91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

18 November 2014
91福利社 CymruMosgito, Delwedd

91福利社 91福利社page
Cymru'r Byd

Contact Us

Bwyta'n iach

10 cyfrinach i fwyta'n iach

Mae bwyta'n iach yn bwysig - a does dim rhaid iddo fod yn anodd. Dyma 10 awgrym cyflym gan Mosgito.

1. Y peth cyntaf ydy gwneud yn si诺r dy fod ti'n cael digonedd o gwsg. Mae ymchwil yn dangos fod diffyg cwsg yn cynyddu'r hormonau yn ein corff sy'n gwneud i ni eisiau bwyta mwy.

2. Paid gorfwyta! Does dim o'i le ar gael ychydig o siocled o bryd i'w gilydd, cyhyd 芒 dy fod ti ddim yn bwyta bocs o 'Celebrations' i gyd dy hun!

3. Tria fwyta pump gwahanol math o ffrywthau a llysiau bob dydd. Cofia, gallu di gynnwys ffrwythau a llysiau ffres, sych, wedi'u rhewi neu mewn tun. Ac mae sudd oren yn cyfri fel un hefyd.

4. Rho'r gorau i fwyta rhwng prydau, a gwna'n si诺r dy fod ti'n bwyta brecwast. Er mor boenus yw hi i wybod bod dy fam-gu di'n iawn, does dim yn well i dy gorff na brecwast.

5. Gwna ddewisiadau bychain fydd yn newid dy fyd. Yn lle hufen ar dy darten afalau, dewis iogwrt, a cheisia fwyta dy frechdan heb fenyn.

6. Amser cinio yn yr ysgol, mae'n anodd peidio dewis sglodion. Cer am daten b么b neu basta a chadw sglods ar gyfer un diwrnod arbennig yn yr wythnos. Fe fyddi di'n eu mwynhau nhw gymaint yn fwy hefyd.

7. Gwna'n si诺r dy fod ti'n gwrando ar dy gorff. Weithiau, mae'n bosibl meddwl dy fod ti eisiau bwyd, ond efallai mai syched sydd arnat ti mewn gwirionedd. Yf wydraid o dd诺r a gwranda ar dy gorff eto mewn 10 munud. Os wyt ti'n dal eisiau bwyd ar 么l hynny, digon teg.

8. Cofia fwyta amrywiaeth eang o fwydydd a bod yn barod i roi cynnig ar bethau newydd.

9. Beth am newid olew llysieuol am olew'r olewydd? Llawer iachach, ac yn dda i dy groen!

10. Cofia nad yw bwyta'n iach ar ei ben ei hun yn dy wneud di'n berson iach. Mae angen ymarfer dy gorff hefyd. Nid rhedeg marathon efallai, ond beth am ddechrau trwy gerdded am 20 munud dair gwaith yr wythnos.

Cysylltiadau defnyddiol

Nid yw'r 91福利社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy