|
Norman Greenhouse o Fangor, swyddog datblygu Undeb Badminton Cymru, sy'n egluro'r cyfleoedd sydd ar gael i chwarae'r g锚m yng ngogledd Cymru. "Os ydych chi'n newydd i'r gamp ac yn meddwl am ddechrau chwarae mae clybiau badminton fel arfer yn fodlon rhoi benthyg raced ichi nes eich bod yn penderfynu a ydych chi'n hoffi'r g锚m ai peidio. "Yn gyffredinol, mae'n costio tua 拢1 y flwyddyn i ymuno efo clwb a bydd llogi'r wennol yn costio tua 拢1 yr awr i chwaraewyr iau a thua 拢2 i rai h欧n. Os ydych chi eisiau ymaelodi 芒'r corff rheoli yng Nghymru, mae'n costio 拢4.50 i rai iau a 拢7.50 i rai h欧n. Felly mae'n chwaraeon rhad ac mae'n eich helpu i gadw'n ffit. "Mi roddodd y Gemau Olympaidd hwb enfawr i'r g锚m ac mi gafwyd diddordeb ffantastig gan nifer o ysgolion." Chwaraewyr h欧n "Mae pobl h欧n yn cymryd rhan yng nghyfres Conwy/Arfon/Dwyfor Undeb Badminton Cymru. Mae'r siroedd wedi eu seilio ar hen siroedd Cymru. Mae pob sir yng Nghymru yn cynnal cystadleuaeth ac mae'r chwaraewyr 芒'r sg么r uchaf yn mynd ymlaen i chwarae mewn twrnament Cymru-gyfan." Chwaraewyr iau "Mae cynghrair iau gogledd orllewin Cymru yn cwrdd tua pum gwaith y flwyddyn, gan fod y tymor mor llawn. Mae Undeb Badminton Cymru hefyd yn cynnal y twrnament Junior Shuttle a chyfres Junior Satellite. "Mae Neil Cottrill, sydd wedi chwarae ar lefel ryngwladol dros Loegr a Chymru, yn hyfforddi chwaraewyr ifanc gorau'r ardal mewn canolfan yn Ysgol Rydall, Bae Colwyn." Gwirfoddoli "Mae'r Undeb yn cynnal sesiynau hyfforddi i ddechreuwyr a chwaraewyr canolradd. Gan mai dim ond pedwar person sy'n cael ei gyflogi gan yr Undeb yng Nghymru, rydyn ni'n dibynnu ar wirfoddolwyr i'n helpu i ddyfarnu mewn gemau ac i hyfforddi. Os ydych chi'n ddigon da, fe allech chi gael cyfle i ddyfarnu yn Ewrop ac o bosib yng ngweddill y byd." Anabledd "Mae clwb i chwaraewyr ag anabledd corfforol ym Mae Colwyn ac fe wnaeth un o'r aelodau, Phil Hughes o Lanfairfechan, chwarae dros Gymru ym mhencampwriaeth Ewrop yn 2003." "Rydyn ni'n gobeithio ehangu'r cyfleusterau i chwaraewyr anabl fel mae'r angen yn codi."
 |