
Enillodd Hywel Griffiths y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd, Sir Gaerfyrddin 2007. Pan safodd yn y pafiliwn, roedd ganddo w锚n ar ei wyneb. Rhes o ddannedd syth hefyd. Cafodd Hywel fresys pan oedd e yn ei arddegau. Ond sut brofiad oedd gorfod gwisgo'r fframiau metel am flynyddoedd? Aeth Mosgito i'w holi.
Mosgito: Pryd cefaist ti'r bresys dannedd? Fe ges i fresys wedi eu gosod pan o'n i'n 14 oed. Roedd fy nannedd blaen yn gwbwl gam, pob un yn wynebu ffordd wahanol, ac felly roedd angen gwneud dau beth - tynnu pum dant mawr iawn o gefn fy ngheg, a gosod bresys i sythu'r rhai oedd ar 么l. Roedd tynnu'r dannedd yn hwyl, gan fy mod dan anaesthetig, ac roeddwn i'n gallu clywed y gwreiddiau'n rhwygo o'r geg heb unrhyw boen.
Mosgito: Beth oedd dy farn di amdanyn nhw i ddechrau? Roeddwn i'n eu hoffi nhw i fod yn onest - er eu bod yn achosi cryn boen ar adegau, yn enwedig pan o'n i'n mynd n么l at yr orthodeintydd i'w tynhau, fe ges i fandiau lastig coch a gwyn ar bob yn ail ddant. Lliwiau Cymru (a Lerpwl)! Roedd bwyta ac edrych ar 么l y bresys yn dipyn o boendod weithiau.
Gair i gall gan Mosgito:
- Mae cannoedd o bobl yn cael bresys wedi eu gosod bob dydd. Bydd yn falch ohonyn nhw!
- Fyddan nhw ddim ar dy ddannedd di am byth ond fe fyddan nhw'n eu gwella nhw am byth.
Mosgito: Beth yw dy gyngor di i bobl ifanc sy'n mynd i gael triniaeth ar eu dannedd? I beidio 芒 bod ofn gwneud os ydyn nhw angen eu trin ac os yw eich deintydd yn argymell hynny, ond hefyd i beidio 芒 theimlo bod rhaid eu gwneud nhw oherwydd ffasiwn neu ddisgwyliadau pobl eraill. Yr unig beth wn i yw y bu'r holl brofiad werth y drafferth i fi.
Cysylltiadau defnyddiol![]()
![]()
Nid yw'r 91福利社 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol.



