91福利社

Explore the 91福利社
Mae鈥檙 dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw鈥檔 cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Hanes Lleol

91福利社 91福利社page
91福利社 Cymru
91福利社 Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd

Gogledd Orllewin

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Tywydd / Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Cerddoriaeth

Oriel yr Enwogion

Trefi a Phentrefi

Awyr Agored

Hanes

Lluniau

Gwefannau lleol

Eich Llais Chi

91福利社 Vocab
OFF / I FFWRDD
Turn ON
Troi YMLAEN
What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!


Cloddfeydd copr Mynydd Parys
Y Copr Ledis

Mae gan Mair Roberts o Laneilian, Ynys M么n ddiddordeb mawr yn y Copr Ledis ar Fynydd Parys byth ers clywed amdanyn nhw gyntaf mewn stor茂au gan ei nain.

Nain ddywedodd hanes y Copr Ledis wrtha' i gan fod ei mam a'i nain hi wedi gweithio yn y cytiau copr. Mi benderfynais ddysgu mwy am eu hanes gan astudio cyfrifiadau y 1800au ond does na ddim llawer o s么n amdanyn nhw yno. Doedd merched ddim mor bwysig bryd hynny a'r drefn oedd eu cyfri naill ai fel gwraig neu ferch i'r penteulu.

Roedd y Copr Ledis yn gweithio mewn cytiau hir iawn oedd wedi eu hadeiladu yn agos at lle roedd y gweithwyr yn cloddio am gopr. Byddai tua 80 o wragedd yn gweithio mewn un sied, pawb yn eistedd ar stolion bychain o flaen y bwrdd yn curo a hynny am ddeuddeg awr ar y tro. Wrth ddefnyddio carreg guro sef morthwyl bychan o haearn oedd yn pwyso tua phedwar pwys - roedden nhw'n curo darnau o'r graig yn llai ar gyfer y ffwrneisi.

Byddai'r merched yn gwisgo ffedogau lledr trwm a sgarffiau cotwm patrymog smotiog am eu pennau a het jim cro meddal ar ben y cyfan. Roedd y sgarff yn gwarchod y pen rhag llwch a s诺n. Roedden nhw hefyd yn gwisgo menyg lledr tew a modrwyau metal ar bob bys i warchod eu dwylo rhag anaf. Ar eu traed redden nhw'n gwisgo clocsiau gan fod cymaint o asid yn y d诺r a'r glaw oedd yn llifo o'r mwyngloddiau fel y byddai wedi bwyta unrhyw ddefnydd arall.

Roedd llawer yn gwneud clocsiau bryd hynny yn arbennig yn Llanerchymedd a Phensarn. Dw i'n cofio un ohonyn nhw pan oeddwn i'n hogan ifanc. Roedd dillad yn dal i gael eu dogni felly byddai'n rhaid arbed y 'coupons' a mynd 芒 hen sgidiau eich rhieni i'w gwneud yn glocsiau. Maen nhw'n dal gen i ac ar yr un patrwm 芒'r clocsiau roedd y Ledis yn eu gwisgo.

Er nad oes gen i dystiolaeth, dwi'n meddwl bod y Ledis yn canu wrth weithio gan daro'r morthwylion ar ddechrau pob bar. Fe fyddai hynny'n eu helpu i ddiodde s诺n uchel y curo oherwydd byddai taro'r morthwylion ar draws ei gilydd yn ddigon i ddrysu unrhyw un.

Mae Owen Gruffydd wedi sgwennu llyfr gwych am y bobl oedd yn gweithio ar Fynydd Parys. Mae'n s么n am un hen wraig o'r enw Phoebe Morris yn canu bas. Dydw i ddim yn s诺r os mai allan o diwn oedd hi neu os oedden nhw'n canu mewn mwy nag un llais. Mae Owen Gruffydd hefyd yn s么n am g芒n gan y Ledis Copr oedd 芒 12 pennill am fywyd ar y mynydd. Mae un pennill am fwyd - gan eu bod yn cadw ieir, roedd wyau yn rhad ac fe fydden nhw'n canu am grempogau yn nofio mewn menyn.

Rydw i hefyd wedi ymchwilio i hanes y mwynwyr ar Fynydd Parys. Cyn i reolwyr newydd gymryd drosodd yn y 1860au, roedd y dynion yn gweithio ymhell i'w 80au gan nad oedd ffordd arall o ennill eich bara menyn. Pan benderfynodd y weinyddiaeth newydd geisio cael gwared arnyn nhw, fe ysgrifennwyd llythyrau at Ardalydd M么n, sef y perchennog, yn gofyn am bensiynau. Wrth ddarllen y llythyrau yma, fel un ar ran Huw Hughes, fe allwch amcangyfrif bod y dynion wedi dechrau gweithio yn bump a chwech oed. Mae'n rhaid eu bod wedi eu clymu ar gefnau eu tadau i weithio yn y twneli lleiaf. Neu roedden nhw'n gweithio ar yr wyneb, yn cario copr i'r siediau. Roedd yn fywyd caled i bawb oedd yn gweithio ar Fynydd Parys.

Gellir darllen mwy am Fynydd Parys ym mhapurau Plas Newydd yng Nghasgliad Mostyn yn Archifau Prifysgol Bangor.



Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Oes ganddoch chi sylw am hanes yr ardal yma neu hanes lleol arall i'w rannu? Ebostiwch ni neu llenwch y ffurflen isod.
Enw a lleoliad (e.e. (none)):

Sylw:




Mae'r 91福利社 yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch 芒 ni.



0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh


About the 91福利社 | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy