91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
91福利社 Cymru - Llyfr y Flwyddyn91福利社 Cymru - Llyfr y Flwyddyn

91福利社 91福利社page
Cymru home

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Caryl Lewis

Caryl Lewis

Awdur 'Y Gemydd' yn siarad gyda Dei Tomos ar 91福利社 Radio Cymru

Bu Caryl Lewis yn s么n wrth Dei Tomos am brofiad digon brawychus oedd tu 么l i'w meddwl pan aeth ati i sgrifenny Y Gemydd

"Rwy'n cofio pan oeddwn yn groten fach mynd efo hen berthynas i glirio t欧 rhywun yn ganol nos.

"Roedd e'n dy mawr, mawr, eithaf crand a doedd dim trydan yno ac roeddwn i'n gorfod mynd a torts a mynd o gwmpas y t欧 ac roedd popeth wedi ei adael ar 么l yn union fel roedd e pan aeth y fenyw yma i ysbyty felly roedd y gobennydd yn dal a rhyw dolc fach ynddyn nhw lle'r oedd ei phen hi wedi bod.

"Dwr yn dal wrth y gwely a'r g诺n nos yn dal ar waelod y gwely ac yn y blaen ac fe wnaeth hwnnw argraff fawr iawn arnaf i ac roeddwn i'n dechrau cwestiynu beth yn union ydym ni'n ei adael ar 么l beth mae diwylliant yn adael ar 么l, beth mae cymdeithas yn ei adael ar 么l a beth mae unigolion yn ei adael ar 么l.

"A'r un peth efo datgymalu'r eglwys [yn y nofel] - mae cymaint o eglwysi; datgymalu maen nhw; tynnu gymal wrth gymal oddi wrth ei gilydd ac mae rhywbeth barbaric bron yn hynny ac mae'n rhywbeth poenus ofnadwy ac mae e yn hala ni i gwestiynu beth yn union yw'n etifeddiaeth ni," meddai.

Mae hi'n s么n hefyd yn ei sgwrs am ymweliadau 芒 s锚ls ac arwerthiannau pan yn ifanc i brynu hen ddodrefn a gemau.

"Yr oeddwn i wrth fy modd gyda gemau yn benodol," meddai gan ychwanegu ei bod yn gwybod wrth fynd at y nofel fod ganddi rywbeth i sgrifennu amdano.

"Beth sy'n drawiadol am emau yw eu hirhoedledd . . . [yn cael] eu pasio ymlaen i'r genhedlaeth nesaf felly maen nhw'n ein goroesi ni i gyd," meddai.

Mae'n s么n hefyd am y cyfnod a dreuliodd gyda gemydd fel rhan o'i hymchwil cyn sgrifennu'r nofel a'r syniad mai gemau sy'n ein dewis ni nid ni yn dewis gemau!

Caryl Lewis yn trafod ei gwaith



About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy