91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Gareth Warburton Anelu am yr Olympics
Cystadlu yn y Gemau Olympaidd yw breuddwyd y rhedwr Gareth Warburton o Gaernarfon. Ond pa mor anodd sydd raid gweithio i wireddu hynny?

"Mi wnes i gychwyn gwneud athletau yn y chweched dosbarth. Mi roeddwn yn chwarae p锚l-droed a rygbi cyn hynny ac roeddwn wastad yn eithaf sydyn ac yn chwarae ar yr asgell ac roedd yn naturiol i mi symud ymlaen i athletau.

Roeddwn yn hyfforddi ar drac athletau Treborth ym Mangor cyn symud ymlaen i'r brifysgol yng Nghaerdydd. Roeddwn wastad eisiau mynd i UWIC i astudio sports management, mae'n goleg sy'n rhoi pwyslais ar chwaraeon.

Mi wnes i dr茂o trawsgwlad a sbrintio ond dwi'n siwtio'r 400m orau. Ond mae'n galed - 'da chi bron iawn yn cadw ar top speed yr holl ffordd rownd.

Mi wnes i ffeindio bywyd myfyriwr yn anodd yn y flwyddyn gyntaf - gwneud ffrindiau, mynd allan i yfed - joio gormod efallai. Ond ar 么l hynny, sylweddolais nad oeddwn yn gallu gwneud y ddau ac roedd rhaid gwneud dewis. Dwi ddim yn yfed llawer r诺an ac yn canolbwyntio ar athletau, ac mae yna griw mawr ohonom felly mae'r ochr gymdeithasol yn reit dda.

Dwi wedi cystadlu ledled Ewrop - Norwy, Ffrainc, Sbaen, Slofenia. Dwi am wneud mwy o rasys yn Ewrop yr haf yma i geisio ennill ychydig o wobrau ariannol. R诺an mod i wedi gadael y brifysgol dwi'n cael ychydig o gymorth gan y loteri a hefyd gan fy nhad ond mae'n rhaid i mi gychwyn gwneud mwy.

Dwi'n sicr yn gwneud mwy o hyfforddi r诺an. Yn yr ysgol dim ond ryw dair noson yr wythnos ro'n i'n ei wneud, wedyn bob dydd yn y brifysgol ac erbyn hyn dwywaith y diwrnod, gydag un diwrnod i ffwrdd yr wythnos. Dwi yn y gampfa neu'n rhedeg ar y trac neu i fyny elltydd, sy'n hyfforddiant da!

Gareth Warburton Fy mreuddwyd mawr yw cystadlu yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008, a hefyd yn Llundain yn 2012 gobeithio. Yn gyntaf, rhaid i mi gael i mewn i d卯m ras gyfnewid 4 x 400m Prydain ym Mhencampwriaeth Athletau'r Byd yn 2007. Dwi yn y chwech uchaf ym Mhrydain ac mae angen sgwad o chwech yn y ras gyfnewid felly mae gen i gyfle reit dda. Os ga i fynd, bydd 'na hyfforddiant yn yr un base camp ym Macaw lle byddan nhw'n mynd cyn Gemau Olympaidd 2008.

Rhaid i mi wella fy amser o ryw 0.3 eiliad er mwyn cael cystadlu fel unigolyn.

Y peth pwysicaf mewn athletau yw eich bod chi eich hun eisiau ei wneud o. Dydych chi ddim yn rhan o d卯m fel yn rygbi neu b锚l-droed - dim ond y chi sy'n gallu gweithio i gael llwyddiant ond pan rydych chi'n llwyddiannus, mae'n lot mwy boddhaol.



Ar y Marc
Natur
Straeon Digidol


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy