|
Peidiwch da chi 芒 rhoi'r gorau i b锚l-rwyd ar 么l gadael yr ysgol ydy cyngor Gwen Jones o Lanfairfechan. "Mae Cymdeithas 笔锚濒-谤飞测诲 Cymru yn ceisio creu mwy o gyfleoedd i bobl chwarae'r g锚m yn yr ardal yma, felly yn hytrach na chael dwy gynghrair leol, maen nhw wedi sefydlu cynghrair gogledd Cymru, a'i rhannu'n dair adran. Mae gemau'r adran gyntaf yn cael eu chwarae yng Nghanolfan Hamdden Colwyn ar nosweithiau Mercher, pan fydd y timau gorau yn dod at ei gilydd. "Chwaraeir gemau'r ail adran yn Ysgol John Bright, Llandudno ar nos Lun. Roedd y drydedd adran yn wreiddiol ar gyfer y timau gwanaf ond mae bellach yn gynghrair i'r timau iau. "Gall timau symud o un adran i'r llall ar ddiwedd y tymor, sy'n rhedeg o fis Medi i ddiwedd Mawrth. Mae'r gynghrair yn cynnal sesiynau hyfforddi yn Ysgol John Bright am 拢1 y tro, lle gall chwaraewyr gael hyfforddiant ar gyfer sgiliau, cyflymdra ac ystwythder. "Roeddwn i wrth fy modd yn chwarae p锚l-rwyd - mi roddais i lot o bwysau ymlaen ar 么l rhoi'r gorau iddi! Rydw i'n dal i gymryd rhan achos 'dwi'n mwynhau gwylio'r timau iau yn chwarae a helpu i drefnu ar lefel sirol. "Mi fuaswn i'n methu'r g锚m taswn i ddim yn cymryd rhan mewn rhyw ffordd, ond mae'n rhaid ichi wrando ar ein pengliniau! Mi allwch chi chwarae hyd at eich pedwardegau - does dim rhaid rhoi'r gorau iddi ar 么l 'madael ysgol o gwbl. Mae gan rai o'r timau gorau ferched h欧n yn chwarae iddyn nhw ar y lefelau uchaf."
 |