91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Milwyr Prydain yn paratoi i fynd i'r Falkland Creithiau'r Falkland
Chwarter canrif ers i Brydain anfon ei lluoedd arfog i amddiffyn ei thiriogaeth ar Ynysoedd y Falkland - neu'r Malfinas - yn Ne'r Iwerydd, mae rhai o gyn-aelodau'r Gwarchodlu Cymreig wedi bod yn siarad am eu profiadau.
Bu nifer o'r cyn-filwyr yn siarad am y tro cyntaf ar raglen Manylu ar 91福利社 Radio Cymru am yr hyn ddigwyddodd iddyn nhw yn ystod y brwydro ffyrnig mewn rhyfel barodd ychydig dros ddeufis rhwng Ebrill a Mehefin 1982.

Mae'r atgofion yn dal yn fyw iawn yn y cof a'r profiadau wedi cael effaith ddofn ar eu bywydau ers hynny.

Si芒n Sutton, gohebydd 91福利社 Radio Cymru, fu'n siarad 芒 nhw:

Maldwyn Jones
Roedd Maldwyn Jones wedi bod gyda'r Gwarchodlu Cymreig am saith blynedd pan daeth yr alwad i fynd i ryfel ym 1982. Ymunodd 芒 3,000 o filwyr ar fwrdd llong bleser y QE2 yn Southampton ar gyfer siwrne wyth mil o filltiroedd i Dde'r Iwerydd.

Roedd ar fwrdd y Sir Galahad wrth angor yn Port Pleasant, neu Bluff Cove, pan gafodd ei tharo gan fomiau awyrennau'r Ariannin. Mae'r hyn welodd ac a glywodd y diwrnod hwnnw wedi bod yn anodd iddo siarad amdano ers hynny.

Mae Maldwyn Jones erbyn hyn y blismon cymunedol ym Methesda ac yn aelod o fudiad SAMA - 'South Atlantic Medal Association' - sy'n cynnig cyngor a chefnogaeth i gyn-filwyr y Falklands.

Wil Howarth
Roedd Wil Howarth o Amlwch yn guardsman 23 oed ac ar fwrdd y Sir Galahad pan gafodd ei tharo gan awyrennau rhyfel yr Ariannin ar Fehefin 8, 1982.

Mae'n cofio'r dryswch a'r ofn ar fwrdd y llong wrth iddi losgi a chlywed llais Simon Weston, ymysg eraill, yn gweiddi.

Aeth n么l i'r Ynysoedd bedair blynedd yn 么l.

Clive Aspden
Roedd Clive Aspden yn 19 oed ac yn un o bump o fechgyn o ardal Blaenau Ffestiniog i fynd gyda'r Gwarchodlu Cymreig i'r Falklands.

Roedd eisoes wedi glanio ar y tir yn Fitzroy yn disgwyl gweddill y Gatrawd pan welodd yr awyrennau isel yn anelu am y Sir Galahad a Sir Tristram wrth angor yn Bluff Cove. Roedd yn gwybod yn reddfol fod ei ffrindiau a chydfilwyr wedi'u taro a'u hanafu. O'r 58 o bobl gafodd eu lladd ar y Sir Galahad y diwrnod hwnnw roedd 32 yn aelodau'r Gwarchodlu Cymreig.

Ond er waetha'r colledion aeth Clive Aspden a'i gydfilwyr ymlaen a'r frwydr i Port Stanley er mwyn rhyddhau'r Ynysoedd o ddwylo lluoedd yr Ariannin. Mae siarad am y tro cyntaf am ei brofiad yn boenus ac emosiynol iddo.

John Alun Hughes
Deunaw oed oedd John Alun Hughes hefyd o Flaenau Ffestiniog pan aeth i ryfel yn y Falklands. Ond cafodd ei brofiad effaith ddifrifol ar ei fywyd ers hynny. Ar ol cael ei godi mewn hofrennydd o fwrdd bad achub y Sir Galahad cafodd ei anfon yn syth adre ar fwrdd llong ysbyty. Ddeng mlynedd yn diweddarach cafodd wybod ei fod yn dioddef o anwylder PTSD - Post Traumatic Stress Disorder.

Mae'n mynnu bod deunaw oed yn rhy ifanc i fynd i ryfel a bod angen mwy o gefnogaeth ar filwyr heddiw yn Irac ac Afghanistan.

Yr Uwch Gapten Eirwyn Jones
Swyddog gweinyddol gyda'r Gwarchodlu Cymreig oedd Eirwyn Jones ym 1982. Ei gyfrifoldeb yn ystod rhyfel y Falklands oedd torri'r newyddion i deuluoedd y gogledd am golledion milwyr. Dyma brofiad anoddaf ei yrfa 35 mlynedd gyda'r gwarchodlu, meddai.

Ond ar 么l i'r brwydro ddod i ben cafodd Eirwyn Jones newyddion drwg ei hun. Roedd ei fab oedd yn rhingyll gyda'r Gwarchodlu wedi'i anafu'n ddifrifol mewn damwain Collodd ei ddwy goes wrth i daflegryn exocet daro grwp o 8 o aelodau'r gwarchodlu wrth iddyn nhw glirio'r maes awyr yn Port Stanley.

Ond mae gan yr Uwch Gapten farn bendant am sut y dylai milwyr gael eu cofio yn enwedig eleni bum mlynedd ar hugain ers y Falklands.

Yr Arglwydd Wyn Roberts o Gonwy
Roedd yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn is weinidog yn y Swyddfa Gymreig ac yn rhan o lywodraeth geidwadol y dydd. Roedd yn cefnogi penderfyniad y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, i anfon Tasglu Prydain i amddiffyn yr Ynysoedd a'u cipio n么l o ddwylo'r Ariannin.

Ond drwy ei ddyddiadur ar y pryd mae'n nodi bod dilyn hynt y brwydro a gwylio'r cyfan o bell ar deledu wedi cael effaith arno'n bersonol hefyd.

Cefndir

  • Ar Ebrill 2, 1982 daeth cadarnhad bod milwyr y Cadfridog Galtieri wedi goresgyn Ynysoedd y Falkland oedd wedi bod yn nwylo Prydain ers 1833. Margaret Thatcher gyda milwyr ar eu ffordd i ryfel
  • Ymateb y Prif Weinidog, Margaret Thatcher, oedd anfon Tasglu a Llynges Prydain ar siwrne 8,000 o filltiroedd i Dde'r Iwerydd i'w hamddiffyn a'u cipio yn 么l.
  • Gadawodd y llongau cyntaf Brydain ar 5 Ebrill 1982 ac roedd llawer o Gymry yn eu plith yn aelodau o'r Gwarchodlu Cymreig.
  • Yn ystod y brwydro ffyrnig dros Ynysoedd y Falkland, bu farw dros 250 o filwyr Prydain a 650 o aelodau lluoedd yr Ariannin.
  • Os oes ganddoch chi stori bersonol neu sylw am yr eitem hon fe fydden ni'n falch o glywed ganddoch chi. Gallwch lenwi'r blwch isod neu anfon ebost at: gogleddorllewin@bbc.co.uk



    Papurau Bro
    Radio Cymru
    Lluniau


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy