91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Trefi

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Iwan Llewelyn-Jones Pasiant M么r Mam Cymru
Mae hanes morwrol M么n yn cael ei adrodd ar ffurf drama a cherddoriaeth mewn pasiant arbennig.

M么r Mam Cymru yw enw pasiant newydd a gynhelir ym mro Amlwch fis Ebrill 2008.

Fe geir ynddo hanes a dylanwad y m么r ar fywyd a diwylliant y gymuned yng ngogledd M么n.

Fe ddechreuodd y cyfan efo'r frawddeg: "Dwi 'sho gneud rhywbeth yn Amlwch ar thema'r m么r". Geiriau Iwan Llewelyn-Jones (uchod), y pianydd proffesiynol sy'n perfformio ar hyd a lled y byd, ond 芒'i wreiddiau yn ddwfn yn Amlwch.

Yna fe ddaeth y syniad i lwyfannu pasiant fyddai'n cynnwys talentau bro gyfan, yn blant, pobl ifanc, athrawon, a rhieni, yn ddawnswyr a chorau, a phwy'n well i gyfarwyddo'r gwaith na Iwan, sydd a phrofiad eang o gydweithio gyda athrawon cerdd ysgolion cynradd ledled Cymru.

Gweithdy ar gyfer pasiant M么r Mam CymruMae'r gwaith hwnnw eisoes wedi cychwyn efo cyfres o weithdai cerddorol a llenyddol yng nghwmni Iwan Llewelyn-Jones a'r awdures Bethan Gwanas i gynrychiolaeth o athrawon o Ysgolion Cynradd Amlwch, Penysarn, Rhosybol, Carreglefn, Cemaes, Llanfechell, Moelfre a Benllech.

Fe fydd pob ysgol yn mynd ati i ysgrifennu darn o ryddiaith/barddoniaeth disgrifiadol a ddefnyddir fel sylfaen i greu cyfansoddiadau gwreiddiol offerynnol. Canolbwyntir ar ddefnydd o offerynnau i greu seiniau o bob math.

Bydd y pasiant yn cynnwys 130 o blant y cylch, ac yn ymuno efo nhw fe fydd C么r Trysglwyn o Amlwch, c么r a sefydlwyd yn 2007 o dan arweiniad Sara Huws ac Olwen Hughes, a hefyd Gr诺p Dawnsio Amlwch sydd yn enwog trwy Gymru a thu hwnt am ennill gwobrau dawnsio disgo o dan gyfarwyddyd Diana Hughes.

Mae rhai o ddisgyblion celf Ysgol Syr Thomas Jones ynghyd 芒 rhai oedolion o'r ardal gyda chymorth Islwyn Williams yn brysur wrthi'n paratoi cefndir gweledol i'r pasiant, ac fe fydd cwmni 'Mad' yn gofalu am y sain a'r goleuo.

Cynhelir y ddau berfformiad yn Neuadd Goffa Amlwch ar nos Wener a nos Sadwrn 18-19 Ebrill 2008 am 7.30yh.

Ariannwyd y prosiect gan Brosiect Ysgolion Bro, Awdurdod Addysg Lleol, Gyrfa Cymru, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Asiantaeth Gelf Gwynedd a M么n, a Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.


Cyfrannwch

Rhiannon Jones, Caernarfon
A yw yn bosibl archebu tocynnau oddi ar y we? Buaswn yn hoffi cael 2 ar gyfer nos Wener.
Thu Feb 28 13:21:27 2008


Nid ydym yn derbyn sylwadau ar gyfer y dudalen hon bellach.


Lleol i Mi
Radio Cymru
Llyfrau


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy