91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Penmaenmawr
Dennis Roberts Yn y dechreuad ...
O'r cyfnod cyn Crist i wyliau glan m么r William Gladstone yn Oes Fictoria gadewch i Dennis Roberts, cadeirydd Cymdeithas Hanes Penmaenmawr, eich tywys ar hyd llwybr hanes Penmaenmawr.
"Un o'r cyfnodau pwysicaf yn hanes Penmaenmawr yw pum mil o flynyddoedd cyn Crist. Roedd yna weithfeydd bwyeill cerrig yn y clogwyni uwch ben y pentref. Byddent yn allforio'r bwyelli ledled Prydain a hyd yn oed Ewrop.

Mae'r ffaith fod hynny wedi digwydd bum mil o flynyddoedd yn 么l wedi rhoi Pen ar y map o'r cychwyn. Ac mae chwarel yn dal i fod ar yr un safle heddiw, yn gwneud diwydiant allan o'r un garreg.

Ond yn anffodus, does yna ddim cyfle i arddangos beth sydd wedi digwydd yma dros y canrifoedd - mae gennym ni amgueddfa, ond bach iawn ydy hi a dim ond un panel bach sydd yna i arddangos y bwyelli yma.

Foel Lus uwchben Penmaenmawr Cyn y twristiaid, doedd dim yma, dim ond ffermydd bach. Dim tan i'r ffordd gynta ddod drwy'r plwy y tyfodd y pentrefi. Cyn hynny, y ffordd i fynd trwy'r ardal oedd ar hyd y traeth pan oedd y llanw allan neu fynd ym mhell i fyny trwy'r mynyddoedd. Roedd yn anodd iawn pasio Penmaenbach i'r dwyrain a Phenmaenmawr tua'r gorllewin ac mae'n dal yn anodd heddiw.

Mae yna tua chwech cylch cerrig, sef y meini hirion oedd yn cael eu galw'n druid's circle ers oes Fictoria, i fyny yn y mynyddoedd yma, rhai o'r pwysicaf yng Nghymru. Roedd sawl ffordd wahanol yn cyfarfod yn nhopiau Penmaenmawr mor bell yn 么l ag Oes y Cerrig. Ffyrdd oedd yn dod o ogledd Prydain o dde Prydain ac o Iwerddon i gyd yn cyfarfod fel rhyw Sbaghetti Junction! Defnyddiwyd y ffyrdd yma tan i'r dollffordd cael ei hadeiladu yn y 18fed ganrif ac maen nhw'n dal i'w gweld, er eu bod yn wyrdd erbyn hyn. Gallwch yrru car ar eu hyd. Mae'n nhw wedi pantio i mewn i'r graid mewn rhai llefydd sy'n dangos 么l traed dyn yn troedio'r ffordd dros y canrifoedd.

Ond ar 么l y tollffordd cyntaf y sefydlwyd y pentref cyntaf, o dan y Sychnant, sef Capelulo, wedyn ar 么l y rheilffordd y daeth y twristiaid. Dyna pan fod yna gymaint o dai mawr o gwmpas yr orsaf.

Ymweliadau Gladstone
Ond daeth Penmaenmawr yn lle pwysig eto ar 么l i'r rheilffordd gyrraedd yn y 1850au. Mae'n anodd credu hyn heddiw, ond roedd yn lle ffasiynol dros ben.

Gladstone a Chymru
  • Ganwyd William Ewart Gladstone yn Lerpwl ar 29 Rhagfyr 1809
  • Priododd ferch i dirfeddianwyr o Sir y Fflint, Catherine Gwynne o Gastell Penarlag, yn 1839.
  • Ymgartrefodd Gladstone ym Mhenarlag ar 么l priodi gan etifeddu st芒d Catherine. Fe gawson nhw wyth o blant.
  • Bu'n brifweinidog bedair gwaith, y tro cyntaf yn 1874.
  • Bu farw ym Mhenarlag ar 19 Mai 1898 a chael ei gladdu yn Abaty Westminster.
  • Mae cerflun ohono yn sefyll y tu allan i Lyfrgell Sant Deiniol ym Mhenarlag a delw arall ohono ym Mhenmaenmawr.
  • Dechreuodd Gladstone ddod yma yn y 1850au pan roedd yn ganghellor ac yn dod draw o Hawarden (Penarlag). Dyn o Lerpwl oedd o cyn priodi mewn i deulu'r Gwynne.

    Byddai'n aros mewn t欧 mawr roedd rhywun o Gaer wedi ei adeiladu - roedd yn cael heddwch heb fod ymhell o'i gartref yn Hawarden a dim ond pump neu chwe awr ar y tr锚n i San Steffan. Byddai'n mwynhau cerdded, darllen, torri coed a nofio a gan fod ganddo lwyth o blant, roedd yn bosib cael gwraed arnyn nhw ar lan y m么r!

    Roedd yn hoff iawn o nofio hefyd. Byddai'n ysgrifennu popeth i lawr yn ei ddyddiaduron bob dydd. Byddai'n ysgrifennu am ei arhosiad yn Pen: 'Got up at 8, had breakfast, read my books, opened my letters, went to bathe'.

    Byddai'n d诺ad fis Hydref fel arfer, ac ar 么l sawl diwrnod fel y diwrnod uchod, byddai'n ysgrifennu: 'ill in bed'! Does dim syndod, efo'r d诺r mor oer!

    Gan fod Gladstone yn dod yma, roedd eraill yn dod i weld pam - neb llai na ficeriaid, y Dug hyn a'r Dug llall a'r esgob yma ac arall, i gyd yn aros yn y tai mawr, fel y Red Gables a gafodd ei adeiladu gan eglwyswr o bwys.

    Mae yna un enghraifft i ddangos pwysigrwydd y lle mewn brochure i'r London and Northwestern Railway. Mae'n dweud: 'Penmaenmawr is a respectful resort, as yet not attended by the day tripper' - pobl goman! Roedd yn lle i bobl o safon. Gyda chysgod y mynydd, doedd dim gormod o haul - awyr iach oedden nhw eisiau fwyaf, dim cael lliw haul. Roeddent hefyd yn ymddiddori yn yr adar a'r blodau, ac roedd digon o hanes yn y mynyddoedd.

    Teulu mawr y dref oedd y Derbyshires, ym Mharc Plas Mawr. Daeth y cyntaf Samuel Derbyshire yma yn y 1850au efo'r rheilffordd. Fo oedd twrnai'r rheilffordd, a phrynodd st芒d Pen Dyffryn ym Mhenmaenmawr a phenderfynu buddsoddi arian yn y chwarel a hefyd mewn tai i dwristiaid, felly roedden nhw'n deulu o bwys yn yr ardal o'r 1850au tan y 1950au."



    Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy