91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bandiau
Genod Droog Genod Droog
Carwyn 'Kim De`Bills' Jones sy'n ateb ar ran y Genod.
  • Sgwrs efo Gethin ac Aneurin yn Sesiwn Fawr Dolgellau
  • C2 gyda Genod Droog yn y Proms: clipiau a lluniau
  • Aelodau: Dyl Mei (Pep Le Pew) Carwyn (DJ Kim De`Bills) Ed Holden (Pep Le Pew) Nei ('South Welian'), Berwyn (Derwyddion).

    O lle: Aelodau pwysicaf y band o Borthmadog yn wreiddiol ;0)

    Disgrifiwch steil y band: Cymysgedd o roc, pop electroneg, gwerin gyda chanu a rapio.

    Pryd wnaethoch chi ffurfio? Bydd y Genod Droog yn flwydd oed ym mharti Nadolig Maes B yng Nghlwb y Rheilffordd Bangor fis Rhagfyr 2006.

    Pam/sut ddaru chi ffurfio band: Cyn Eisteddfod Genedlaethol Bangor penderfynom bod angen cic yn nhu 么l y s卯n roc Gymraeg. Felly ar 么l trafod cytunodd pawb i fod yn ran o brosiect newydd a chyffroes. Yna ar 么l sesiwn rhannu syniadau datblygodd y prosiect i fod yn fand.

    O lle daeth yr enw? Mae'r gair "Droog" Wedi dod o un o ffilmiau enwocaf Stanley Kubrick sef Clockwork Orange. Wrth sillafu'r gair yn y ffordd yma mae'n caniat谩u i bobl ddi-Gymraeg ddweud 'Drwg' yn haws. Mae`r "Genod" yn gyfrinach!

    Uchafbwynt/isafbwynt hyd yma: Un o uchafbwyntiau'r band oedd cael y cyfle i fynd lawr i dde Ffrainc yn ystod gwyliau'r haf i recordio caneuon mewn stiwdio ynghanol y mynyddoedd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai un o'r isafbwyntiau oedd pan ddaeth olwyn ein fan i ffwrdd ar y ffordd n么l o Ffrainc (yn Nhrawsfynydd). Ar 么l teithio 2,800 o filltiroedd daeth yr olwyn i ffwrdd dim ond deg milltir o Borthmadog.

    Pwy ydy eich hoff artistiaid: Dyl Mei - Michael Jackson, Kim De 'Bills - Elton John, Ed Holden - Queen, Nei - Stuart Renaults, Geth Ev - Vanta.

    Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?: Fel arfer rydym yn eistedd i lawr mewn cylch ac yn gafael dwylo, cau ein llygaid a jest gadael i`r dychymyg wneud y gwaith.

    Efo pa berson enwog fyddech chi'n rhannu eich cornflakes? Efo Nain Blaena!

    Sut mae'r ardal wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth? Gan fod hip hop yn ddylanwad cryf yn ein cerddoriaeth, mae'n bwysig eich bod yn s么n am eich gwreiddiau a'ch cefndir. Credaf fod hynny'n cael ei adlewyrchu yn ein caneuon.

    Pe baech chi'n anifail, pa anifail fyddech chi? Carwyn y Stalwyn de!

    Lle ydy'r lle gorau yn yr ardal i weld bandiau byw? Does dim llawer o ots ble mae`r gig i fod yn onast. Rydw i wedi DJio mewn ysgubor cyn heddiw ac wedi cael bangar o gig.

    Lle fyddai eich lle delfrydol i chwarae: Hoffwn i chwarae ar y lleuad, ond yn anffodus mae ticed return braidd yn ddrud yn 么l bob s么n, ac mae'r gwestai'n afiach.

    Pwy fyddech chi'n hoffi ei weld yn dod i'ch gigs? Gan fod digonedd o bobl ifanc yn ymweld 芒'r Genod pan yn perfformio, fuasai ddim yn Ddroog o beth i weld yr henoed yn dod am ddawns a pharti bob hyn a hyn.

    Gwefan: myspace/genoddroog. Mae gan bob aelod o`r band safle My Space unigol hefyd.

    Unrhyw beth arall?: Ymmmmmm, parchwch yr henoed!



    Digwyddiadau
    Radio Cymru
    Adolygiadau


    About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy