|
Mae timau pump o bapurau bro Cymru yn dod 芒 phersbectif ffres i raglen Newyddion foreol 91福利社 Radio Cymru o lygad y ffynnon drwy ddewis straeon ar gyfer y rhaglen, dod o hyd i gyfrannwyr lleol a chadw trefn ar y cyflwynwyr!
Mae hanes papurau bro Cymru yn stori o lwyddiant anhygoel yng ngwahanol ardaloedd Cymru, a phob un gyda'i steil a'i hunaniaeth ei hun.
Mae golygyddion y papurau bro yn hen lawiau ar chwilio am stori, sgrifennu, casglu a golygu a hynny yn erbyn dedleins tynn bob mis. A dyma'r dewis perffaith felly wrth i Post Cyntaf chwilio am olygyddion gwadd i'r rhaglen.
Dyma'r papurau bro sy'n cymryd rhan a lleoliadau'r darlledu:
Dydd Llun, Rhagfyr 11: Pen-y-bont ar Ogwr gyda th卯m Yr Hogwr yn golygu. Cliciwch i weld lluniau o'r bore
Dydd Mawrth, Rhagfyr 12: Caffi Beca ger Crymyrch, gyda th卯m Clebran wrth y llyw. Cliciwch i weld lluniau o'r bore
Dydd Mercher, Rhagfyr 13: tro t卯m Plu'r Gweunydd oedd hi gyda'r rhaglen yn cael ei darlledu o Fws y 91福利社 yn Nghanolfan Gymunedol Dyffryn Banw, Llangadfan.
Cliciwch i weld lluniau o'r bore
Dydd Iau, Rhagfyr 14: t卯m Eco'r Wyddfa oedd yn golygu a darlledwyd y rhaglen o'r Stiwt yn Llanrug.
Cliciwch i weld lluniau o'r bore
Dydd Gwener, Rhagfyr 15: Capel Bethesda, yr Wyddgrug oedd y gyrchfan a th卯m Papur Fama oedd yn golygu.
Cliciwch i weld lluniau o'r bore
 |