"Rhaid i sgwennwr ffuglen ddweud anwiredd er mwyn dweud y gwir," meddai Gareth Miles.
A hynny wnaeth o meddai yn y nofel ar restr hir Llyfr y Flwyddyn 2008 - dweud y gwir am Ddiwygiad 04-05 trwy gyfrwng stori ffug.
Wrth gael ei holi gan Dei Tomos ar gyfer ei raglen nos Sul dywedodd:
"Mae ffeithiau weithiau yn medru difetha y gwirionedd emosiynol," meddai.
Datgelodd hefyd mai fel drama deledu y cychwynodd y nofel ond na ddaeth honno i fwcwl ac iddo'i hailsgrifennu yn nofel wedyn.
Dywedodd mai ei obaith yw iddo fedru ailgreu rhan o'n hanes "trwy ddweud anwiredd creadigol".