91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Beicwyr o Clwb Beicio Cefni yn paratoi am reid Lonydd beicio
Ddim yn aelod o glwb ond awydd neidio ar eich beic a dilyn eich trwyn? Ewch i ddarganfod y wlad ar lwybrau beicio Gwynedd, Conwy ac Ynys M么n. Beth am rannu eich hoff daith efo ni?
Richard Glynne Jones o Gyngor Gwynedd sy'n egluro mwy am lwybrau beicio yn yr ardal.

Gwynedd

"Mae prosiect y Lonydd Glas yn cael ei gynnal gan Gyngor Gwynedd i roi cyfle i feicwyr wir fwynhau'r wlad.

Rydyn ni wedi creu sawl llwybr o fewn a thrwy'r sir, gan gynnwys:


L么n Las Ogwen - o Borth Penrhyn, Bangor, i fyny drwy Glasinfryn i fwthyn Ogwen.
L么n Peris - llwybr llai o amgylch Llyn Padarn.
L么n Las Menai - o'r Felinheli i Ddoc Fictoria, Caernarfon.
L么n Eifion - ar hyd Ffordd Santes Helen, Caernarfon, i lawr i Fryncir - mae bwriad i'w ymestyn i Gricieth hefyd.

Mae'r rhain i gyd yn llwybrau sydd oddi ar y ffordd ac yn plethu 芒 ffyrdd prysurach o bryd i'w gilydd.

Dyma rai o'r llwybrau eraill:
Trawsfynydd - o amgylch y llyn i Gellilydan.
L么n Llyn Trawsfynydd - o amgylch llyn Trawsfynydd.
L么n Mawddach - o Ddolgellau i'r Bermo. Mae'n cael ei gynnal a'i gadw gan y parciau cenedlaethol.

Mae Cyngor Gwynedd hefyd wedi cymeradwyo llwybrau beicio eraill ar lonydd a ffyrdd tawel, gan gynnwys:

L么n Ardudwy - o'r Cob, Porthmadog i'r Bermo.
L么n Dysynni - o Dywyn, drwy Lanegryn a Bryncir i Abergynolwyn.

Mae cynllun hybu ar gyfer twristiaeth beicio o'r enw Newid G锚r (Moving up a gear) yn cael ei hyrwyddo gan Fwrdd Croeso Cymru a'u partneriaid, sy'n cynnwys cynghorau sir. Y bwriad ydy annog teuluoedd i ddod ar wyliau beicio i'r ardal. Mae pum llwybr o amgylch pentrefi Pen Ll欧n a sawl un yn mynd o'r Marian Mawr yn Nolgellau, er enghraifft.

Fe ellwch chi brynu taflen sy'n rhoi mwy o wybodaeth am y llwybrau yma o ganolfannau croeso.

Mae gan y rhwydwaith beicio cenedlaethol ddau lwybr sy'n mynd drwy ogledd orllewin Cymru. Mae Llwybr 5 yn mynd o'r dwyrain i'r gorllewin, ar hyd yr arfordir a thros y bont i Ynys M么n.

Mae Llwybr 8, sef L么n Las Cymru, yn mynd o Gaergybi i Gaerdydd gan groesi Pont y Borth ac yna'n mynd i lawr i Borthmadog ac ar hyd arfordir Ardudwy, drwy Goed-y-Brenin a Dolgellau ac ymlaen i Dywyn.

Conwy
Yng Nghonwy mae cyfleusterau beicio mynydd yng Nghoedwig Gwydir - mae'r llwybrau un-trac yma yn dechnegol iawn ac ar gyfer beicwyr mynydd profiadol.

Mae gwaith yn cael ei wneud ar lwybr Marin hefyd yng nghoedwig Gwydir ger Penmachno. Fe gewch fwy o wybodaeth am y llwybr yma gan y Bwrdd Croeso neu o siop Beics Betws ym Metws-y-coed.

Mae Llwybr 5 y rhwydwaith beicio cenedlaethol yn mynd drwy Gonwy hefyd. Mae rhan helaeth o'r llwybr yn mynd oddi ar y ffordd ger yr afon Clwyd yn y Rhyl ar hyd glan y m么r heibio i Abergele a Hen Golwyn ac at y prom yn Llandrillo-yn-Rhos. Mae'r rhan fwyaf newydd yn parhau drwy Fae Penrhyn a'r Gogarth Bach i bromen芒d Llandudno.

Mae'r cyngor hefyd yn datblygu Llwybr 5 ar hyd aber yr afon Conwy - o Benmorfa, Llandudno, drwy Ddeganwy i Lan Conwy, Morfa'r Conwy a Phenmaenbach. Ond mae Pen y Clip yn achosi problemau ar y llwybr yma gan nad oes ffordd ddiogel o groesi'r ffordd ddeuol eto.

Ynys M么n
Mae Llwybr 8 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol yn mynd yn syth drwy Langaffo ar ochr orllewinol yr ynys.

Mae Llwybr 5 yn mynd ar hyd ochr ogleddol yr ynys, drwy Benmynydd i'r Fali a Chaergybi.

Mae Menter M么n hefyd wedi gosod arwyddbyst i ddangos teithiau beicio cylchynol, sydd i gyd wedi eu henwi ar 么l adar:

Telor - o Fiwmares drwy Landdona a Phenmon.
Giach - o Aberffraw drwy Langristiolus a Malltraeth.
Nico - o ganolfan ymwelwyr Llyn Alaw drwy Lannerchymedd a Llanddeusant.
Hebog - o Benllech drwy Gronfa Dd诺r Cefni i Foelfre.

Fe ellwch chi gael copi o'r teithiau hyn, sef Teithiau Beicio Gwledig yn Ynys M么n, o ganolfannau croeso yr ynys."

N么l i'r brif dudalen beicio



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy