91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhwyfo
Fuoch chi 'rioed yn rhwyfo? Mae Catrin Meirion o Glynnog Fawr yn aelod o Glwb Rhwyfo Pwllheli ac wedi bod wrthi ers deng mlynedd. Mae hi'n ei argymell fel ffordd dda o gadw'n ffit, iach, hapus a chryf.
Catrin Meirion (ail o'r cefn) a rhwyfwyr Pwllheli

1. Sut wnest ti gychwyn rhwyfo?
Mi wnes droi fyny i sesiwn gyda Chlwb Rhwyfo Aberystwyth wedi gweld nodyn yn y papur lleol yn dweud fod croeso i bawb. Ro'n i wedi llusgo fy chwaer gyda fi fel cwmni - diolch byth, gan taw sesiwn i'r dynion oedd hi! Ond roedden nhw'n gl锚n iawn ac mi adawon nhw i ni gael tro arni.

Ro'n i wedi gwneud cryn dipyn o hwylio dingis yn fy arddegau ac wedi arfer mocha o gwmpas mewn cychod o bob math, ond doedd dim cwch gen i erbyn hynny a doedd dim cyfleon i hwylio. Ro ni'n gweld eisiau bod allan ar y d诺r yn ofnadwy. Ffordd o gael allan ar y m么r oedd y rhwyfo i ddechrau felly. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ac mi rydwi'n dal wrthi! (Rydw i hefyd bellach yn berchen cwch hwylio bychan felly rydwi'n cael y gorau o'r ddau fyd!). Fues i'n rhwyfo gyda chlybiau Aberystwyth a Phorthmadog am gyfnod. Dwi bellach yn aelod o Glwb Rhwyfo Pwllheli.

2. Beth sy'n apelio am rwyfo?
Bod allan ar y m么r ymhob tywydd - mae'n arbennig o hardd, yn enwedig yn y gaeaf. Y gwmn茂aeth yn y cwch. Bod yn rhan o glwb a scene difyr - dwi wedi dod i adnabod llawer o bobl dda, sydd o'r un anian 芒 fi, trwy rwyfo.

Mae rhwyfo yn gyfuniad gwych o ymarfer corff aerobig impact isel (gwych o beth i bobl gyda phengliniau a chluniau 'doji' fel fi!), gweithgaredd awyr agored, a chwaraeon t卯m cystadleuol 'eithafol'. Mae rhwyfo'n dy gadw yn ffit, iach, hapus a chryf - a dyma'r unig ffordd o gael stumog fflat gyhyrog!

3. Pa fath o gychod ydych chi'n eu rhwyfo? Cychod Hirion Celtaidd a Virus Yoles. Mae'r cychod Celtaidd yn gychod plastic a gwydr-ffeibr modern a gosgeiddig iawn, tua 25 troedfedd o hyd a 4 troedfedd o led, sydd wedi eu cynllunio yn benodol ar gyfer rhwyfo ar f么r garw. Mae 4 yn eu rhwyfo gan eistedd un y tu 么l i'r llall, gydag un rhwyf yr un. Mae'r rhwyfau carbon-ffeibr yn tua 20 troedfedd o hyd ac yn ysgafn a chryf iawn. Mae yna 'coxswain' wedyn yn eistedd yng nghefn y cwch yn llywio a gweiddi cyfarwyddiadau i'r criw.

Mae'r Yoles yn gychod dipyn llai, ar gyfer un neu ddau o bobl - cychod 'sculling' yw'r rhain, sef rhwyfo gyda dwy rwyf - un ymhob llaw, ac mae'r sedd yn sleidio wrth i chi rwyfo (seddi solat sydd i'r cychod Celtaidd). Eto, maent yn addas ar gyfer mynd allan ar y m么r ond rhaid cael amodau ffafriol i'w rhwyfo yn ddiogel gan eu bod yn gorwedd yn isel ar y d诺r.

4. Sut mae'r system glybiau yn gweithio yng Nghymru?
Mae yna glybiau (tua 26 i gyd) ar hyd arfordir Cymru gyfan, o Borth Llechog ar Ynys M么n hyd at Y Barri a Chaerdydd yn y de-ddwyrain. Cymdeithas Rwyfo M么r Cymru ydi'r corff rheoli. Maent yn trefnu Cynghrair Cychod Hirion Cymru, sef cyfres o rasus sy'n cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau bron a bod pob penwythnos dros fisoedd yr haf. Mae yna gynghrair ar wah芒n i'r de a'r gogledd gyda rhai o'r rasus yn y canolbarth yn digwydd ar y cyd.

5. Sut mae Clwb Rhwyfo Pwllheli yn gwneud?
Rydan ni wedi cymeryd rhan yn rasus y gynghrair ers ryw dair neu bedair mlynedd bellach ac wedi gwella ein perfformiad pob blwyddyn (mae rhwyfwyr yn sicr yn gwella gyda phrofiad). Dwi'n edrych ymlaen at rwyfo gyda chriw da o genod Pwllheli eleni, wedi blynyddoedd o orfod rhwyfo efo'r hogia!

Y clwb yn rhwyfo ar y Thames Uchafbwynt bersonol oedd cymeryd rhan (ac ennill ein categori) yn Ras Fawr Llundain 2004 (The Great Thames River Race), sef marathon y rhwyfwyr traddodiadol - 22 milltir ar hyd yr afon Tafwys o Richmond i Greenwich.

6. Pa offer neu ddillad sydd ei angen?
Leicra tynn! Ond os ydi hynny yn swnio'n rhy frawychus, dillad tebyg i'r hyn y buasech yn ei wisgo i fynd ar feic - dillad efo stretch ac mae top sy'n hirach yn y cefn yn fuddsoddiad gwerth chweil. Menyg hwylio os ydy eich dwylo yn dyner, ac wedyn hen trainers neu wet shoes ar eich traed. Mae het yn angenrheidiol yn y gaeaf.

7. Lle ydy dy hoff le i rwyfo?
Allan ar y m么r (unrhywle) ar noson lonydd gynnes braf o haf pan fydd yr haul yn machlud, gyda'r m么r a'r awyr yn troi'n binc ac oren a melyn a choch a phorffor o'n cwmpas - dwi'n rhamantydd llwyr yn y b么n.

8. Beth ydy dy brofiad mwyaf cofiadwy?
Mae rhwyfo ambell i ras mewn tywydd erchyll yn aros yn y cof ond am resymau negyddol! Hefyd nifer o sesiynau rhwyfo mewn amodau bendigedig yn dod 芒 gw锚n i'r wyneb. Ond mae cymeryd rhan yn ras Llundain yn brofiad anodd ei churo. Mae'n ras hanesyddol a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1715 gan 'The Company of Watermen and Lightermen' sef gweithwyr tacsis d诺r y ddinas - o'r cyfnod cyn y tiwb nac unrhyw dacsis modur.

Mae'r ymdeimlad o fod yn rhan o rhywbeth mor hynafol yn un sy'n eich taro tra'n cymeryd rhan. Hefyd, mae pensaern茂aeth Llundain yn anhygoel o drawiadol o'r afon - dyma sut i weld y ddinas ar ei gorau. Bydd cannoedd o gychod traddodiadol o dros y byd yn dod i gystadlu yn y ras hon pob mis Medi - mae'n wefr bod yn eu canol.

9. Oes gennyt ti arwr yn y maes?
Merched Aberdyfi!!

10. Cyngor i unrhyw un sydd am ddechrau rhwyfo?
Rhaid bod yn hyderus ar y m么r. Tydi medru nofio ddim yn angenrheidiol ond mae'n amlwg o fudd. Mae rhwyfo m么r yn addas i bob oedran, o tua 14 i fyny. Does dim angen bod yn andros o ffit a chryf i ddechrau ond wedi dweud hynny, po fwya ffit a chryf ydych chi mae'n amlwg o fudd.

Os ydych chi eisiau rhoi tro arni, cysylltwch gyda Chymdeithas Rhwyfo M么r Cymru i ffeindio eich clwb agosaf, wedyn cysylltu gyda'r clybiau yn uniongyrchol i drefnu i fynd am sesiwn hyfforddiant/ymarfer.

11. Unrhyw beth arall?
Mae rhwyfo m么r ar fin dod yn chwaraeon Olympaidd swyddogol, ac mae rhwyfwyr Cymru a Chernyw ar y blaen yn hyn o beth ym Mhrydain. Dwi'n ofni mod i'n rhy hen bellach i 'fyw y freuddwyd Olympaidd' ond mae'n bosibl bod dyfodol cyffroes iawn i rwyfwyr morwrol ifanc Cymru. Ffansi medal unrhyw un?

Cyngor a barn un o rwyfwyr 'Y Gogs Bach' o F么n



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy