|
Mae dros 300 o dimau p锚l-droed yng ngogledd orllewin Cymru, o'r lled-broffesiynol fel t卯m Dinas Bangor i dimau iau a thimau tafarn y cynghreiriau Sul. Holwch yn eich ardal chi i ddod o hyd i'ch t卯m agosaf. Cymdeithas B锚l-droed Cymru sydd 芒 chyfrifoldeb dros Uwchgynghrair Cymru, y Cymru Alliancea'r Welsh Alliance. Mae newyddion am gemau Uwchgynghrair Cymru yn ymddangos ar wefan Chwaraeon 91福利社 Cymru'r Byd. Am esboniad llawn o byramid p锚l-droed yr ardal, cliciwch yma. Yn is i lawr, mae cynghreiriau lleol yn gysylltiedig 芒 gwahanol gymdeithasau p锚l-droed - Cymdeithas B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru sy'n gweithredu yng ngogledd Cymru a Chymdeithas B锚l-droed Canolbarth Cymru yn ne Gwynedd. Mae Cymdeithas B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru yn cynnwys cynghreiriau Gwynedd, Clwyd, Ardal Caernarfon, Ynys M么n a Chynghrair Sul Ynys M么n a Gwynedd. Maen nhw hefyd yn gyfrifol am y timau iau sydd 芒 chwaraewyr rhwng 12 ac 17 oed, ac yn cynnwys ardaloedd Ll欧n/Eifionydd, Gwyrfai, Ynys M么n ac Aberconwy. Yn ogystal, maen nhw'n trefnu cystadlaethau cwpan ar gyfer timau iau, timau mwy a thimau pentref ac mae cwpan i ferched ar y gweill hefyd. Mae timau fel Dolgellau, Corris, Aberdyfi, Tywyn/Bryncrug yn dod dan oruchwyliaeth Cymdeithas B锚l-droed Canolbarth Cymru ac yn chwarae yng nghynghrair Aberystwyth tra mae timau iau de Gwynedd yn chwarae yng Nghynghrair Mini/Minor Tywyn a'r Cylch. Yn 么l Trefor Lloyd Hughes o Gymdeithas B锚l-droed Arfordir Gogledd Cymru, mae gwir angen mwy o ddyfarnwyr arnyn nhw:
"Rydyn ni'n dibynnu'n helaeth ar wirfoddolwyr - ac mae wir angen mwy arnon ni ar hyn o bryd. Mi gawson ni sesiwn hyfforddi lwyddiannus yn Llangefni yn ddiweddar, ond mae angen mwy o help arnon ni ar gyfer gemau ym Mhen Ll欧n, y Blaenau, Llanrwst a Llandudno. Cysylltwch os oes ganddoch chi ddiddordeb." 笔锚濒-诲谤辞别诲 merched笔锚濒-诲谤辞别诲 ieuenctid
 |