91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Dyffryn Nantlle
Rosalie Jones Atgofion Rosalie
O'r de i'r gogledd, gyda thaith fach i n么l g诺r o Gymro yn Derby! Dyma hanes Rosalie Bronwen Lloyd Jones o Dalysarn.
"Hwntw o Donypandy ydw i. Roeddwn yn un o ddeg o blant - pum merch a phum bachgen. Aeth fy mhump brawd i ryfel ond yn ffodus iawn - yn enwedig i Mam gan iddi bron 芒 thorri ei chalon yn poeni - daethon nhw i gyd yn 么l yn saff. Mae'r bois i gyd wedi mynd r诺an ond mae gen i ddwy chwaer sy'n dal yn fyw.

"Roedd pawb yn meddwl y byddai'r byd yn gorffen pan ddaeth y rhyfel ond wnaeth o ddim. Mi wnes i aros yn y coleg cyn cael swydd yn Derby.

"Roeddent yn adeiladu injans Rolls Royce ar gyfer awyrennau yn y ddinas felly roedd yn darged i'r bomio. Roedd bal诺n amddiffyn (barrage balloon) mawr dros y ddinas a phan ddechreuodd y gynnau byddai pawb yn tyrru i mewn i warchodfeydd - ydych chi'n gallu fy nychmygu i mewn het fach tun?

"Byddwn yn mynd i'r capel bob dydd Sul. Roedd 'na gapel bach Cymraeg yng nghanol y ddinas - dim ond un stafell fach oedd hi. Mi es i a fy ffrind un nos Sul, a ddaeth criw o filwyr i mewn ac eistedd gyferbyn 芒 ni. Roeddem yn gallu clywed y gynnau tu allan ac roedd ganddon ni ofn, felly fe wnaeth dau o'r milwyr gynnig ein cerdded ni adref i sicrhau ein bod yn ddiogel! A dyna pryd y gwnes i gyfarfod fy ng诺r, oedd yn Gog! Roedd ei gyfaill yn frawd i Richie Thomas, y canwr o Benmachno.

"Mi wnes i dreulio lot o amser wedyn yn coginio ar gyfer y milwyr yn eu cant卯n. Byddent yn cyrraedd o Dunkirk yn eu gwisg glas golau ac roedd wastad gofyn i ni roi gwaed ar gyfer y rhai oedd wedi eu hanafu.

"Roedd fy ng诺r i ffwrdd am bum mlynedd - yn Affrica ac yna ar yr orymdaith drwy'r Eidal i Rufain. Byddem yn sgwennu at ein gilydd bob dydd, ar y cardiau bach roeddech yn cael eu hanfon. Pan fyddwn i'n derbyn y cardiau, roedd 'na farciau pensil drwy rhai geiriau os oedd fy ng诺r wedi dweud rhywbeth na ddylai.

"Roeddwn yn disgwyl iddo ddod adref ar 么l i'r rhyfel orffen ond cafodd ei anfon i Lain Gaza, lle mae'r holl ymladd r诺an. Bu bron iddo dorri ei galon. Mi ddaru lwyddo i ddweud wrtha'i ble'r oedd o drwy 'sgwennu 'I'm now where you're sowing beans in Welsh' - wel, 'hau' ydy 'sowing' a 'ffa' yw 'beans' - roedd o yn 'Haifa'! Doedd y sensor ddim yn gallu siarad Gymraeg felly mi adawodd y wybodaeth yna i fod!

"O'r diwedd, cafodd ei anfon adref am wyliau. Roedd o'n wan ac yn s芒l iawn ond pan aeth i'r swyddfa addysg, doedden nhw ddim wedi derbyn ei bapurau felly roedd yn rhaid iddo fynd yr holl ffordd n么l i Israel. Ond pan gyrhaeddodd, ddaru o ddarganfod fod ei bapurau wedi cael eu hanfon yn 么l i Gymru ac felly adref 芒 fo eto.

"Cafodd swydd ym Methesda felly i'r gogledd 芒 fi. Dysgais yn Ysgol Deiniol, Bangor - yr hen ysgol secondary modern sydd nawr yn llyfrgell y brifysgol. Ddaru ni wedyn uno gydag Ysgol Friars fel ysgol gyfun yr ardal. Roedd hyn yn syniad da - roedd nifer fawr o'r plant aeth i Ysgol Deiniol yn ddigon peniog i fod yn Friars ond eu bod wedi methu un arholiad pan roeddent yn un-ar-ddeg mlwydd oed.

"Yna, es i weithio i Ysgol Tryfan a, chan fod fy ng诺r yn brifathro ar ysgol gynradd Talysarn, ddaru ni symud i'r pentref. Dwi'n dal yn byw yn yr un t欧 y gwnaethon ni symud iddo bumdeg mlynedd yn 么l.

"Ers talwm, doedd dim teledu felly yn y capel roedd pobl yn cymdeithasu. Roedd eisteddfod yn cael ei chynnal bob blwyddyn yng nghapel Talysarn ac roedd yr Ysgol Sul yn reit llewyrchus.

"Yno y bydden ni'n dysgu pwy oedd yn s芒l, pwy oedd yn yr ysbyty, pwy oedd angen cymorth. Felly diolch ein bod yn gallu dod yma i Glwb Silyn (clwb ar gyfer henoed Talysarn) y dyddiau yma. 'Da ni'n colli cael y cyfle i weld pobl a dod i adnabod ein gilydd a dyna beth rydym yn ei wneud fan hyn."



Lleol i Mi
Hanes
Theatr
Digwyddiadau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy