91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Ynys M么n

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Arwydd Maes Cybi ar wal Enwau llefydd
Be sydd mewn enw? Dyma ambell esboniad i'r enwau llefydd difyr ar hyd a lled Ynys M么n. Os gwyddoch chi am fwy o esboniadau anfonwch nhw aton ni.

Caergybi: ers y dyddiau cynnar bu sawl enw ar Gaergybi - cyfuniad o Caer a'r enw sant, Cybi. Llan neu Llam y Gwyddel oedd y lle yn y cyfnodau cynharaf. Bu hefyd yn Eglwys y Beddi, Cor Cybi a Haliheved. Tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg y gwelwyd Caergybi gyntaf ond yn yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd hefyd y ffurf Gorffwysfa Gybi.

Corn Hir: enw t欧 yn wreiddiol ond yn awr yn enw ar rhan o Langefni. Mae'r ystyr yn amlwg.

Glasinwen: y d诺r rhwng M么n ac Ynys Cybi. Glas yn yr ystyr o wyrdd fel ag yn glas-wellt yw hwn ac yn cyfeirio at liw y d诺r o bosibl.

Kingsland: ardal o Gaergybi y newidwyd ei henw o Penllechnest i gydfynd ag ymweliad George y pedwerydd yn 1821 ar ei ffordd i Iwerddon lle rhoddodd yr un enw i Dun Laoghaire.

Llannerch-y-medd: neu yn 么l rhai, gan gynnwys Morrisiaid M么n, Llannerch-y-meddwin! Mae'n ymddangos fod medd yn cael ei gynhyrchu yma ar un adeg pan oedd M么n yn goediog a llannerch yn nodwedd i dynnu sylw ati.

moelfreMoelfre: cyfuniad o moel a bryn. Bryn llwm.

Niwbwrch: Newborough oedd yr enw a roddwyd ar y lle gan Edward I pan symudodd drigolion Llanfaes yno. Rhosyr oedd yr enw ar yr ardal cyn hynny gyda 'myr' yn hen luosog o m么r.

Porthaethwy: Yr hen goel yw i'r trigolion cyntaf gyrraedd M么n mewn dwy don. 脗'r don gyntaf wedi ymsefydlu cyrhaeddodd yr ail griw o bobl ac ar ochr Afon i'r Fenai dyma nhw'n holi yn lle yn union y croesodd y criw cyntaf a derbyn yr ateb: "Dyna'r fan lle'r aethont hwy." Byth ers hynny adnabuwyd y lle fel Porth-lle'r-aethont-hwy a gywasgodd yn Porthaethwy. Wrth gwrs, celwydd noeth yw hynny, ac yn 么l rhai sy'n gwybod yn well hen enw llwythol ydi Daethwy. Ceir esboniad pellach yma

Pentreberw: mae'n ymddangos fod y planhigyn berw'r d诺r yn ffynnu yn yr ardal. Enw arall ar y lle yw Holland Arms oddi wrth d欧 tafarn o'r enw hwnnw a enwyd at 么l teulu Holland Plas Berw gerllaw.

Porth Dafarch: er nad oes eglurhad pendant i'r enw hwn mae ysgolheigion yn eithaf sicr nad cywasgiad o Porth Dau Farch ydyw fel y mynn rhai. Y ffurf ar un adeg oedd Porth Davagh ac awgrymwyd mai enw person yw'r ail elfen er nad yw Tafarch yn enw cyffredin iawn.

Porth Swtan: er bod rhai yn mynnu i'r fan hon gael ei henwi ar 么l y milwr Rhufeinig Suetonius Paulinus y dywedir iddo arwain ymosodiad yn erbyn y Derwyddon go brin fod hynny'n gywir ac nad yw swtan yn ddim amgen nag enw pysgodyn sy'n cael ei adnabod fel whiting yn Saesneg!

Rhosneigr: Yr oedd Yneigr yn un o wyrion Cunedda Wledig a dywedir iddo ymladd ochr yn ochr 芒 Chadwallon Lawhir ym Mrwydr Cerrig y Gwyddyl yn y bumed ganrif pryd y cafodd y Gwyddelod eu hel o'r ynys.

Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'r t欧! Cyfuniad yw o Rhos, wrth gwrs, ac enw fferm, Tre Hwfa - Hwfa yn enw ar berson.

Rhos y Gad: enw ar ddarn o dir comin ger Llanfairpwllgwyngyll ac er mor hwylus fyddai cysylltu'r lle a brwydrau oherwydd yr elfen 'cad' yn yr enw mae'n ymddangos mai Rhos y Gath oedd y ffurf wreiddiol gan gyfeirio at gathod gwyllt oedd yn gyffredin ym M么n rai canrifoedd yn 么l.



Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy