91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014

91福利社 91福利社page
Cymru'r Byd

Contact Us

Deunyddiau Sain

logo Radio Cymru

Darn o bregeth (3.56)

Dyma enghraifft o arddull hamddenol pregethwr yn trin ei destun wrth ei bwysau. Mae'r darn yn cynnwys nifer o dermau crefyddol a diwinyddol

GEIRFA
tyrfa; mentyll; palmwydd; bendigedig; goruchaf; marchogaeth; march; concwerwr; milwrol; cyflawni'r broffwydoliaeth; brenhiniaeth; gwyrthiau; dwyfol; dynol; trugaredd; maddeuant; tosturiol; torcalon; balm o ryfedd rin; cofnod; nis mynnech; anghyfanedd; cadernid; gwendid; cyfnewidwyr; halogi; sanctaidd; pallu

GWRANDO A DEALL
i) At ba ddinas mae'r pregethwr yn cyfeirio?
ii) Beth fydd thema'r bregeth?
iii) Sut roedd Iesu'n wahanol i goncwerwr milwrol?
iv) Enwch ddwy o'r ffenestri mae'r pregethwr yn eu nodi?
v) Beth welwn ni yn nagrau Iesu, yn 么l y pregethwr?
vi) Yn 么l y pregethwr, ydy Iesu'n wylo am ei fod yn wan?
vii) Beth wnaeth Iesu yn y Deml?
viii) Pryd mae dagrau'n llifo, ym marn y pregethwr?

IAITH
a) Sicrhewch eich bod yn gwybod ystyr y geiriau hyn. Wedyn, gwrandewch ar y darn a phan glywch chi'r geiriau, ticiwch nhw.
goruchaf; brenhiniaeth; dwyfol; trugaredd; maddeuant; tosturiol; balm o ryfedd rin; anghyfanedd; halogi; sanctaidd.

b) Datgelwch y gair:
YFDWLO LONDY FYRAT CERDINAD MOLIRWL

c) Pa eiriau o blith y rhain fyddech chi'n eu defnyddio i ddisgrifio arddull y pregethwr:
cyffrous; hamddenol; ysgafn; dwys; o ddifrif; trist; pwyllog; brwd.

TAFODIAITH
Ym mha ffordd mae iaith y pregethwr yn wahanol i iaith bob dydd. Beth yw prif nodweddion y cywair (register) hwn? Pa gyweiriau eraill gallwch chi feddwl amdanynt?

TRAFOD
i) Adroddwch unrhyw stori o'r Beibl rydych yn ei gwybod i'ch partner.
ii) Beth yw'r rhesymau bod crefydd ar drai? Trafodwch.
iii) Mae llawer o eglwysi a chapeli gwag yn ein cymunedau. Beth ddylen ni ei wneud 芒 nhw? Lluniwch restr o awgrymiadau.
iv) Ydy hi'n dderbyniol i ddyn wylo? Trafodwch.
v) Y Cristion Pedair Olwyn
Mewn pram aeth i'w fedyddio.
Pan briododd cafodd limo
Ac y tro nesa' gwelwn Dai
Bydd eisiau hers i'w gario.

Ydy hwn yn ddarlun cywir o'r Cymro cyffredin heddiw yn eich barn chi?

YMADRODDION
Mae'r pregethwr yn s么n am "y galon a fu ar dorri". Edrychwch ar yr ymadroddion hyn sy'n ymwneud ag amser:
Mae'r tr锚n ar fynd.
Mae'r tr锚n ar fin mynd.
Mae'r tr锚n newydd fynd.
Mae'r tr锚n wedi hen fynd.

YSGRIFENNU
'Y tro diwethaf es i i gapel / eglwys'.
'Eglwysi / capeli ein hardal ni'.
Priodi - capel / eglwys / swyddfa gofrestru / gwesty / unrhyw le arall?

TRAWSGRIFIAD
"Pan welodd Iesu'r ddinas, wylodd drosti" a dyna yw ein thema ni y bore 'ma - dagrau'r Iesu. Y dyrfa yn ei gyfarch, yn taenu eu mentyll a'r palmwydd ar y ffordd ac yn ei gyfarch "Iesu", yn ei gyfarch fel Brenin: "Bendigedig yw yr hwn sydd yn dyfod yn enw'r Arglwydd. Hosanna yn y goruchaf."

Brenin, ie, ond nid dyna'r Brenin yr oedd y genedl yn ei ddisgwyl. Brenin gwahanol iawn. Marchogaeth asyn wnaeth Iesu, nid march fel y concwerwr milwrol. Mae e' felly yn cyflawni'r broffwydoliaeth - proffwydoliaeth yr Hen Destament: "Ei Frenhiniaeth ef, nid yw o'r byd hwn." Brenhiniaeth cariad yw ei frenhiniaeth ef.

Pan welodd Iesu'r ddinas, dinas Jeriwsalem, wylodd drosti. Mae 'na nifer o wahanol ffenestri y gallwn ni edrych drwyddyn nhw er mwyn gweld Iesu. Ffenest ei eiriau, ffenest ei weithredoedd, ffenest ei wyrthia, ond i mi, y ffenest y gallwn ni weld Iesu yn gliriach nag unrhyw weld arall yw ei ddagre. Yn y dagre fe welwn y dwyfol a'r dynol - gweld ei drugaredd, ei faddeuant, y galon fawr dosturiol, yn gorlifo, y galon a fu ar dorri, yn torri. Llif torcalon y dwyfol yw dagrau'r Iesu. "Y balm o ryfedd rin a pheraidd win, dwyfol gariad."

Pan welodd Iesu'r ddinas, dinas Jeriwsalem, wylodd. Mewn cofnod arall fe gawn fod yr Iesu 芒'i galon ar dorri, yn llefain ac yn llefain dros y ddinas. "O, Jeriwsalem, Jeriwsalem, yr wyt yn lladd y proffwydi. Pa sawl gwaith y mynaswn gasglu dy blant ynghyd, y modd y casgla'r i芒r eu chywion o dan ei hadenydd ac nis mynnech. Wele, eich t欧 a adewir i chwi yn anghyfannedd." Pan welodd Iesu y ddinas, wylodd drosti. Nid gwendid sy'n wylo yma. Mae gwendid yn barod i wylo unrhyw amser. Nid gwendid ond cadernid. Y cadarn sy'n wylo. Y g诺r a aeth i lawr o'r mynydd i'r Deml ac a yrrodd ymaith y gwerthwyr a chyfnewidwyr arian allan, y rhai oedd yn halogi'r sanctaidd. Y di-ofn a heriodd awdurdodau byd a chrefydd. Y di-ofn, y cadarn. Pan fydd cadernid yn wylo, dagre cry', costfawr, creulon, ydyn nhw. Pan fydd geiriau'n pallu oherwydd torcalon, mae dagre'n llifo. Y'n ni gyd yn gwybod rhywbeth am hynny o brofiad. "Pan welodd Iesu y ddinas, wylodd drosti."


NODER

Nod y trawsgrifiadau hyn yw adlewyrchu'n gywir yr hyn a glywir ar y crynoddisgiau. Nid yw siaradwyr y Gymraeg, yn fwy na siaradwyr unrhyw iaith arall, yn llefaru'n ramadegol gywir bob amser ac oherwydd hynny ceir enghreifftiau o iaith wallus. Gall y rhain fod yn adnodd gwerthfawr i'r tiwtor ac yn brawf i'r dysgwr nad yw gwneud camgymeriadau yn rhwystr bob amser i gyfathrebu effeithiol. Ar dro, gellir tynnu sylw at wall a manteisio arno i danlinellu ambell bwynt. Greddf y tiwtor a'i adnabyddiaeth o'i ddosbarth fydd yn penderfynu pryd y dylid gwneud hyn ai peidio.

Argraffu'r dudalen




About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy