91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ffermdy Galan ddu Y tri th欧
Roedd y tir lle saf pwerdy Wylfa heddiw yn faes chwarae enfawr i Helen Owen yn blentyn. Dyma ei hatgofion hi o dri th欧 yr ardal cyn iddynt gael eu dymchwel gyda dyfodiad yr oes niwclear.

Fel plant, byddem yn mynd i chwarae o gwmpas lle mae Wylfa r诺an. Roedd arfer bod hen d欧 Galan Ddu ar y tir. Roedd yn gartref i Emma D'Oisley, cantores opera oedd yn defnyddio'r enw Rosina Buckland.

Gafodd ei chladdu ger ei th欧 ym Mhorthwnal, ond gafodd ei chorff ei symud i Eglwys Llanbadrig yng Nghemaes pan gafodd y t欧 ei dynnu lawr wrth iddynt adeiladu Wylfa.

Roedd ei bedd ger ei th欧 o dan hen greigan fawr le y byddai'n eistedd i sgwennu llythyrau ar ddyddiau Sul, yn 么l y s么n. Byddem ni fel plant bach yn chwarae fa'na a pob nos, cyn gadael, yn ffarwelio a hi. Roedd 'na 'R.I.P' wedi sgwennu ar y bedd; fel plant bach Cymreig heb lawer o Saesneg, 'doedden ni ddim yn si诺r beth oedd hynny'n olygu. Ond yn y diwedd, ddaru ni benderfynu mai 'Return if Possible' oedd o, felly dyna beth fyddem yn dweud wrthi pob nos! 'Goodbye Emma D'Oisley, going home now, return if possible.'

Maen nhw'n dweud mai ei hysbryd hi sydd yn Wylfa, er dwi ddim yn si诺r iawn o hynny.

Fuo cefnder a chyfnither i mi yn byw yng Nghalan Ddu, ac roedd Eric yn gweithio yn Wylfa. Un noson, penderfynodd chwarae tap o ferch yn canu opera yn y twnnel lle'r oedd y gweithwyr Gwyddelig yn gweithio! 'Doedd neb yn adnabod llais Rosina, felly falle dyna lle gychwynnodd y straeon am ysbryd!

Dwi'n cofio hefyd mynd i lawr i draeth Tward efo Lady Vivian o blasty Cestyll i hel shrimp. Wrth reswm roedd rhwyd shrimps yn beth dieithr i ni; 'doedden ni erioed wedi gweld rhwyd mor fach.

Wedyn byddai Richard, ei butler, yn dod lawr i'r traeth i nofio. Byddai'n cerdded o'r t欧 a dros y cae efo gabord卯n dros ei tryncs nofio! Dyna fo'n tynnu ei sgydiau a'r gabord卯n ac yn neidio mewn i'r m么r.

Mae tir Cestyll hefyd yn rhan o Wylfa, ond maen nhw wedi tynnu'r hen d欧 lawr erbyn hyn. Ddaru nhw hefyd dynnu lawr hen Wylfa Manor.

Wylfa Manor Roedd yn d欧 mawr efo grisiau'n mynd i fyny i'r drws ffrynt, a dwy lusern fawr pob ochr. Roedd Mr David Hughes yn byw yna, taid i Ronnie Madog Jones ddaru roi'r arian i adeiladu neuadd pentref Cemaes.

Yna, cafodd ei ddefnyddio fel llety i efaciw卯s adeg rhyfel. Dwi'n cofio mam a thair o'i ffrindiau yn cael eu gofyn i fynd draw i llnau'r lle, a ni'r plant yn mynd efo nhw. Roedd 'na grisiau spiral yn mynd i fyny i'r to ac yn y gegin, roedd 'na ddau ddrws pob ochr i'r Aga. Dwi'n cofio mam yn stopio ni rhag agor yr un i'r chwith gan fod 'na risiau yn mynd i lawr i'r m么r. Mi ges i gip olwg a dwi'n cofio gweld gwyrddni'r gwman sydd ar waelod y m么r; efallai ei bod yn llwybr i lawr i Draeth Porth yr Ogof.

Mae gen i hen deilsen o laethdy Wylfa Manor; un efo stori 'Esop's Fable' arno. Roedd y rhain ar waliau'r llaethdy, o'r top i'r gwaelod.

Mae o'n wahanol gweld ardal Wylfa heddiw heb yr hen dai yma, wrth reswm, ond wrth edrych arno, dwi wastad yn gweld o y ffordd yr oedd pan roeddem yn blant. Mynd am dro ar ddydd Sul i Ynys yr 糯yn lawr i Borth yr Ogof lle'r oedd bad achub cyntaf Cemaes. Byddem wastad yn dod o hyd i blisgyn coconyt; falle roeddent wedi cael eu golchi i'r lan o'r llongau oedd yn mynd heibio ar eu ffordd i Lerpwl. Roedd yn bosib chwarae yna trwy'r dydd, yn ddigon diogel ac yn llawer o h诺yl.

Dewch am dro drwy Gerddi Cestyll.

0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy