

Rwy'n aelod o Aelwyd yr Urdd, Crymych. Wnes i ymuno pan yn 11 oed.
Byddaf yn aelod o'r Aelwyd tan fy mod i'n 25.
Mae nifer o'm ffrindiau yn aelodau, ac mae'r Aelwyd yn gyfle i gwrdd 芒 phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd.
Byddwn yn cwrdd bob nos Iau o 7yh i 9yh yn ystod tymor yr ysgol.
Mae pob math o weithgareddau yn cael eu cynnal. Rydym weithiau yn mynd i fowlio deg, sg茂o yn Llangrannog neu mynd i siopa yng Nghaerdydd. Weithiau byddwn yn mynd i weld Cymru yn chwarae p锚l-droed neu rygbi.
- Sefydlwyd yr Urdd ym 1922 i roi cyfle i blant a phobl ifanc i ddysgu ac i gymdeithasu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Mae 50,000 o blant a phobl ifanc Cymru yn aelodau o'r Urdd.
- Enwau cyfarwydd a fu gynt yn aelodau o'r Urdd yw Huw Edwards, y darllenydd newyddion, Bryn Terfel, y canwr byd enwog, a Glyn Wise o'r gyfres Big Brother
- Mae gan y mudiad 10,000 o wirfoddolwyr sy'n weithgar dros ben mewn 900 o ganghennau ledled y wlad.
Ehangu gorwelion Rwy'n cystadlu llawer yn eisteddfodau'r Aelwyd. Rwy'n canu yn y C么r Merched, y C么r Cymysg, a'r Parti Llefaru. Rwyf hefyd wedi cystadlu yn y chwarter awr o adloniant a chystadlaethau chwaraeon.
Y peth gorau am fod yn yr Aelwyd yw cael y siawns i wneud rhywbeth gwahanol. Mae wedi rhoi hyder i fi berfformio ar y llwyfan. Hefyd, Mae mae wedi ehangu fy ngorwelion. Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i deithio i Ganada, Patagonia, Estonia, y Ffindir a Rwsia gyda'r Aelwyd.
Fy nghyngor i fyddai i ymuno! Mae'r Aelwyd yn lle i wneud ffrindiau newydd yn gyflym iawn, a chymdeithasu 芒 gwahanol bobol. Hefyd mae'n le mae dim ond Cymraeg sy'n cael ei siarad, sy'n gr锚t!
Cysylltiadau defnyddiol![]()
Nid yw'r 91福利社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.
![]()


