91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Conwy
Jac-do Jac-do Conwy
Dyma John Thomas o Gonwy yn ein cyflwyno i Gymdeithas y Jac-do - pwy ydyn nhw ac ydy pawb yn gallu bod yn aelod?
Sefydlwyd Cymdeithas Jackdaws Conwy yn 1976. Mae'n rhaid ichi fod wedi eich geni o fewn waliau'r dref i fod yn aelod, ond oherwydd fod pawb yn cael eu geni mewn ysbytai erbyn hyn mae'r niferoedd yn gostwng.

Maen nhw'n galw pobl Conwy yn Jac-dos am fod yr adar yma yn nythu yn waliau'r dref - fel y gwylanod yn Llandudno!

Dwi'n falch iawn o fod yn Jac-do. Cefais fy ngeni yn 1926 a 'dwi wedi byw yng Nghonwy erioed, heblaw am bedair blynedd pan roeddwn yn y Llynges Frenhinol. Mi wnes i weithio i'r cyngor lleol am 42 mlynedd, ond 'dwi wedi ymddeol erbyn hyn - ac yn chwarae lot o golff!

Ers talwm, roedd 'na stemar yn mynd o Gonwy i fyny'r afon i Drefriw. 'Dwi ddim yn meddwl y byddai cwch o'r fath yn gallu mynd heibio'r bont erbyn hyn oherwydd yr holl silt a'r tywod.

Roedd fy nhaid yn gweithio ar y stemar - roedd yn galw ei hyn yn engineer ond st么car oedd o go iawn. Roedd pawb yn ei 'nabod o fel Huw Black am ei fod yn llwch glo drosto drwy'r amser!

Fi oedd y clerc oedd yn delio efo'r tocynnau a'r gwaith papur ar gyfer yr hen bont yng Nghonwy. Dwi'n cofio tagfeydd traffig ofnadwy ar y bont ac roedd yn rhaid talu chwecheiniog i'w chroesi.

Mi wnaethon nhw adeiladu'r bont newydd yn 1957, er eich bod yn dal yn gallu croesi'r hen bont ar droed ond dydy hi ddim yn edrych yn neis iawn ac rydych chi'n gallu gweld ychydig gormod o'r afon trwy'r pren yn fy marn i!

Llyn gan Bryn Hughes o ben y Fadre yn 1987 wrth iddynt adeiladu twnel Conwy Mae Conwy yn boblogaidd iawn r诺an ar 么l iddyn nhw adeiladu'r twnnel newydd. Dwi'n cofio fy 诺yr bach yn dweud pan agorwyd y twnnel: 'Taid, mae fel diwrnod 'Dolig ar strydoedd Conwy r诺an!' Roedd y tagfeydd yn ofnadwy cyn hynny. Roeddwn i'n byw ar ochr Morfa'r dre ac roedd yn cymryd hanner yr amser i mi gerdded mewn ag oedd hi i fynd 芒 char.

Mae Conwy yn lle braf. Mae ganddon ni'r castell, T欧 Aberconwy (y t欧 hynaf o'i fath yn y wlad), Plas Mawr a'r t欧 lleiaf ym Mhrydain.

Ond, er mod i wedi byw yng Nghonwy erioed dwi 'rioed wedi bod i D欧 Aberconwy a 'mond wedi bod i'r castell unwaith! Y cyngor oedd pia'r castell ers talwm ond roedd mewn cyflwr difrifol am nad oedd ganddyn nhw ddigon o arian i edrych ar ei 么l yn iawn. Diolch byth, mi ddaru CADW gymryd drosodd yn 1948 neu mi fyddai golwg ofnadwy arno fo erbyn hyn.

Mae'r castell yn rhoi Conwy ar y map. 'Does dim golygfa well na gweld y castell wedi ei oleuo wrth yrru o Landudno. Ond, mi ddaru Americanwr ofyn unwaith pam eu bod wedi adeiladu castell mor agos i'r rheilffordd!"


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Eisteddfodau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy