 |
 |
 |
Kentucky AFC Dydi Huw Owen (ar y chwith) ddim yn hapus os ydy o'n gorfod chwarae mewn ffeiriau "llawn neiniau a phlant yn bwyta scons ... 'Di o ddim yn neis pan 'does neb yn gwrando arnoch chi," meddai. |
 |
 |
 |
Aelodau
Dwi'n chwarae'r b芒s ac yn canu (Huw), Endaf Roberts ar git芒r ac yn canu a Gethin Evans ar y drymiau.
O lle
Mae Endaf o Felinheli, Gethin o Dremadog a dwi o Chwilog.
Pryd wnaethoch chi ffurfio?
Mi wnaethon ni ddechrau yn gynnar yn 2001, a ddaru Gethin ymuno efo ni ddechra 2003.
Pam ddaru chi ffurfio band?
Roedd llwyth o'n m锚ts ni'n digwydd bod ag offerynnau, heblaw amdanaf fi! Gan nad oedd neb yn chwarae b芒s, a fi newydd gychwyn dysgu'r git芒r, nes i brynu un - a r?an mae'n lot well gen i'r b芒s na'r git芒r.
Gig gwaetha
Mi wnaethon ni gig ym Machynlleth ac roedd pob dim yn siambls llwyr! Roedd o mewn ryw ffair, llawn neiniau a phlant yn bwyta scons a neb yn cymryd dim sylw o gwbl, felly ddaru ni jest malu cachu yn lle canu! Dydi o ddim yn neis pan does 'na neb yn gwrando arnoch chi.
Gig gorau
Ym Maes B yn Eisteddfod Meifod, ac yng Nghlwb Ifor Bach y mis diwethaf.
Pwy ydy'ch hoff artistiaid chi?
Dwi'n hoffi'r Ramones a'r Velvet Underground. Mae Endaf yn gwrando ar bob dim o Motown i Nirvana ac mae Gethin yn hoffi'r Super Furries a Radiohead - y math yna o beth.
Sut ydych chi'n mynd ati i sgwennu caneuon?
Mi fydd rhywun yn dod a ryw riff neu g芒n ma nhw wedi'i chyfansoddi efo'r git芒r a mi fydd pawb yn rhoi eu input eu hunain.
Be ydych chi'n ei wneud ar 么l gig?
Meddwi neu ddreifio adra! Yr unig ddau opsiwn.
Pa berson enwog fyddech chi'n licio rhannu cornflakes efo nhw?
Christina Aguileira
Ydy eich ardal chi wedi dylanwadu ar eich cerddoriaeth mewn unrhyw ffordd?
Do, i raddau. Mi wnaeth rywun bwyntio allan unwaith bod y rhan fwyaf o'r caneuon am fod yn b么rd, heb lot i'w wneud! Nes i ddim sylwi ar hynny nes i rywun ddweud, er mai fi sy'n sgwennu'r geiriau.
Pe bai eich band chi'n anifail, pa un fydde fo?
Gerbil gan ein bod ni fyny trwy'r nos! O, neu stalwyn.
O lle ddaeth yr enw?
Does na'm stori i ddweud y gwir. Daw'r Kentucky o Kentucky Fried Chicken ac mae'r AFC yn golygu beth bynnag liciwch chi!
Disgrifiwch steil y band mewn tri gair:
Roc a r么l
Pe baech chi'n cael dewis unrhyw le yn eich ardal i gynnal gig, lle fyddai?
Ynys Enlli. Dwi rioed wedi bod yna, a waeth imi fynd 芒'r git芒r efo fi os dwi'n mynd!
Beth ydych chi'n ei wneud yr eiliad hon?
Mynd allan am ffag!
 |
 |
 |
 |  |
Cyfrannwch i'r dudalen hon!
|  |
|
 |
 |
 |
听
|
 |
 |
 |
Dyw'r 91福利社 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
 |
 |
 |
|