91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Amddiffyn rhag yr Almaenwyr
Sut oedd Gogledd Cymru am amddiffyn ei hun rhag oresgyniad yr Almaenwyr yn ystod yr Ail Rhyfel Byd? Medwyn Parry o Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy'n ein hatgoffa bod olion yr amddiffynion dal i'w gweld hyd heddiw.

Amddiffynfa 'pill box' yng Nghaergybi.  Hawlfraint Medwyn Parry. Yn 1940, ddaru'r llywodraeth baratoi am oresgyniad Almaeneg ar ddechrau'r Ail Rhyfel Byd. Roedd yr Almaenwyr wedi meddiannu Norwy ac yn symud yn gyflym drwy'r Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc. Roedd y Swyddfa Ryfel felly yn credu ei bod yn bosib y byddent yn hwylio draw i'r Iwerddon ac yna croesi'r m么r i Gymru - wrth hefyd groesi i ogledd Lloegr o Norwy, ac i'r de o'r Iseldiroedd; 'three-pronged attack', fel petai.

Ddaru nhw felly fynd ati i adeiladu a gosod 'pill boxes' ledled y wlad. Mae nhw'n edrych fel cestyll bach crwn - Cestyll Bach Cymru.

Yn debyg i wal Hadrian neu wal fawr Tsiena, ddaru nhw osod 'pill boxes' mewn rhesi dros de Cymru. Ond yn y gogledd, roedd rhaid gosod yr amddiffynfeydd yn y bylchau rhwng y mynyddoedd gan mai dyna'r unig lefydd i filwyr Almaen groesi'r ardal. Roedd yna rai yn Nant Ffrancon, Pen y Pas, Llanberis a Beddgelert.

Roedd Caergybi yn wahanol. Fa'na, ac Aberdaugleddau, oedd y ddau brif darged yng Nghymru oherwydd bod yna harbwr, lonydd da, rheilffordd a maes awyr heb fod ym mhell. Ddaru nhw felly osod y 'pill boxes' mewn cylchoedd consentrig, y naill tu 么l i'r llall. Byddai'r gynau o'r rhai cyntaf yn amddiffyn yr harbwr, a'r ail res yn amddiffyn y rhai blaen. Byddai'r saethwyr yn yr amddiffynfeydd allanol yn saethu ac ymosodiad o'r ystlys; o Fae Trearddur a Stanley Embankment, fel ddaru ni ei wneud yn Normandy.

Y Gwarchodlu Cartref oedd yn edrych ar 么l yr amddiffynfeydd. Roeddent yn griw proffesiynol erbyn diwedd y rhyfel; dynion yn eu pedwardegau, oedd wedi cael profiad o sut beth oedd rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf. Hefyd, roedd hyn cyn y ddeddf arfau t芒n ac felly roedd gan nifer fawr o bobl wn adref.

Byddai'r gynau a'r bwledi yn cael eu cadw yn y pencadlysoedd lleol; unwaith iddynt weld y bal诺n yn mynd fyny i rybuddio bod y gelyn ar y ffordd, byddai'r Gwarchodlu Cartref yn mynd yn syth i'r 'pill boxes', yn barod i saethu.

Roedd yna hefyd Warchodlu Cartref cynorthwyol - y fyddin gyfrinachol - i amddiffyn y wlad. Nid oedd yr aelodau yn ymwybodol pwy arall oedd hefyd yn rhan ohono i'w ddiogelu rhag y gelyn. Byddai pobl fel y ciper a'r potsiwr yn aelodau gan eu bod yn adnabod y wlad yn dda, yn enwedig gyda'r nos. Ddaru nhw adeiladu byncars iddynt gyfarfod mewn diogelwch os fyddai rhywbeth wedi digwydd. Byddent yn cuddio o dan y ddaear nes i'r gelyn fynd heibio, wedyn creu hafoc ar eu holau. Mae yna un ym Modelwydden

Amddiffynfa 'pill box' ger Llandegla.  Hawlfraint Medwyn Parry. Mae'r amddiffynfeydd yma dal o gwmpas; mae pobl yn gyrru heibio nhw pob dydd, heb wybod. Mae yna dal rhai ym Mwlch Oerddrws ger Mallwyd ac un arall ym Mwlch Talyllyn. Gan eu bod wedi eu gwneud allan o goncrit, mae'n eithaf anodd cael gwared ohonynt!

Ddaru nhw erioed gael eu defnyddio, wrth gwrs. Aeth yr Almaenwyr ati i drawsnewid ysgraffau ar afonydd y Rhine a'r Ruhr fel y gallent fynd ar y m么r. Ond roedd unrhyw beth oedd yn mynd o dan 12 notiau yn darged amlwg, ac roedd y cychod bach yma dim ond yn mynd rhyw 3 neu 4 not. Byddai'r llynges wedi eu suddo cyn iddynt fynd ar gyfyl Iwerddon.

Mae yna amddiffynfeydd eraill i'w gweld o amgylch arfordir Cymru hefyd. Roedd yn rhaid i'r Royal Artillery symud o'r Amwythig i rywle tu hwnt i amrediad yr awyrennau bomio. Ddaru nhw felly adeiladu llefydd i ymarfer ar y Gogarth Fawr yn Llandudno; mae'r Gun Sites ger Ffordd Llyshelyg dal yna hyd heddiw.

Mae yna hefyd rai hen safleoedd radar ar 么l ar hyd yr arfordir. Roeddent yn gallu anfon negeseuon hyd at 60 milltir i ffwrdd, felly roedd yna safleoedd reit o amgylch Prydain. Roedd yna un yn Hen Golwyn, ar y Gogarth Fawr, ar y safle lle mae atomfa Wylfa r诺an a hefyd yn Nefyn.

Yn y diwedd, ddaru'r Almaenwyr byth ddod ond roedd yr ofn yn beth go iawn i'r bobl ar y pryd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91福利社 - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy