91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eich Llais

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Maes Gwyn a phenilliion eraill
Cafodd Elen Williams o Gaernarfon y bleser enfawr o alw ei hun yn awdur ar ein pen blwydd yn 85 mlwydd oed, gyda chymorth mawr gan ei merch, Eirwen Hughes.
Elen Williams

Stori Elen
Mi wnes i gychwyn sgwennu tra yn yr hen Ysgol Sir, Penygroes. Dwi'n cofio dad yn prynu llyfr o benillion Eifion Wyn i mi'n blentyn, a finnau'n eistedd yn ein bwthyn, Maes Gwyn, yn eu ddarllen a'i ddarllen nes i mi wybod pob un. Nid oedd fy nheulu yn sgwennu llawer, heblaw am fy modryb. Dwi'n sicr mai ganddi hi y ces i'r diddordeb mewn llenyddiaeth.

Roeddwn i yn ofnadwy o s芒l ym mathemateg yn yr ysgol, ond roedd fy mrawd yn wych. Felly mi fydda fo yn gwneud fy ngwaith cartref m脿ths i, a finnau'n gwneud ei waith Gymraeg! Ddaru o weithio am ychydig, tan i'r athro deall beth oedd yn mynd ymlaen!

Mi fuswn i wedi hoffi mynd i'r brifysgol i astudio Cymraeg, ond mi gollais fy nhad yn bymtheg mlwydd oed. Gan fy mod i efo dau frawd bach a hithau'n adeg rhyfel, roedd yn rhaid i mi adael yr ysgol a mynd i weithio i'r cyngor sir tan i mi briodi.

Mi fyddwn yn sgwennu i ddiddori pobl eraill mwy na fi fy hun; creu penillion at achlysuron fel priodasau neu bobl mewn profedigaeth.

Dwi'n holi fy hun yn aml sut y dwi'n sgwennu'r penillion, ond dwi ddim yn gwybod. Mae nhw jest yn dod i mi; weithiau gyda'r nos, ac mi wna'i godi'n fore i'w sgwennu nhw i lawr.

Fy mhleser mwyaf i oedd ennill y gadair mewn eisteddfod yr aelwyd, Caernarfon, pan roeddwn yn ugain. Dwi dal efo'r gadair fach hyd heddiw.

Ar ddiwrnod fy mhen-blwydd yn 85, roeddwn am fynd i ginio i d欧 un o fy merched. Doeddwn i methu dallt pam ein bod yn mynd heibio t欧^ Eirwen yn gyntaf. Ond dyna ble roedd pawb, y teulu i gyd, a dyma Eirwen yn dod a llyfr i fi, a fi'n sb茂o arno, a gweld llun o fwthyn Maes Gwyn. Doeddwn i ddim yn gwybod pryn ta crio neu chwerthin. Roeddwn wedi dychryn ac mor falch ohono; mi wnes i afael yn sownd ynddo trwy'r dydd.

Mae'r llyfr yn drysor i mi a dwi methu coelio fod cymaint wedi cael eu gwerthu. Dwi dalu i synnu ar yr holl waith ddaru Eirwen ei wneud i'w gyhoeddi.

Stori Eirwen
Roeddwn yn ymwybodol bod mam wedi bod yn sgwennu ar hyd y blynyddoedd, ond nid oeddwn yn cymryd llawer o sylw pan oeddwn i'n ifanc.

Ond un diwrnod, roeddwn yn busnesu yn yr Hendre, cartref dad a mam, ac mi ddos i ar draws bocs o domenni o farddoniaeth; rhai ar gefnau bocsys cornflakes, eraill ar gefn amlen.

Mi es i a nhw adref a gwario oriau yn eu rhoi mewn gwahanol gategor茂au; geni plant, priodasau, er cof am bobl, penillion plant. Mae yna sawl emyn yna hefyd, a hoffwn ffeindio rywun i'w gosod i gerddoriaeth.

Yna mi ges i'r syniad o'i cyhoeddi mewn llyfr, tra bo hi dal yn fyw, a dyna be ddaru ni wneud.

Roedd yn anodd meddwl am deitl. Yn y diwedd, ddaru ni benderfynu mynd am Maes Gwyn, enw ei chartref pan oeddwn i'n ifanc. Mae mam dal i deimlo'n agos iawn at y t欧 a phentref Carmel. Neil Maes Gwyn yw enw barddol mam, hefyd.

Felly ar 么l teipio popeth i fyny a'u cywiro, mi wnes i gysylltu 芒 Gwasg y Bwthyn a'i gyhoeddi! Roedd hi'n 85 ar Fawrth y cyntaf a dyna ei anrheg pen blwydd; roedd yn goblyn o sioc iddi! Ond mae hi wedi gwirioni. Ar 么l rhoi cymaint o bleser i eraill gyda'i phenillion, roedd yn gyfle iddi hi gael pleser ohonynt hefyd.

Mae llyfr Maes Gwyn a Phenillion Eraill ar gael gan Eirwen Hughes, ar 01286 675850.

Pennill ac emyn gan Neli Maes Gwyn.


Papurau Bro
Radio Cymru
Lluniau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy