|
"Rydw i'n cofio s诺n eropl锚n yn y nos a gorchuddio ffenestri efo ryw gadach du. 'Bomio Lerpwl,' medda Taid. "Cof hefyd am Harri a Tomi Oaks - dau faciw卯 Rheithordy Dolbenmaen yn begera ar eu cythlwng am frechdan siwgwr gin Nain. "Roedd prinder siwgwr i wneud jam eirin a Nain yn arswydo gwastraffu eirin da - roedd y cymdogion yn yr un twll. Mi fyddai jam yn cael ei wneud efo swetsh yn 么l Taid. "Cofio hefyd y tywyllwch dudew a cherddad i wal gerrig yn ymyl Tanffolt pan oeddwn yn ffitio yno am ffrog newydd. Casaf ddillad newydd hyd heddiw!"
 |