91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Bryan Davies Damwain Bryan
"Mae ambell raglen deledu yn codi lle mae rhywun mor falch o fod wedi cael cyfle i weithio arni. Mae hon yn un o'r rhaglenni hynny. Mae wedi bod yn fraint cael ei gwneud hi."
Geiriau Catrin M.S. Davies, cynhyrchydd y rhaglen Y Ddamwain Rygbi, rhan o'r gyfres ddogfen O'r Galon.

Mae'r gyfres hon yn dwyn y gwyliwr i ganol profiadau personol iawn. Yn Y Ddamwain Rygbi mae Bryan 'Yogi' Davies o'r Bala, ei wraig a'i ffrindiau, yn trafod effaith anaf trasig a ddioddefodd ar y cae rygbi wrth chwarae ei g锚m olaf un i Glwb Rygbi'r Bala.

Ar 么l blynyddoedd o wasanaeth diflino i'r Clwb, fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd Bryan wedi cyhoeddi yn yr ystafell newid cyn g锚m olaf y t卯m cyntaf yn nhymor 2006-2007 ei fod wedi penderfynu ymddeol fel chwaraewr ac yntau yn 49 oed.

Fe'i gwnaethpwyd yn gapten am y diwrnod ac arweiniodd ei d卯m allan ar y cae yn llawn balchder. Ond yn gynnar iawn yn y g锚m, chwalodd y sgrym gyntaf, ac fe anafwyd Bryan yn ddifrifol. Mae wedi ei barlysu, ac yn derbyn gofal arbenigol mewn ysbyty yn Southport, ger Lerpwl. Mae'r ychydig eiliadau hynny ar y cae rygbi wedi newid ei fywyd yntau, ei wraig, Sue, a'u plant Ilan a Teleri am byth.

Meddai Lowri Gwilym, Golygydd Cynnwys Ffeithiol S4C, "Mae'r rhaglen yn gofnod o'r trawma i'r teulu a'r gymuned, ac hefyd o agwedd bositif pawb at y broses o ddygymod a symud ymlaen. Mae'n syfrdanol fod Bryan Davies yn medru rhannu ei brofiad mewn ffordd mor athronyddol, a hynny mewn cyfnod mor anodd iddo."

Dilwyn Morgan a Bryan Davies Ffilmiwyd y rhaglen dros gyfnod o rai misoedd, ac mae hefyd yn cynnwys uchafbwyntiau taith feicio go arbennig a wnaeth y digrifwr a'r cyflwynydd Noson Lawen, a ffrind i Bryan, Dilwyn Morgan. Yn haf 2007 mi feiciodd Dilwyn o Land's End i John O'Groats er mwyn hel arian ar gyfer Cronfa Ap锚l a sefydlwyd yn yr ardal i gynorthwyo Bryan a'i deulu.

Mae'r gymuned wedi llwyddo i godi 拢100,000 ar gyfer y Gronfa mewn chwe mis.

"Maen nhw am dalu 'n么l i Bryan," meddai Catrin. "Mae o'n berson mor arbennig. Mae o mor bositif a siriol, ac mae ei deulu hefyd yn anhygoel. Roedd meddyg yn yr ysbyty yn Southport yn dweud wrtha i mai nhw ydy'r bobl fwya' positif mae o erioed wedi dod ar eu traws."

Darlledir Y Ddamwain Rygbi, nos Fawrth, 15 Ionawr, 9.00pm ar S4C a nos Sul, 20 Ionawr, 7.00pm, S4C.


Cyfrannwch

Sue Davies
Sut mai Dilwyn, Nerys, Huw ac Ioan.Diolch o galon am eich geiriau caredig. Gobeithio eich bod i gyd yn cadw'n iawn acw'n Llanrug.Cofion cynnes atoch,Sue. x

Dilwyn a Nerys Rogers
Annwyl Bry, Sue a'r plant. Dwi wir wedi syfrdanu ar eich dewrder yn ystod y misoedd diwethaf. Roeddwn yn falch iawn o'ch gweld mor bositif ar eich rhaglen yr wythnos yma. Sue a Bry,'da ni'n meddwl amdanoch, Dy gefnder Dilwyn, Nerys, Huw a Ioan xxxx


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Ffilmiau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy