91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Rhodri Jones Diwrnod ola'r ysgol

Bron i ddeugain mlynedd wedi boddi cwm Tryweryn, Rhodri Jones, gynt o fferm Craignant, sy'n adrodd hanes diwrnod olaf Ysgol Capel Celyn drwy lygaid plentyn.

"Be dwi'n ei gofio fwyaf am Celyn yw bod fy nhad a mam a 'nheulu yn siarad am y boddi 'ma oedd yn mynd i ddigwydd.

"Roedd 'na s么n adre ar y ffarm beth oedd yn mynd i ddigwydd i'r bobl ar 么l iddyn nhw gael eu hel o'u cartrefi. Ond doedd neb yn gwybod dim byd. Doedd pobl yr ardal ar y pryd ddim yn gallu cymryd beth oedd yn digwydd i fewn oherwydd 'doedden nhw ddim yn deall fod gan lywodraeth Lerpwl y dechnoleg i fedru boddi cwm cyfa' - roedd rhoi argae drosto a'i lenwi efo d诺r yn anhygoel iddyn nhw, ond fe 'da ni'n gwybod heddiw, mi ddaru nhw wneud hynny, ac yn hawdd hefyd.

"Wrth gwrs, doeddwn i ddim yn dallt yn iawn beth oedd yn digwydd, ond roeddwn i yn dallt fod 'na bryder mawr ynghylch y bobl fyddai'n byw yn y cwm ar 么l i'r gymdeithas i chwalu. Lle 'roedden nhw am fynd i'r capel ac i gyfarfod? Roedd yn amser o drybini mawr i bobl Celyn.

"Fi oedd un o'r plant ola' i gael ei dderbyn i Ysgol Celyn. Wrth fynd i'r ysgol bob dydd, 'dwi'n cofio gweld y cwm yn cael ei ddinistrio gan y peiriannau mawr 'ma. Roedden nhw'n anferth - yn gwneud s诺n mawr a'r ysgol yn crynu wrth iddyn nhw fynd heibio yn cario'r llwythi o bridd yn 么l ac ymlaen.

"Beth sy'n sticio yn fy nghof i fwya' ydy clywed s诺n y chainsaws yn gwneud s诺n buzzian drwy'r dydd, a gweld y coed yn cael eu towlyd o bellter, a s诺n y coed wrth iddyn nhw ddisgyn i lawr. Roedd y coed fel petasen nhw'n sgrechian, ac roedd yn dod yn agosach ac yn agosach at yr ysgol.

"Fydde ni'n cerdded adref wedyn, a gweld lyris yn pasio, bois yn siarad Saesneg, a'r tai yn cael eu chwalu - yn dod yn agosach ac yn agosach.

Y llun olaf o blant yr ysgol efo'i gilydd (Rhodri Jones ydy'r trydydd o'r chwith yn y rhes flaen. Llun: Gwyn Evans, y Bala)."Rhywbeth arall sy'n sefyll yn fy nghof i ydy mynd i'r ysgol ar y diwrnod ola'. Mi ddywedodd un o'r plant h欧n: "Miss, Miss. Ydy o'n wir bod nhw am chwalu'n hysgol ni?"

A dyma Mrs Martha Roberts yn dweud: "Yndi blant, mae o'n wir, maen nhw'n mynd i chwalu'r ysgol a chario'r cerrig i wneud yr argae, a heddiw fydd y diwrnod olaf fyddwn ni'n eistedd yma fel ysgol. 'Den ni'n mynd i dynnu lluniau r诺an."

"Roedd yna newyddiadurwyr o gwmpas pan adawon ni'r ysgol. Dyma ni'n mynd allan, a Mrs Roberts yn tacluso yn union fel bydde hi'n ei wneud tase fo'n ddiwrnod cyffredin, a'n bod ni am fynd n么l fory, ond wrth gwrs 'doedden ni ddim am fynd yn 么l fory.

Ymlaen i'r ail dudalen

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy