

I frecwast de, mae'n cael sachet pysgod te - w'ch chi'r sachets bach 'na, un o'r rheina. Wedyn, cyw i芒r i ginio. Fydda i'n gneud saith iddo fo'n barod . . . o beth 'na a wedyn fyddan nhw'n cymyd un bob dydd a wedyn crunchies i de a bwyd arbennig gan y vet, SD, i swpar.

Mae'n byta'n well na chi Mair?

(chwerthin) . . . yndi . . .

Ydi o'n medru symud rywfaint?

O yndi, tad, mae o reit sbriws. Mae o'n gallu symud yn dda iawn.

Symud at ei bowlan fwyd, ia?

Na, dydio ddim mor gymaint 芒 hynny. Na, mae o reit . . mae'n mynd allan. Mae'n mynd hyd y caeau 'ma a betha felly.

'Da chi am roi llai o bryda bwyd iddo fo?

Wel dw i ofn bydd raid i mi. Mae'i fol o'n llusgo hyd lawr bron. . (chwerthin)... fel mae hi a mae pawb yn alw fo yn famma yn - Sais yn alw o'n Fat Cat, rywun arall yn alw fo'n Black Panther a rywun arall ddoe ar y 91福利社 'di alw fo'n Big Black Cat.


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy