|
"Dwi'n helpu i hyfforddi timau ieuenctid p锚l-droed Amlwch - y rhai bach o dan saith ac un-ar-ddeg ar y cyd 芒 Richard Jones.
Mae gan Amlwch dimau Juniors hefyd, o dan 9 i 17. Maen nhw i gyd yn chwarae ar faes p锚l-droed Ysgol Gynradd Amlwch, ond yn y gaeaf, byddwn i gyd yn ymarfer yn y ganolfan hamdden. 'Da ni'n chwarae yng nghynghrair Ynys M么n, er fod timau eraill o dros y bont yn ymuno 芒 ni hefyd.
Mae'r t卯m o dan 11 yn ymarfer rhwng 5.45 a 7pm bob nos Fercher, y rhai o dan 13 ar nos Iau a'r t卯m o dan 17 ar hyn o bryd ar ddydd Gwener, rhwng 6 a 7pm. Mae'r rhai o dan 7 yn ymarfer rhwng 9.30 o 10.30am, y tu fewn i'r ganolfan hamdden, ac mae'r tim dan 9 yn cyfarfod rhwng 5pm a 6pm ar ddydd Gwener.
Mae'r t卯m dynion yn chwarae yn L么n Bach - ac mi ddaru nhw ennill cynghrair Ynys M么n yn 2006 ac maen nhw r诺an yn chwarae yng nghynghrair Gwynedd.
Roeddwn yn chwarae p锚l-droed i d卯m Amlwch fy hun tan ryw dair blynedd yn 么l, pan wnes i gael anaf i fy nghoes. Richard Jones oedd y paramedig ddaeth i fy nhrin ar y cae a ryw chwe mis wedyn mi ofynnodd imi helpu ychydig efo'r timau p锚l-droed, ac mi wnes i landio'n gyd-hyfforddwr efo fo!
Mae 'na lot o waith ond pan 'da chi'n ei fwynhau o fwy na'r plant, mae pethau'n iawn! Mae'r rhieni yn gymorth mawr i ni hefyd. Da ni newydd wneud cwrs child welfare efo'r FAW a daeth lot o'r rhieni i gael ychydig o hyfforddiant efo ni.
Dwi'n Gymraeg ail iaith a wastad yn ymarfer fy Nghymraeg gyda staff Bwrdd yr Iaith, ac felly y darganfyddais eu bod am sponsro'r t卯m lleol. Cynigiais ein t卯m o dan 17 oedd 芒 chrysau newydd heb ddim arnynt. Mae'n drefniant gwych. Mae'n bwysig hybu'r iaith.
Dwi'n dod o Amlwch yn wreiddiol, er imi symud i Ros y Bol yn chwe blwydd oed. Roeddwn yn gallu siarad Cymraeg yn iawn yn yr ysgol gynradd ond wedyn ar 么l cael lot o wersi yn Saesneg yn yr ysgol uwchradd, mi gollais lot ohono. Roeddwn yn dal yn gallu siarad Cymraeg ond wedi colli fy hyder, ond dwi wedi ailymafael ynddo gyda fy swydd yn helpu pobl ifanc gyda Hyfforddiant Parys. Dwi'n ddigon hyderus i gynnal cyfarfodydd yn y Gymraeg r诺an." Mae manylion cyswllt prif d卯m p锚l-droed Amlwch ar eu gwefan (ar y dde), ond os hoffech fwy o wybodaeth am y timau ieuenctid, ffoniwch Andrew ar 07725 358279.
 |