Blaen Troedar
Chwefror 2004
Nos Fercher y 4ydd o Chwefror, nath Huw Stephens estyn croeso i stiwdio C2 i Rhodri Morgan, prif leisydd Cerrig Melys, a Curig Huws, y gwr sy'n rhoi y Lo Cut yn Lo Cut a Sleifar. Nath Huw ofyn am eu barn ar y CD Yn Cyflwyno Blaentroedar gan MC Saizmundo.
Casgliad o waith MC Saizmundo (Deian ap Rhisiart) rhwng 2001-2003 yw Blaen Troedaer a mae'n cynnwys Dafydd Bach ar Mynach, Siberia Cymareg a'r anfarwol Terry a Huw.Fel rocker go iawn, cyfaddefodd Rhodri, nad oedd yn rhy gyafrwydd 芒'r s卯n hip hop,
"Nid fi yw'r arbenigwr penna ar hip hop, ond y teimlad cynta ges i oedd bod yr albym yn undonog iawn. Nawr, dwi ddim yn gwbod pam nes i deimlo ei fod mor undonog, gan fod yma gymysgedd o arddullie cerddorol ac o byncie, ma na ffieidd-dra, hiwmor, ma na rhai caneuon reit deimladwy hefyd - ond doedd dim y killer cytgan yna. Yr hooks sy'n rhoi amrywiaeth i'r caneuon."
Doedd Curig, sy'n real hip-hopper, ddim yn cytuno,
"Fi'n angytuno gyda Rhodri - sai'n gweld yr albym yn undonog o gwbwl. Nes i rili fwynhau e. Fi'n meddwl bo hip hop yn gweithio ar lefel lle ti'n gwrando i ddechre ar y beats a wedyn y miwsic, ond yma hefyd ma 'na ddyfnder masif. Fi di gwrando ar yr albym 6 neu 7 gwaith nawr, ond fi'n teimlo bo fi ond wedi crafu'r wyneb."
Cytunodd Rhodri, fod gan Saizmundo ddigon i'w ddweud,
"Mae'n hynod o ddifyr yn yr ystyr ei fod yn herio'r gwrandawyr. Mae'n foi blin iawn. Mae'n cymryd lein lled-eithafol, Cymuned, math o beth o ran materion ieithyddol, a wedyn y funud nesa mae'n gwneud hwyl am ben ffermwyr cefn gwlad - a'r honiad eu bod nhw'n cam-ymddwyn gyda'u defaid!
Dyl Mei o Pep Le Pew gynhyrchodd yr albym - rhywbeth blesiodd Curig,
"Ma Dyl Mei di neud job gret o gynhyrchu'r albym. Mae di cyfuno rhyw fath o Eminem production a Dave R. Edwards gyda bach mwy o rhythm. Ma' Dyl a Saizmundo yn gweddu'n dda - ma Dyl di deall be sy' angen ar Saizmundo. Fi'n cytuno falle bo angen mwy o poppy choruses, ond fi ddim yn meddwl bo nhw di trio neud hwna.
Mae MC Saizmuno yn Cyflwyno Blaen Troedar ar gyfer yn eich siopau nawr ar label .
Marciau allan o 10:
Rhodri: 8/10
Curig: 8.5/10 - Troed blinder!