91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfodau Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

T. Graham Williams Cenllysg a chadair
Fe wnaeth cawod o genllysg nodi dechrau profiad bythgofiadwy i T. Grahame Williams pan enillodd gadair Eisteddfod Llandderfel ger y Bala ar ddydd Gwener y Groglith.
"Mae gen i atgofion melys o'r amser pan enillais gadair Eisteddfod Llandderfel, neu yn hytrach Priodas y Pasg. Ie, dyna sut yr wyf i yn dal i nodi'r diwrnod hwnnw ar brynhawn Gwener y Groglith yn 1994. Hon oedd fy nghadair gyntaf i mi ei hennill yng ngogledd Cymru.

Felly, fel bardd a'i ddychymyg yn effro, 'roeddwn yn teimlo bod elfennau'r nefoedd am ddathlu'r achlysur byth cofiadwy, trwy adael cenllysg i ddisgyn fel reis ar fy mhen wrth i mi gyrraedd y pentref.

Dyna'r rheswm i mi alw'r eisteddfod yn Briodas y Pasg.

Cefais wefr arall hefyd yn ystod y cadeirio. Wedi i'r seremoni orffen methais ddeall paham nad oedd neb wedi rhoi cadair i mi. Cyn hyn cadair fach a welais yn cael ei chyflwyno i'r bardd buddugol. Hwn oedd y tro cyntaf i mi ennill un fawr, ac nid oeddwn wedi sylweddoli fy mod eisoes yn eistedd yn fy ngwobr.

Ond nid dyna ddiwedd yr hanes amdanaf yn eistedd yn y gadair. Am fod y tywydd mor wamal 芒'r daith yn 么l i dde Cymru mor bell, penderfynais aros dros nos yn y Bala. 'Roedd yn gyfleus iawn i mi wneud hyn, oherwydd trannoeth 'roeddwn hefyd wedi ennill cadair Eisteddfod Llangadog.

Felly, yn hytrach na theithio'r holl ffordd i Gwm Tawe, ac yna gyrru yn 么l eilwaith i sir G芒r, amserais fy nhaith 'mod i'n aros yn Llangadog ar y ffordd yn 么l.

Wedi cyrraedd fe ofynnais i bwyllgor yr eisteddfod honno ym mha gadair fyddwn yn eistedd ynddi yn ystod y seremoni. Ar 么l iddynt ddangos cadair blastig i mi, fe ddywedais ar unwaith bod gen i well cadair yn y car.

Do, fe gefais fy nghadeirio yn yr un gadair ddwywaith, a honno, wrth gwrs, oedd cadair eisteddfod Llandderfel."

  • Cefnfab yw enw barddol T. Grahame Williams sy'n dod o Gwm Tawe. Mae ennill cadair Eisteddfod Gadeiriol Llandderfel a mwy o'i hanes wedi ei nodi ar ei wefan, www.cefnfab.co.uk.


  • Lleol i Mi
    Radio Cymru
    Llyfrau


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy