91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Cerddoriaeth

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bandiau
Pep le Pew Pep le Pew
Mae Aron Elias yn cael ei ysbrydoliaeth o'r papurau newydd a rhaglenni newyddion ac mae eisiau lledaenu'r neges am hiphop Cymraeg ar draws y byd o ben mynydd y Cnicht.
Aelodau
Fi (Aron), Dyl Mei, Dave ac Ed.

O lle
Mae Dyl a fi yn dod o Borthmadog, Dave a Gaerdydd ac Ed o Amlwch.

Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Tua 1999.

Pam ddaru chi ffurfio band?
Fi a Dave ddaru ffurfio'r band. Roedden ni'n meddwl y byse fo'n c诺l gwneud ryw hiphop/ffync yn y dechrau. Ond wedyn daeth Dyl mewn i gwneud y samplo, ac Ed fel MC ac i sgratcho a dwi r诺an yn chwarae'r b芒s.

Gig gwaetha
Lot! Roedd na un gig yn Port lle ddaru mwg ddechrau dod allan o'r system PA! Roedd yn rhaid i bawb gerdded heibio i ni a thrwy'r mwg er mwyn mynd i fewn i'r ystafell! Roedd o'n siambls llwyr. Roedd yn rhaid i ni dr茂o plwgio popeth mewn i decs y boi arall 'ma er mwyn cario mlaen.

Gig gorau
Yn Neuadd Hendre, Bangor efo'r Mad Proffesor yn chwarae hefyd.

Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Cwestiwn anodd iawn. Dwi'n hoffi bob math o gerddoriaeth, o'r bl诺s i glasurol i hiphop a jazz. Mae Dyl yn hoffi'r Super Furries a Led Zeppelin a mae pawb yn hoffi lot o hiphop.

Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydda i neu Dyl yn rhoi ryw b卯t i lawr. Dwi'n cael syniadau o'r newyddion neu'r papurau newydd neu rywbeth sydd ar fy meddwl i - mae'n well allan na'i gadw i mewn!

Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Mae gig yn cymryd lot allan ohonof i, felly mi fydda' i'n chwilio am ryw stafell ddistaw am bum munud i gael sm么c. Wedyn mi a i n么l allan i bartio.

Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Ryw super hero fel Batman neu Spiderman - neu'r hulk neu Jessica Rabbit!

Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Mae o wedi dylanwadu ar ein hagwedd ni, ond ddim wir ar y gerddoriaeth.

Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Sgync.

O lle ddaeth yr enw?
Sgync mewn cart诺n oedd Pep Le Pew. Roedd Pep Lew Pew yn arfer mynd ar 么l y gath 'ma - roedd o'n ddoniol iawn!

Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Ffynci fusion roc.

Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ar ben Cnicht - ond fydd angen goleuadau!

Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Dwi efo'r brydferth Einir ar ein ffordd i weld Bad Boys II yn y sinema.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Wrecsam):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



Digwyddiadau
Radio Cymru
Adolygiadau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy