91福利社

Explore the 91福利社
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
C2 ar Radio Cymru

91福利社 91福利社page
HAFAN Cymru

Chwaraeon
Radio Cymru
C2
Adolygu CDs
Adolygu Gigs
Amserlen
Cyflwynwyr
Cysylltiadau
Dewis Huw
Dewis Huw
Dewis Lisa
e-Gofnod
Galeri C2
G锚m C2
Gigs
骋飞别驳补尘别谤芒耻
Gwesteion
Labeli
Newyddion
Prynu ar y we
Sesiwn Acwstig
Sesiwn C2
厂迟辞谤茂补耻
Siart

Bitesize TGAU
91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

C2 ar Radio Cymru C2 ar Radio Cymru
Rhys Mwyn ar C2
Cyfres newydd gyda'r hyrwyddwr a cherddor

Pob nos Fercher am 10pm ar C2 Radio Cymru.

Manylion rhaglen 1

Bu'n ddraenen barhaus yn ystlys y byd cyfryngol, saff Cymraeg ac yn gyson feirniadol o S4C a 91福利社 Radio Cymru. Nawr mae'r hyrwyddwr a'r cerddor Rhys Mwyn yn cael cyflwyno ei raglen radio ei hun ar C2!

"Os ti'n cega'n ddigon hir fe gei di raglen," dywedodd Rhys gan chwerthin.

"Dwi'n edrych mlaen yn arw i roi sylw dyledus i bethau sydd ddim yn cael eu clywed fel arfer. Cerddoriaeth fwy tanddaearol, fwy arbrofol a chaneuon sydd heb gael eu chware'n gyhoeddus cyn hyn."

"Ro'n i'n mynd trwy recordiau'r noson o'r blaen ac fe ddes ar draws feinyl y Llwybr Llaethog a gafodd ei ryddhau yn America yn unig. Bydd pobl yn gyfarwydd 芒 stwff y band wrth gwrs, ond dwi'n amau a fydd pobl 'di clywed y caneuon yma."

Mae Rhys wedi cyfrannu'n fwy na neb at y s卯n Roc yng Nghymru dros y blynyddoedd. Bu'n aelod o'r grwp chwyldroadol Anrhefn ac ef oedd y cyntaf i fynd 芒 cherddoriaeth Cymraeg ar daith trwy Ewrop. Mae wedi rheoli degau o fandiau a threfnu cannoedd o gigs yng Nghymru a thu hwnt. Trwy ei waith hyrwyddo daeth yn ffrindiau gyda'r DJ John Peel.

"Roedd John Peel yn chwarae llawer o stwff o Gymru - nid am ei fod yn hoffi cerddoriaeth Gymraeg ond am ei fod yn hoffi'r gerddoriaeth. Fe gafodd yr Anrhefn dair sesiwn gydag e ond Datblygu oedd ei hoff fand o bell ffordd - fe wnaethon nhw ryw 10 sesiwn gydag e."

Fel y DJ arloesol o Radio 1, bydd Rhys yntau yn rhoi sylw i gerddoriaeth wahanol sydd ddim yn cael ei chwarae fel rheol. Dewis personol Rhys fydd i'w glywed yn y gyfres ac mae'r cynhyrchwyr wedi rhoi rhwydd hynt iddo - o fewn rheswm!

"Bydd un rhaglen yn canolbwyntio'n benodol ar gerddoriaeth reggae, un arall ar gerddoriaeth werin ac un ar gerddoriaeth electronig gyda chymysgedd o eitemau a cherddoriaeth yn y rhaglenni eraill."

"Fyddan nhw i gyd yn hwyliog ac yn ddadleuol o'r dechrau ac yn trafod y s卯n roc mewn manylder a gyda dyfnder."



Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



Amserlen C2:
Wythnos y Cyflwynwyr

Cysylltiadau, artistiaid, bandiau...


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy