91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Pysgota cwrs
Dyma Ray Swales i s么n am bysgota cwrs yn afonydd a llynnoedd yr ardal.

Ray Swales "Wrth bysgota mewn afonydd neu o ochr llyn, byddwn fel arfer yn rhoi popeth rydym yn ei ddal yn 么l, yn wahanol i bysgota plu a physgota m么r.

"Byddwn fel arfer yn dal pysgod fel rhufell (roach), draenogiad, carp, ysgreten (tench), gwyniad neu benhwyad. Yr haf yw'r amser mwyaf poblogaidd i fynd i bysgota er bod pysgota am benhwyad yn wych yn y gaeaf.


"Rhaid i bawb sydd am bysgota o lan afon neu lyn sydd dros 12 mlwydd oed gael trwydded gwialen gan Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae trwydded i bobl ifanc rhwng 12 ag 16 oed yn costio tua 拢5 ac mae un ar gyfer oedolion yn costio tua 拢22.

"Rhaid i chi wedyn gael caniat芒d clwb pysgota, neu bwy bynnag sy'n berchen ar y tir cyn pysgota. Dwi'n aelod o Glwb Pysgota Ynys M么n ac mae'n costio tua 拢40 y flwyddyn i ymuno. Cewch wedyn drwydded i bysgota ar ein tir ni ac mae wardeiniaid yn cadw llygad ar bwy sy'n pysgota yna.

"Er enghraifft, mae gan ein clwb ni'r hawl i bysgota ar 500 medr o lannau Llyn Rhosneigr, Sir F么n - ond rhaid cofio bod o leiaf pum person neu gwmni yn berchen ar weddill y tir o amgylch y llyn.

"Dwi wir yn mwynhau pysgota. Roeddwn yn arfer chwarae golff ond erbyn hyn ryw'n anabl ac felly mi es yn 么l i bysgota gan ei fod yn llai corfforol.

"Mae gan y clwb lefydd arbennig ar gyfer pobl mewn cadair olwyn i bysgota ger ochr llynnoedd, fel yn Llyn Nantanog, Llyn Tacan a Pharc Morglawdd, Caergybi.

"Mae dros 30% o aelodau'r clwb yn anabl - mae'n chwaraeon gwych i bawb.

"Mae gennym ni hefyd naw hyfforddwr o fewn y clwb ac rydym yn mynd o amgylch gogledd Cymru yn dangos i bobl sut i bysgota. Yn 2004 mi ddysgasom ni dros 2,500 o Scouts a Guides i bysgota yn y Sioe Frenhinol ac rydym wedi cychwyn gweithio efo ysgolion lleol i hybu pysgota ymhlith yr ifanc. Rydym yn cychwyn drwy ddangos i'r plant sut i roi gwialen at ei gilydd ac, os oes digon o le, sut i saethu'r llinell. Byddwn wedyn yn mynd i'r llyn gan obeithio eu bod wedi dysgu rhywfaint - mae pawb wedi cael amser gwych hyd yn hyn, yn enwedig yr athrawon!

"Mae 'na rai o fewn y clwb sy'n cystadlu. Mae hyn yn wych, yn enwedig i gwrdd 芒 phobl newydd. Yn aml, yr unig amser dwi'n gweld nifer o'r aelodau yw pan roddaf lun ohonynt ar eu trwydded a'i hanfon yn y post!

"Mae 'na un cynghrair o fewn y clwb lle rydym yn teithio tua chan milltir i gystadlu, cynghrair arall lle nad ydym yn mynd mwy na 40 milltir i ffwrdd ac un arall o fewn Ynys M么n. Yr enillydd yw'r un efo'r daliadau gorau dros y flwyddyn. Cawn wedyn ginio mawr a seremoni wobrwyo bob Nadolig.

"Mae 'na hefyd ddau berson ifanc o fewn y clwb sy'n cystadlu dros Gymru.

"Mae 'na fwy o bobl yn pysgota nac sy'n gwylio p锚l-droed, sy'n anodd ei gredu ond mae o'n wir!"

Mwy am bysgota plu a physgota m么r.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy