91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cadair olwyn Chwaraeon i'r anabl
O boccia i b锚l-droed, athletau i dennis, mae digon o ddewis yn Ynys M么n, Conwy a Gwynedd. Cofiwch rannu straeon a lluniau eich clybiau chi efo ni.

I ddod o hyd i'ch clwb agosaf ewch i wefan Chwaraeon Anabledd Cymru (dolen ar y dde), a chliciwch ar y Cyfarwyddiadur Clybiau.

Ynys M么n
Dyma Karen Williams, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru ar Ynys M么n i s么n am be sy'n digwydd ar yr ynys.

"Rydyn ni'n cynnal sesiynau p锚l-droed bob dydd Iau rhwng 5:00pm a 6:00pm yng Nghanolfan Hamdden Llangefni. Yn ddiweddar mae Clwb P锚l-droed Merched Llangefni wedi cymryd gr诺p o b锚l-droedwyr dan eu hadain, gan greu t卯m p锚l-droed Llewod Llangefni. Mae'r t卯m yma'n agored i bobl o bob oed - fe ddechreuodd fel t卯m ar gyfer pobl dros 15 oed ond erbyn hyn rydyn ni'n derbyn plant iau hefyd.

"Fe fyddwn ni'n dechrau prosiect nofio-am-ddim yn y sir ymhen ychydig fisoedd, gan roi cyfle i blant ac oedolion fynd i nofio.

"Rydyn ni hefyd yn gobeithio dechrau clwb codi pwysau yng Nghaergybi dan arweiniad Raymond Williams. Fe fydd hynny'n rywbeth gwahanol i'r hyn sydd gan y rhan fwyaf o siroedd eraill.

"Mae sesiynau trampol卯n neu boccia ar gael yng Nghanolfan Hamdden Biwmares bob dydd Iau rhwng 2:00 - 3:30pm. Fe ellwch chi hefyd chwarae boccea yng Nghanolfan Mona ar ddydd Iau yn Llangefni a chyda Thyddyn M么n yng Nghanolfan Hamdden Amlwch ar ddyddiau Gwener.

"Rydyn ni'n gobeithio cychwyn clwb athletau i blant ac oedolion yn ystod yr haf, gyda chymorth Mencap a'r gwasanaethau cymdeithasol. Os ydy hyn yn llwyddo, fe fyddai'n beth gwych i Ynys M么n.

"Mae tair sir y gogledd orllewin - Gwynedd, Conwy a M么n - wedi dod at ei gilydd i gynnal sesiynau chwaraeon i bobl fyddar. Rydyn ni'n dod at ein gilydd yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas ym Mangor bob wythnos. Newydd ddechrau mae'r trefniant yma ond gobeithio y bydd yn mynd o nerth i nerth."

Conwy
Ian Martin, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru, Conwy, sy'n dweud be' sydd ar gael yn yr ardal.

"Mae Clwb P锚l-droed Anabl Llandudno yn cyfarfod yn neuadd hamdden Ysgol John Bright bob dydd Mawrth. Mae'r clwb yn agored i blant 芒 phob math o anabledd, er mai plant ag anableddau dysgu ydy'r rhan fwyaf.

"Mae Clwb Allsports Abergele hefyd yn cynnal sesiynau p锚l-droed i bobl ifanc o dan 16 oed am 5:00pm bob dydd Mercher.

"Mae sesiynau tennis ar gyfer pobl ag anabledd corfforol ar gael yng nghanolfan tennis Parc Eirias, Bae Colwyn, bob dydd Sadwrn rhwng 12:00pm a 1:00pm gyda sesiynau tennis ar gyfer pobl ag anabledd dysgu bob dydd Iau rhwng 5:00pm a 6:00pm.

"Bob dydd Mercher rhwng 6:00pm a 7:00pm mae sesiynau badminton yng nghanolfan hamdden Coleg Llandrillo, Llandrillo-yn-Rhos.

"Rydw i'n gysylltiedig 芒 Chymdeithas Cricedwyr Anabl Cymru, sy'n cynnal sesiynau rhwydi yn Rhiwabon yn ystod y gaeaf. Bydd y chwaraewyr gorau yn mynd ymlaen i chwarae dros Gymru yng nghynghrair y siroedd. Os oes gan unrhyw un o Gonwy ddiddordeb mewn sefydlu clwb criced yn yr ardal, cysylltwch 芒 fi - byddai'n wych cael ymarfer criced rhywle yn agosach na Wrecsam.

"Mae Morfilod Conwy (Conwy Whales) yn cynnal sesiynau nofio ym mhwll Bae Colwyn bob dydd Sadwrn rhwng 6:00pm a 7:00pm. Wedi trafodaethau gyda rhieni plant sydd ag anableddau, penderfynodd Cyngor Sir Conwy beidio 芒 chynnal dosbarthiadau i'r plant yma yn unigol, ond i helpu'r plant i gymryd rhan yn y dosbarthiadau sydd ar gael yn barod.

"Mae cynlluniau ar y gweill i gynnig cyfleusterau dringo ac athletau yng Nghonwy yn y dyfodol agos."

Gwynedd
Marcus Politis, Swyddog Chwaraeon Anabledd Cymru yng Ngwynedd, sy'n s么n am gyfleusterau'r sir ac yn egluro rheolau'r g锚m boblogaidd, boccia.

"Math o fowls ydy Boccia. Mae'r peli yn rhai meddal ac yn ysgafnach na'r arfer ac mae'n bosib defnyddio ramp i anelu'r b锚l yn ogystal a'i thaflu. Mae tri pherson ym mhob t卯m a diben y g锚m yw ceisio taflu'r b锚l mor agos i'r un gwyn 芒 phosib.

"Mae'n bosib chwarae dan do, mewn neuadd tre neu ysgol, a thu allan efo'r peli hyfforddi newydd".

Clybiau: Clwb Boccia Porthmadog, Clwb Boccia y Moelwyn, Blaenau Ffestiniog, Clwb Ni, Pwllheli.

"Rydym ar hyn o bryd yn cynnal sesiynau blasu chwaraeon i bobl fyddar yng Nghanolfan Hamdden Maes Glas, Bangor bob nos Iau rhwng 6:00pm a 7:00pm.

"Mae sesiynau p锚l-droed i bobl ifanc ag anableddau yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden Caernarfon bob nos Wener rhwng 5:00pm a 6:00pm.

"Yn ogystal 芒 hyn, mae pyllau nofio Porthmadog, Pwllheli, Bangor, Arfon, Blaenau Ffestiniog a Thywyn yn cynnig sesiynau nofio am ddim bob wythnos.

"Mae cyfle i blant efo anableddau gymryd rhan mewn athletau gyda chlwb Menai Trac.

"Mae clwb chwaraeon amrywiol yn Nolgellau sy'n cynnal sesiynau boccia, cyrlio, athletau a badminton yng nghanolfan hamdden y dre."



Chwaraeon
Natur
Straeon Digidol


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy