 |
 |
Barddoniaeth a llechi yn Llanberis Bu plant o ysgolion cynradd lleol yn dysgu am hanes y diwydiant llechi yng ngogledd Cymru ac ymarfer eu sgiliau 'sgwennu yn ystod Wythnos Barddoniaeth yn Amgueddfa Lechi Llanberis. |
 |
 |
 |
Edrychwch ar luniau o ymweliad dwy o'r ysgolion - Ysgol Pencarnisiog, Ynys M么n, ac Ysgol Dolbadarn, Llanberis - a darllenwch y cerddi a gyfansoddodd y plant gyda help y beirdd Iwan Llwyd, Gwyneth Glyn, Meirion McIntyre Huws a Myrddin ap Dafydd.
 |
 |
 |
 |
 |

 |
Plant Ysgol Gynradd Pencarnisiog a fu'n barddoni gyda chymorth Iwan Llwyd a Gwyneth Glyn. Enw'r gerdd wnaethon nhw ei chreu oedd Y Streic.
|
|
1听
2听
3听
4听
5听
6听
7听
8听
9听
|
 |
Y Streic Mae'n beryg rhwng Padarn a Pheris, mae'n aeaf y Gilfach Ddu, Mae'r hogia'n cwyno'n y caban a'r gegin yn wag yn y ty: "Mae'n bryd i ni roi'n harfau i lawr, a herio'r mistar yn y plasdy mawr!"Ffarw茅l i'r llwch ac i'r llechi, ffarw茅l i'r hen gyllell fach, Ffarw茅l i'r ffowndri a'r efail a'r holl beiriannau a'u strach - "Mae'n hundeb ni yn ddigon cry', ac ni fydd bradwr yn y ty!" Ond mae'n gafael ym Mhencarnisiog a'r un geiniog ym mhoced y gwr, mae'n llusgo yn 么l am y chwarel cyn bod rhwd ar yr olwyn ddwr: "rhyw ddydd cawn wared ar dy lwch a rhydd fydd c芒n yr hen afon Hwch!" Bl. 3, 4, 5, a 6, Ysgol Pencarnisiog gyda Gwyneth Glyn ac Iwan Llwyd Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis, 10 Mawrth 2005 |
 |
|
 |
 |
 |
听
|
 |
 |
 |
Dyw'r 91福利社 ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
 |
 |
 |

|